https://wici.porth.ac.uk/api.php?action=feedcontributions&user=CadiW&feedformat=atomWICI - Cyfraniadau'r defnyddiwr [cy]2024-03-28T12:04:18ZCyfraniadau'r defnyddiwrMediaWiki 1.28.0https://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Duffy_(g.1984)&diff=5491Duffy (g.1984)2021-09-26T12:52:32Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Ganed y gantores Duffy (neu Aimée Ann Duffy i roi ei enw llawn) ym Mangor ar 23 Mehefin 1984. Cafodd ei magu yn Nefyn ac yn ddiweddarach yn Nhreletert ger Abergwaun. Ar ôl dychwelyd am gyfnod i Lŷn bu’n astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor ac yna ym Mhrifysgol Caer, cyn cychwyn ar ei gyrfa gerddorol fel cantores.

Yn 2003 ymddangosodd fel cystadleuydd ar y gyfres gerddorol ''Wawffactor'' ar S4C gan gipio’r ail safle (Lisa Pedrick oedd yn fuddugol). Yn dilyn ei llwyddiant ar y rhaglen rhyddhaodd yr EP ''Aimée Duffy'' (2004) ar label Awen. Derbyniodd yr EP glod gan y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] Cymraeg gan ddod i’r brig ar un o siartiau C2 yn 2008. Ar ôl symud i Lundain a chael ei chyflwyno i unigolion blaenllaw fel Jeanette Lee o recordiau Rough Trade, awgrymwyd y dylai fabwysiadu cerddoriaeth ''soul'' fel ei phrif ''genre''. Yn dilyn hynny arwyddwyd Duffy gan label A&M Records a chafodd gyfle i recordio ei halbwm cyntaf, ''Rockferry'' (A&M, 2008). [[Delwedd:Duffy Super Bock.jpeg|thumb|Duffy yn perfformio yng Ngŵyl Super Bock Super Rock yn Lisbon, 2009.]]

Bu llwyddiant ''Rockferry'' yn gwbl syfrdanol. Gwerthodd 180,000 o gopïau yn ystod yr wythnos ar ôl cael ei ryddhau, ac arhosodd ar frig y siartiau am fis. Bu’r gwerthiant yn bennaf o ganlyniad i boblogrwydd y sengl ‘Mercy’ a ryddhawyd fis yn gynharach na’r albwm, gan fynd yn syth i frig siartiau senglau Prydain. Enwebwyd y sengl ar gyfer un o wobrau Grammy’r flwyddyn honno, ac mae’r gân wedi cael ei defnyddio droeon ers hynny ar gyfer [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]] megis ''ER'', ''Gray’s Anatomy'' a ''Smallville''. ‘Mercy’ oedd y gân gyntaf gan gantores Gymreig i gyrraedd brig y siartiau Prydeinig ers ‘Total Eclipse of the Heart’ gan [[Tyler, Bonnie (g.1951) | Bonnie Tyler]] bum mlynedd ar hugain ynghynt. Hyrwyddodd Duffy ei halbwm ymhellach drwy gyfrwng perfformiadau amrywiol ar raglenni fel ''Later with Jools Holland''. Daeth llwyddiant iddi yn yr Unol Daleithiau hefyd gydag ymddangosiadau ar raglenni megis ''Late Night with Conan O’Brien''.

Dilynwyd ''Rockferry'' ddwy flynedd yn ddiweddarach gan ei hail albwm, ''Endlessly'' (A&M, 2010), ond ni chafodd yr un llwyddiant â ''Rockferry''. Rhyddhawyd un sengl, ‘Well Well Well’, a gyrhaeddodd rif 41 yn y siartiau Prydeinig. Ers hynny, ymddangosodd y gantores mewn ffilmiau a hysbysebion teledu amrywiol wrth iddi gymryd seibiant o’i gyrfa gerddorol. Ymddangosodd yn y ffilm Gymraeg, ''Patagonia'' (Rainy Day Films, 2010) a ryddhawyd erbyn gŵyl ffilmiau ryngwladol Seattle ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Ymddangosodd hefyd yn ffilm Brian Helgeland, ''Legend'' (StudioCanal, 2015), gan gyfrannu dwy gân at y trac sain.

Disgrifir ''genre'' cerddorol Duffy fel ''blue-eyed soul'' ac mae ''Rockferry'' yn cael ei gydnabod fel un o albymau pwysicaf y ''genre'' yn negawd cyntaf yr 21g. Cymharwyd ei llais â chantoresau megis Dusty Springfield (1939– 99) a’i chyfoeswraig Amy Winehouse (1983–2011). Ynghyd ag Adele, Gabriella Cilmi ac Estelle, y mae Duffy yn nodweddu cyfnod o amlygrwydd i ferched ifainc fel artistiaid unigol ym Mhrydain a thu hwnt.

'''Gethin Griffiths'''

==Disgyddiaeth==

*''Aimée Duffy'' (Awen CD212, 2004)

*''Rockferry'' (A&M 179009-0, 2008)

*''Endlessly'' (A&M 2757411-70 , 2010)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Duffy_Super_Bock.jpeg&diff=5490Delwedd:Duffy Super Bock.jpeg2021-09-26T12:52:15Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Duffy Super Bock.jpeg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Duffy_Super_Bock.jpeg&diff=5489Delwedd:Duffy Super Bock.jpeg2021-09-26T12:51:52Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Duffy_(g.1984)&diff=5488Duffy (g.1984)2021-09-26T12:51:33Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Ganed y gantores Duffy (neu Aimée Ann Duffy i roi ei enw llawn) ym Mangor ar 23 Mehefin 1984. Cafodd ei magu yn Nefyn ac yn ddiweddarach yn Nhreletert ger Abergwaun. Ar ôl dychwelyd am gyfnod i Lŷn bu’n astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor ac yna ym Mhrifysgol Caer, cyn cychwyn ar ei gyrfa gerddorol fel cantores.

Yn 2003 ymddangosodd fel cystadleuydd ar y gyfres gerddorol ''Wawffactor'' ar S4C gan gipio’r ail safle (Lisa Pedrick oedd yn fuddugol). Yn dilyn ei llwyddiant ar y rhaglen rhyddhaodd yr EP ''Aimée Duffy'' (2004) ar label Awen. Derbyniodd yr EP glod gan y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] Cymraeg gan ddod i’r brig ar un o siartiau C2 yn 2008. Ar ôl symud i Lundain a chael ei chyflwyno i unigolion blaenllaw fel Jeanette Lee o recordiau Rough Trade, awgrymwyd y dylai fabwysiadu cerddoriaeth ''soul'' fel ei phrif ''genre''. Yn dilyn hynny arwyddwyd Duffy gan label A&M Records a chafodd gyfle i recordio ei halbwm cyntaf, ''Rockferry'' (A&M, 2008).

Bu llwyddiant ''Rockferry'' yn gwbl syfrdanol. Gwerthodd 180,000 o gopïau yn ystod yr wythnos ar ôl cael ei ryddhau, ac arhosodd ar frig y siartiau am fis. Bu’r gwerthiant yn bennaf o ganlyniad i boblogrwydd y sengl ‘Mercy’ a ryddhawyd fis yn gynharach na’r albwm, gan fynd yn syth i frig siartiau senglau Prydain. Enwebwyd y sengl ar gyfer un o wobrau Grammy’r flwyddyn honno, ac mae’r gân wedi cael ei defnyddio droeon ers hynny ar gyfer [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]] megis ''ER'', ''Gray’s Anatomy'' a ''Smallville''. ‘Mercy’ oedd y gân gyntaf gan gantores Gymreig i gyrraedd brig y siartiau Prydeinig ers ‘Total Eclipse of the Heart’ gan [[Tyler, Bonnie (g.1951) | Bonnie Tyler]] bum mlynedd ar hugain ynghynt. Hyrwyddodd Duffy ei halbwm ymhellach drwy gyfrwng perfformiadau amrywiol ar raglenni fel ''Later with Jools Holland''. Daeth llwyddiant iddi yn yr Unol Daleithiau hefyd gydag ymddangosiadau ar raglenni megis ''Late Night with Conan O’Brien''. [[Delwedd:Duffy Super Bock.jpeg|thumb|Duffy yn perfformio yng Ngŵyl Super Bock Super Rock yn Lisbon, 2009.]]

Dilynwyd ''Rockferry'' ddwy flynedd yn ddiweddarach gan ei hail albwm, ''Endlessly'' (A&M, 2010), ond ni chafodd yr un llwyddiant â ''Rockferry''. Rhyddhawyd un sengl, ‘Well Well Well’, a gyrhaeddodd rif 41 yn y siartiau Prydeinig. Ers hynny, ymddangosodd y gantores mewn ffilmiau a hysbysebion teledu amrywiol wrth iddi gymryd seibiant o’i gyrfa gerddorol. Ymddangosodd yn y ffilm Gymraeg, ''Patagonia'' (Rainy Day Films, 2010) a ryddhawyd erbyn gŵyl ffilmiau ryngwladol Seattle ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Ymddangosodd hefyd yn ffilm Brian Helgeland, ''Legend'' (StudioCanal, 2015), gan gyfrannu dwy gân at y trac sain.

Disgrifir ''genre'' cerddorol Duffy fel ''blue-eyed soul'' ac mae ''Rockferry'' yn cael ei gydnabod fel un o albymau pwysicaf y ''genre'' yn negawd cyntaf yr 21g. Cymharwyd ei llais â chantoresau megis Dusty Springfield (1939– 99) a’i chyfoeswraig Amy Winehouse (1983–2011). Ynghyd ag Adele, Gabriella Cilmi ac Estelle, y mae Duffy yn nodweddu cyfnod o amlygrwydd i ferched ifainc fel artistiaid unigol ym Mhrydain a thu hwnt.

'''Gethin Griffiths'''

==Disgyddiaeth==

*''Aimée Duffy'' (Awen CD212, 2004)

*''Rockferry'' (A&M 179009-0, 2008)

*''Endlessly'' (A&M 2757411-70 , 2010)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Tyler,_Bonnie_(g.1951)&diff=5487Tyler, Bonnie (g.1951)2021-09-26T12:46:15Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Cantores bop a ddaeth i amlygrwydd ar ddiwedd yr 1970au gan brofi cryn lwyddiant rhyngwladol yn ystod yr 1980au. Fe’i ganed yn Sgiwen, ger Castell-nedd. Glöwr oedd ei thad. Roedd ei mam yn gerddorol a chanai yn y côr lleol. Ar ddechrau’r 1970au bu Bonnie Tyler, neu Gaynor Hopkins fel ag yr ydoedd ar y pryd, yn dra llwyddiannus mewn cystadlaethau talent lleol, ac yn 1975 cafodd gynnig cytundeb recordio gyda label RCA yn Llundain. Newidiodd ei henw i Sherene Davis yn ystod yr 1970au cynnar am ei fod yn rhy debyg i enw’r gantores bop o Gymru, [[Hopkin, Mary (g.1950) | Mary Hopkin]], cyn ei newid drachefn tua 1975, ar gais RCA i Bonnie Tyler.

Y dylanwadau cynnar ar Tyler oedd cantoresau ''soul'' a ''blues'' megis Tina Turner a Janis Joplin. Gwnaeth ei marc gyntaf gyda’r gân ‘Lost in France’ (RCA, 1976) - un o nifer o senglau cynnar a gyfansoddwyd ac a gynhyrchwyd gan Steve Wolfe a Ronnie Scott ac a gyrhaeddodd ddeg uchaf y siartiau cenedlaethol. Gwerthodd trydedd sengl Tyler, ‘It’s a Heartache’ (RCA, 1977), dros filiwn o gopïau yn Unol Daleithiau America gan gymell rhai i gymharu ei llais pwerus, llawn mynegiant ag eiddo’r canwr Rod Stewart. [[Delwedd:Bonnie Tyler Eurovision.JPG|thumb|Bonnie Tyler yn canu yng nghystadleuaeth ''Eurovision'' yn Sweden, 2013.]]

Arwyddodd Tyler i label Columbia/CBS yn America yn 1983 gan gydweithio gyda Jim Steinman, a fu’n gyfrifol am gyfansoddi a chynhyrchu recordiau megis ''Bat Out of Hell'' gan y canwr Meatloaf. Bu’n berthynas lwyddiannus, a chyrhaeddodd ‘Total Eclipse of the Heart’ rif un yn siartiau America a Phrydain yn 1983, gyda’r record hir ''Faster Than the Speed of Light'' (Columbia, 1983) hefyd yn cyrraedd y brig. Recordiodd Tyler ddeuawd gyda [[Shakin' Stevens (g.1948) | Shakin’ Stevens]] yn 1983 (‘A Rockin’ Good Way’), Cymro arall a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr 1980au, a chanodd hefyd gyda’r cerddor amldalentog Todd Rundgren ar ei record hir ''Secret Dreams and Forbidden Fire'' (Columbia, 1986). Roedd y gân ‘Holding Out For A Hero’, oddi ar yr un albwm, wedi’i defnyddio’n wreiddiol yn y [[ffilm]] ''Footloose'' (Paramount, 1984).

Daeth newid cyfeiriad yn ystod yr 1990au gyda phoblogrwydd Tyler yn cynyddu mewn gwledydd Ewropeaidd megis yr Almaen, Norwy a Sweden, ac yn 2003 cafodd lwyddiant yn Ffrainc ar ôl recordio deuawd gyda’r gantores Kareen Antonn. Roedd recordiau megis ''Angel Heart'' (Hansa, 1992) yn perthyn i arddulliau pop canol-y-ffordd a chanu gwlad, ac, yn achos ''All In One Voice'' (EastWest, 1998), yn cynnwys rhai dylanwadau gwerinol a Cheltaidd. Aeth i gyfeiriad pop symffonig yn ddiweddarach gan gynhyrchu record hir o drefniannau pop gyda’r cyfansoddwr [[Jenkins, Karl (g.1944) | Karl Jenkins]] o’r enw ''Heart Strings'' (CMC, 2002) i gyfeiliant cerddorfa symffoni o Brâg. Cynrychiolodd Brydain yng nghystadleuaeth ''Eurovision'' yn Sweden yn 2013.

Yn wahanol i gantoresau megis Mary Hopkin a [[Matthews, Cerys (g.1969) | Cerys Matthews]], ni chanodd Tyler yn Gymraeg cyn troi i’r Saesneg. Yn wir, dywedodd mewn cyfweliad yn 2012, ‘Does neb o’r ardal honno [Sgiwen] yn siarad Cymraeg, felly wnes i erioed ddysgu’r iaith.’ Efallai y byddai ei gyrfa wedi bod yn wahanol petai’r Gymraeg wedi bod yn rhan o’i chefndir a’i magwraeth.

'''Pwyll ap Siôn'''

==Disgyddiaeth==

*''The World Starts Tonight'' (RCA PL25063, 1977)

*''Natural Force'' (RCA PL25152, 1978)

*''Diamond Cut'' (RCA PL25194, 1979)

*''Goodbye to the Island'' (RCA LP5002, 1981)

*''Faster Than the Speed of Night'' (CBS 25304, 1983)

*''Secret Dreams and Forbidden Fire'' (CBS 86319, 1986)

*''Hide Your Heart'' (CBS 460125, 1988)

*''Bitterblue'' (Hansa 212142, 1991)

*''Angel Heart'' (Hansa 74321 11491, 1992)

*''Silhouette in Red'' (Hansa 74321 16522, 1993)

*''Free Spirit'' (EastWest 0630-12108-2, 1996)

*''All in One Voice'' (EastWest 3984-25658-2, 1998)

*''Heart Strings'' (CMC 5423452, 2002)

*''Simply Believe'' (EGP 517024 2, 2004)

*''Wings'' (Stick 100, 2005)

*''Rocks and Honey'' (ZYX 21010-2, 2013)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Bonnie_Tyler_Eurovision.JPG&diff=5486Delwedd:Bonnie Tyler Eurovision.JPG2021-09-26T12:45:49Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Bonnie Tyler Eurovision.JPG

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Bonnie_Tyler_Eurovision.JPG&diff=5485Delwedd:Bonnie Tyler Eurovision.JPG2021-09-26T12:45:30Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Bonnie Tyler Eurovision.JPG

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Bonnie_Tyler_Eurovision.JPG&diff=5484Delwedd:Bonnie Tyler Eurovision.JPG2021-09-26T12:45:02Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Tyler,_Bonnie_(g.1951)&diff=5483Tyler, Bonnie (g.1951)2021-09-26T12:44:40Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Cantores bop a ddaeth i amlygrwydd ar ddiwedd yr 1970au gan brofi cryn lwyddiant rhyngwladol yn ystod yr 1980au. Fe’i ganed yn Sgiwen, ger Castell-nedd. Glöwr oedd ei thad. Roedd ei mam yn gerddorol a chanai yn y côr lleol. Ar ddechrau’r 1970au bu Bonnie Tyler, neu Gaynor Hopkins fel ag yr ydoedd ar y pryd, yn dra llwyddiannus mewn cystadlaethau talent lleol, ac yn 1975 cafodd gynnig cytundeb recordio gyda label RCA yn Llundain. Newidiodd ei henw i Sherene Davis yn ystod yr 1970au cynnar am ei fod yn rhy debyg i enw’r gantores bop o Gymru, [[Hopkin, Mary (g.1950) | Mary Hopkin]], cyn ei newid drachefn tua 1975, ar gais RCA i Bonnie Tyler.

Y dylanwadau cynnar ar Tyler oedd cantoresau ''soul'' a ''blues'' megis Tina Turner a Janis Joplin. Gwnaeth ei marc gyntaf gyda’r gân ‘Lost in France’ (RCA, 1976) - un o nifer o senglau cynnar a gyfansoddwyd ac a gynhyrchwyd gan Steve Wolfe a Ronnie Scott ac a gyrhaeddodd ddeg uchaf y siartiau cenedlaethol. Gwerthodd trydedd sengl Tyler, ‘It’s a Heartache’ (RCA, 1977), dros filiwn o gopïau yn Unol Daleithiau America gan gymell rhai i gymharu ei llais pwerus, llawn mynegiant ag eiddo’r canwr Rod Stewart.

Arwyddodd Tyler i label Columbia/CBS yn America yn 1983 gan gydweithio gyda Jim Steinman, a fu’n gyfrifol am gyfansoddi a chynhyrchu recordiau megis ''Bat Out of Hell'' gan y canwr Meatloaf. Bu’n berthynas lwyddiannus, a chyrhaeddodd ‘Total Eclipse of the Heart’ rif un yn siartiau America a Phrydain yn 1983, gyda’r record hir ''Faster Than the Speed of Light'' (Columbia, 1983) hefyd yn cyrraedd y brig. Recordiodd Tyler ddeuawd gyda [[Shakin' Stevens (g.1948) | Shakin’ Stevens]] yn 1983 (‘A Rockin’ Good Way’), Cymro arall a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr 1980au, a chanodd hefyd gyda’r cerddor amldalentog Todd Rundgren ar ei record hir ''Secret Dreams and Forbidden Fire'' (Columbia, 1986). Roedd y gân ‘Holding Out For A Hero’, oddi ar yr un albwm, wedi’i defnyddio’n wreiddiol yn y [[ffilm]] ''Footloose'' (Paramount, 1984). [[Delwedd:Bonnie Tyler Eurovision.JPG|thumb|Bonnie Tyler yn canu yng nghystadleuaeth ''Eurovision'' yn Sweden, 2013.]]

Daeth newid cyfeiriad yn ystod yr 1990au gyda phoblogrwydd Tyler yn cynyddu mewn gwledydd Ewropeaidd megis yr Almaen, Norwy a Sweden, ac yn 2003 cafodd lwyddiant yn Ffrainc ar ôl recordio deuawd gyda’r gantores Kareen Antonn. Roedd recordiau megis ''Angel Heart'' (Hansa, 1992) yn perthyn i arddulliau pop canol-y-ffordd a chanu gwlad, ac, yn achos ''All In One Voice'' (EastWest, 1998), yn cynnwys rhai dylanwadau gwerinol a Cheltaidd. Aeth i gyfeiriad pop symffonig yn ddiweddarach gan gynhyrchu record hir o drefniannau pop gyda’r cyfansoddwr [[Jenkins, Karl (g.1944) | Karl Jenkins]] o’r enw ''Heart Strings'' (CMC, 2002) i gyfeiliant cerddorfa symffoni o Brâg. Cynrychiolodd Brydain yng nghystadleuaeth ''Eurovision'' yn Sweden yn 2013.

Yn wahanol i gantoresau megis Mary Hopkin a [[Matthews, Cerys (g.1969) | Cerys Matthews]], ni chanodd Tyler yn Gymraeg cyn troi i’r Saesneg. Yn wir, dywedodd mewn cyfweliad yn 2012, ‘Does neb o’r ardal honno [Sgiwen] yn siarad Cymraeg, felly wnes i erioed ddysgu’r iaith.’ Efallai y byddai ei gyrfa wedi bod yn wahanol petai’r Gymraeg wedi bod yn rhan o’i chefndir a’i magwraeth.

'''Pwyll ap Siôn'''

==Disgyddiaeth==

*''The World Starts Tonight'' (RCA PL25063, 1977)

*''Natural Force'' (RCA PL25152, 1978)

*''Diamond Cut'' (RCA PL25194, 1979)

*''Goodbye to the Island'' (RCA LP5002, 1981)

*''Faster Than the Speed of Night'' (CBS 25304, 1983)

*''Secret Dreams and Forbidden Fire'' (CBS 86319, 1986)

*''Hide Your Heart'' (CBS 460125, 1988)

*''Bitterblue'' (Hansa 212142, 1991)

*''Angel Heart'' (Hansa 74321 11491, 1992)

*''Silhouette in Red'' (Hansa 74321 16522, 1993)

*''Free Spirit'' (EastWest 0630-12108-2, 1996)

*''All in One Voice'' (EastWest 3984-25658-2, 1998)

*''Heart Strings'' (CMC 5423452, 2002)

*''Simply Believe'' (EGP 517024 2, 2004)

*''Wings'' (Stick 100, 2005)

*''Rocks and Honey'' (ZYX 21010-2, 2013)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Palladino_The_Who.jpg&diff=5482Delwedd:Palladino The Who.jpg2021-09-26T12:35:59Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Palladino The Who.jpg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Palladino_The_Who.jpg&diff=5481Delwedd:Palladino The Who.jpg2021-09-26T12:35:40Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Palladino The Who.jpg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Palladino_The_Who.jpg&diff=5480Delwedd:Palladino The Who.jpg2021-09-26T12:35:00Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Palladino,_Pino_(g.1957)&diff=5479Palladino, Pino (g.1957)2021-09-26T12:34:28Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Gitarydd bas amryddawn a aned yng Nghaerdydd yw Pino Palladino, neu Giuseppe Henry Palladino a rhoi iddo ei enw iawn. Daeth i amlygrwydd ar ddiwedd yr 1970au gan berfformio gyda’r pianydd ''boogie-woogie'' Jools Holland. Fodd bynnag, o ran recordio, gydag artistiaid pop Cymraeg megis [[Emlyn, Endaf (g.1944) | Endaf Emlyn]] a [[Jones, Caryl Parry (g.1958) | Caryl Parry Jones]] y dechreuodd wneud ei farc. Roedd ei gyfraniadau i’w clywed yn amlwg ar recordiau hir megis ''Dawnsionara'' Endaf Emlyn (Sain, 1981), sy’n cynnwys solo gan Palladino ar drac-deitl y record, a ''Ladi Wen'' Caryl a’r Band (Gwerin, 1983).

Roedd sain y gitâr fas ddi-ffret ''(fretless bass)'' eisoes wedi ei datblygu yn yr 1970au ym maes [[jazz]]-roc ym mherfformiadau gitaryddion bas megis Jaco Pastorius (Weather Report) a John Patitucci (grŵp Chick Corea), ond llai cyffredin oedd ei defnydd yng nghyd-destun [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | pop a roc]]. Gwnaeth Palladino lawer i amlygu a phoblogeiddio’r sain hon yn yr 1980au trwy bwysleisio ochr delynegol a melodig yr offeryn. Lle’r oedd yr offeryn yn aml yn chwarae rhan eilradd mewn caneuon pop, sicrhaodd perfformiadau medrus Palladino arno ei fod yn chwarae rhan bwysig yng ngwead cyffredinol cân. [[Delwedd:Palladino The Who.jpg|thumb|Pino Palladino yn perfformio gyda The Who yn Philadelphia, 2008.]]

Roedd yn hoff o ychwanegu cyfalawon uwchben nodau isel arferol y gitâr fas, neu linellau mewn wythfedau a chordiau o bryd i’w gilydd, megis yn y caneuon ‘Whenever I Lay My Hat (That’s My Hat)’ ac ‘Everytime You Go Away’, a fu’n llwyddiannus yn siartiau Prydain ac Unol Daleithiau America i’r canwr Paul Young rhwng 1983-5. Profai Palladino y gallai’r offeryn di-ffret fod yn rhythmig hefyd, fel yn ei gyfraniadau deinamig ar record hir unawdol gitarydd The Who, Pete Townshend, ''Quiet City (a Novel)'', hefyd o 1985, megis y gân ‘Give Blood’.

O ganlyniad i’w berfformiadau meistrolgar bu cryn alw am wasanaeth Palladino fel cerddor sesiwn yn ystod yr 1980au a’r 1990au, a recordiodd gyda nifer o brif artistiaid pop a roc y cyfnod, gan gynnwys Joan Armatrading, Phil Collins, David Gilmour (Pink Floyd), Peter Gabriel, Don Henley, Chaka Khan a Tears for Fears. Yn ystod yr 1990au aeth ati i ddefnyddio’r gitâr fas arferol (gyda ffretiau) yn fwy rheolaidd, a gweithiodd gyda Richard Ashcroft o The Verve.

Yn dilyn marwolaeth annisgwyl y gitarydd bas John Entwistle yn 2002, daeth Palladino yn aelod o The Who, gan recordio a theithio gyda’r band. Bu hefyd yn teithio gyda Simon and Garfunkel gan recordio ar albwm unawdol Paul Simon, ''Surprise'' (2006). Wedi iddo recordio a pherfformio gyda’r band Nine Inch Nails yn 2013, fe’i disgrifiwyd gan ganwr a chyfansoddwr y band, Trent Reznor, fel ‘gitarydd bas gorau’r byd’. Yn sicr, bu’n un o’r gitaryddion bas mwyaf prysur a chynhyrchiol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

'''Pwyll ap Siôn'''

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Gorky%27s_Zygotic_Mynci&diff=5478Gorky's Zygotic Mynci2021-09-26T12:29:04Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

(gw. hefyd [[Childs, Euros (g.1975)]] a [[James, Richard (g.1975)]])

[[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Grŵp pop]] arbrofol a ffurfiwyd yn Sir Benfro gan y ffrindiau ysgol Euros Childs (llais ac allweddellau), John Lawrence (llais a gitâr) a Richard James (gitâr fas). Yn ddiweddarach, ymunodd Euros Rowlands (drymiau) a Megan Childs (feiolin).

Y ddau beth mwyaf nodedig am gyfnod cynnar Gorky’s Zygotic Mynci oedd y ffaith eu bod yn blant ysgol pan ddaethant i sylw’r cyhoedd am y tro cyntaf, ac yn ail yr ystod o ddylanwadau eclectig a glywid yn eu cerddoriaeth (popeth o gerddoriaeth draddodiadol i seicedelia ac o roc blaengar i bop gwerin Eingl-Americanaidd). Roedd eu cerddoriaeth, felly, yn gymysgedd hynod greadigol (ac yn aml yn hudolus) o seiniau a syniadau, egni a nodweddion unigryw. Ar ôl recordio dau gasét annibynnol a chyfnewid mewn personél (roedd [[Tystion | Steffan Cravos]] yn aelod cyn iddo fynd ati i sefydlu [[Tystion]]), aeth y band pump aelod ati i lofnodi cytundeb gyda’r label recordiau Ankst.

Yn ystod y cyfnod hwn (1993–6), fe ryddhaodd y grŵp rai o’r recordiau mwyaf arbrofol erioed yn hanes pop Cymraeg. Roedd hyn yn ymestyn o’r gwaith celf ar gloriau’r albymau (gan y cynhyrchydd Alan Holmes) i’r cymysgedd eang o offerynnau. Cyfansoddwyd a recordiwyd y caneuon oddi ar eu halbwm gyntaf ''Patio'' (Ankst, 1992) tra roeddent yn ddisgyblion yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, ac fe ddaeth ‘Diamonds o Monte Carlo’, gyda’i wrthgyferbyniadau beiddgar o’r soniarus a’r anghytsain â sylw iddynt ar y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]]. Profodd y ddau albwm a ddilynodd, ''Tatay'' (Ankst, 1994) a ''Bwyd Time'' (Ankst, 1995) allu a chreadigrwydd y grŵp, ac ymhen dim, roedd doniau digamsyniol, hyder ifanc ac agwedd ffwrdd-â-hi’r band wedi ennill enw a dilynwyr iddynt y tu hwnt i Gymru.

Un o’r rhesymau am apêl ryngwladol Gorky’s Zygotic Mynci oedd yr hylifedd ieithyddol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Yn 1996, rhyddhawyd casgliad o ganeuon ar gyfer y farchnad Americanaidd, ac er na chyrhaeddodd hwnnw’r siartiau pop llwyddodd i ennyn diddordeb y labeli mawr. Arweiniodd hynny at lofnodi cytundeb gyda label Fontana yn Los Angeles, Califfornia. Yng Nghymru, roedd pryder ynghylch y ffaith y byddai grwpiau Cymraeg eraill yn ymbellhau oddi wrth yr iaith ac y byddai’r gynulleidfa Gymraeg yn cael ei thraflyncu gan y diwydiant pop Eingl- Americanaidd. Ar fwy nag un achlysur bu’n rhaid i aelodau Gorky’s fynnu’r hawl i barhau i ganu’n ddwyieithog, oedd yn un o nodweddion y grŵp o’r cychwyn cyntaf.

Yn sgil symud at Fontana, tymherwyd rhywfaint ar elfennau mwyaf rhyfygus y grŵp, er mai bwriad ''Barafundle'' (Fontana, 1997), a enwyd ar ôl traeth yn Sir Benfro, oedd cyfleu eu hapêl wreiddiol ar gyfer cynulleidfa newydd. Llwyddodd y sengl oddi ar yr albwm, ‘Patio Song’, gyrraedd 50 uchaf siartiau Prydain yn 1996. Yn eu halbwm nesaf, ''Gorky 5'' (Fontana 1998), roedd yn amlwg eu bod yn troi at arddull gerddorol lai radical, ond gan gadw ambell fflach annisgwyl.

Daeth y cytundeb gyda Fontana i ben ar ôl ''Gorky 5,'' a symudodd y grŵp at label Mantra ar gyfer eu halbwm nesaf, ''Spanish Dance Troupe'' (Mantra 1999). Yn ystod cyfnod recordio’r albwm ymadawodd John Lawrence â’r grŵp gan ddechrau gyrfa fel cerddor unigol (o dan yr enw Infinity Chimps) a chynhyrchydd. Bellach roedd Richard James yn chwarae gitâr ac ymaelododd Rhodri Puw (o [[Ffa Coffi Pawb]]) â’r grŵp.

Dangosai’r albymau a ddilynodd, megis ''The Blue Trees'' (Mantra, 2000), ''How I Long to Feel That Summer in My Heart'' (Mantra, 2001) a’u cyhoeddiad olaf, ''Sleep/Holiday'' (Mantra, 2003), yr un grefft, elfennau melodaidd a’r un synwyrusrwydd cerddorol. Ond rywsut, ni lwyddodd Gorky’s Zygotic Mynci erioed i hawlio’r poblogrwydd yr oeddynt yn ei haeddu. Cyn cyhoeddi’n ffurfiol fod y grŵp wedi chwalu, roedd Euros Childs a Richard James eisoes wedi dechrau recordio fel artistiaid unigol. Rhoddodd y grŵp unigryw hwn i’r byd pop Cymraeg rai o’i ganeuon mwyaf dewr a swynol. Dangosodd hefyd y gallai cerddoriaeth Gymraeg deithio i gyfeiriadau annisgwyl ar draws y byd, a hynny allan o ffynnon fach yn Sir Benfro.

'''Sarah Hill'''

==Disgyddiaeth==

*''Allumette'' [casét] (1991)

*''Peiriant Pleser'' [casét] (1992)

*''Patio'' (Ankst 055, 1992)

*''Tatay'' (Ankst 047, 1994)

*''Llanfwrog'' [EP] (Ankst 056, 1995)

*''Bwyd Time'' (Ankst CD059, 1995)

*''Amber Gambler'' [EP] (Ankst 068, 1996)

*''Barafundle'' (Fontana 534769-1, 1997)

*''Gorky 5'' (Fontana 558822-2, 1998)

*''Spanish Dance Troupe'' (Mantra MNTCD1015, 1999)

*''The Blue Trees'' (Mantra MNTCDM1023, 2000)

*''How I Long to Feel That Summer in My Heart'' (Mantra MNTCD1025, 2001)

*''Sleep/Holiday'' (Sanctuary SANCD-183, 2003)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Hopkin,_Mary_(g.1950)&diff=5477Hopkin, Mary (g.1950)2021-09-26T12:24:36Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Cantores werin a phop oedd Mary Hopkin ac o blith cantorion a fu’n amlwg yn nyddiau cynnar [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | pop]] Cymraeg, hi aeth bellaf o ran cynulleidfa, bri, enwogrwydd a llwyddiant.

Dechreuodd ganu fel plentyn yn y capel a’r ysgol Sul ym Mhontardawe, lle cafodd ei geni ar 3 Mai 1950. Erbyn iddi gyrraedd ei harddegau roedd yn ymddangos ar deledu Cymraeg, yn canu mewn [[Gwerin, grwpiau | grŵp gwerin]] o’r enw The Selby Set and Mary, ac yn 1968 yn recordio fel cerddor unigol ar gyfer label Cambrian. Roedd hefyd yn astudio canu yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ac ymhlith ei chyd-fyfyrwyr yno yr oedd y gantores bop, [[Jones, Heather (g.1949) | Heather Jones]].

Ar gyfer ei record Cambrian gyntaf, ''Llais Swynol Mary Hopkin'' (Cambrian, 1968), gofynnodd i’w hathro ysgol, Gwyn Davies, gyfieithu geiriau cân werin boblogaidd yr Americanwr Peter Seeger ‘Turn, Turn, Turn’ i’r Gymraeg (‘Tro, Tro, Tro’). Yn sgil ei diddordeb yn sŵn y [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] Americanaidd cyfoes dewisodd ‘Turn, Turn, Turn’ ar gyfer ei hymddangosiad cyntaf yn 1968 ar raglen ''Opportunity Knocks'' ar ITV. Ymddangosodd ar y rhaglen am ddeg wythnos yn olynol gan ennill nid yn unig y gystadleuaeth ond hefyd sylw’r fodel enwog Twiggy (Lesley Lawson, g.1949). Awgrymodd Twiggy wrth gitarydd bas a lleisydd y Beatles, Paul McCartney, y dylai’r grŵp gynnig cytundeb i Mary Hopkin ar eu label newydd, recordiau Apple. [[Delwedd:Mary Hopkin Eurovision.jpg|thumb|Mary Hopkin yn canu yng nghystadleuaeth Eurovision, 1970.]]

Aeth ei sengl gyntaf ‘Those Were the Days’ i frig y siartiau pop ym Mhrydain yn Awst 1968 (gan ddisodli ‘Hey Jude’ y Beatles), yn yr Unol Daleithiau a phob cwr o’r byd, a hynny drwy gyfrwng pum iaith (Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Ffrangeg). Gwerthodd y record dros filiwn a hanner o gopïau yn yr Unol Daleithiau yn unig.

Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei halbwm cyntaf ''Post Card'' (Apple, 1969) gyda Paul McCartney yn cynhyrchu. Gan gynnwys trefniannau o ganeuon oedd yn amrywio o Donovan a Gershwin i Irving Berlin, bu ''Post Card'' yn llwyddiant mawr, gan gyrraedd rhif 3 yn y siartiau Prydeinig. Ar ôl rhyddhau dwy sengl arall cynrychiolodd Mary Hopkin wledydd Prydain yng nghystadleuaeth Eurovision, gan ganu ‘Knock Knock, Who’s There?’ ond daeth yn ail i’r gantores o Iwerddon, Dana (Dana Rosemary Scallon), a’i chân ‘All Kinds of Everything’.

Roedd Hopkin weithiau’n anghyfforddus gyda’i henwogrwydd a hefyd ar adegau gyda’r gerddoriaeth a ddewiswyd ar ei chyfer gan eraill. Roedd ei hail albwm, ''Earth Song/Ocean Song'' (Apple, 1971), yn agosach at ei dant cerddorol personol ac yn cynnwys caneuon gan Cat Stevens a Ralph McTell. Y cerddor a’r canwr amryddawn Tony Visconti (g.1944) oedd yn cynhyrchu, ac o fewn y flwyddyn roedd y ddau wedi priodi. Penderfynodd Hopkin wedyn adael y byd pop a chanolbwyntio ar fagu teulu (ganed dau blentyn iddynt). Yn ystod yr 1970au, roedd llais Hopkin i’w glywed ar nifer o’r recordiau y bu Visconti’n eu cynhyrchu.

Fel cantores unigol, recordiodd ganeuon newydd yn achlysurol yn yr 1970au, ond fe gadwodd ei hun allan o lygaid y cyhoedd. Yn 1981 fe ysgarodd hi a Visconti. Ers hynny mae hi wedi dethol ei hymddangosiadau cyhoeddus yn ofalus, gan gymryd rhan mewn rhai sioeau llwyfan a’r [[ffilm]] ''Very Annie Mary'' (FilmFour, 2001). Ar ôl sefydlu’i label ei hun, Mary Hopkin Music, aeth ati i ailryddhau recordiau archif yn dyddio o’r 1970au a’r 1980au.

'''Sarah Hill'''

==Disgyddiaeth==

'''Senglau a recordiau estynedig:'''

*''Llais Swynol Mary Hopkin'' [EP] (Cambrian CEP414, 1968)

*''Mary ac Edward'' (gydag [[Jones, Edward Morus (g.1944) | Edward Morus Jones]]) [EP] (Cambrian CEP 420, 1968)

*‘Those Were the Days’ [sengl] (Apple 002, 1968)

*‘Aderyn Llwyd’ [sengl] (Cambrian CSP703, 1969)

*‘Lontano Dagli Occhi’ [sengl] (Apple 007, 1969 [heb ei ryddhau])

*‘Prince En Avignon’ [sengl] (Apple 009, 1969 [heb ei ryddhau])

*‘Goodbye’ [sengl] (Apple 010, 1969)

*‘Que Sera, Sera (Whatever Will Be, Will Be)’ [sengl] (Apple 016, 1969 [heb ei ryddhau])

*‘Pleserau Serch (Plaisir D’Amour)’ [sengl] (Cambrian CSP712, 1970)

*‘Temma Harbour’ [sengl] (Apple 022, 1970)

*‘Knock, Knock Who’s There?’ [sengl] (Apple 026, 1970)

*‘Think About Your Children’ [sengl] (Apple 030, 1970)

*‘Let My Name Be Sorrow’ [sengl] (Apple 034, 1971)

*‘Water, Paper and Clay’ [sengl] (Apple 039, 1971)

*‘Mary Had a Baby’ [sengl] (Regal Zonophone RZ3070, 1972)

*‘If You Love Me (I Won’t Care)’ [sengl] (Good Earth GD2, 1976)

*‘Wrap Me In Your Arms’ [sengl] (Good Earth GD11, 1977)

*‘Ave Maria’ [sengl] (Trax 7TX13, 1989)

'''Recordiau Hir:'''

*''Post Card'' (Apple SAPCOR 5, 1969)

*''Earth Song/Ocean Song'' (Apple SAPCOR 21, 1971)

*''The Welsh World of Mary Hopkin'' (Decca SPA546, 1979)

*''Spirit'' (Trax Music MODEM1045, 1989)

*''Y Caneuon Cynnar/The Early Recordings'' (Sain SCD2151, 1996)

*''Live at Royal Festival Hall 1972'' (Mary Hopkin Music MHM001, 2005)

'''[yn ymddangos ar]'''

*Bert Jansch, ''Moonshine'' (Reprise Records K44225, 1971)

*Ralph McTell, ''Not Till Tomorrow'' (Reprise Records K44210, 1973)

*Sarstedt Brothers, ''Worlds Apart'' (Regal Zonophone SRZA8513, 1973)

*Elfland Ensemble featuring Mary Hopkin, ‘Lirazel’ [sengl] (Chrysalis CHS2151, 1977)

*Thin Lizzy, ''Bad Reputation'' (Vertigo 9102016, 1977)

*David Bowie, ''Low'' (RCA Victor PL12030, 1977)

*Cousins & Willoughby, ''The Bridge'' (RGFCD 020, 1994)

*The Crocketts, ''The Great Brain Robbery'' (Blue Dog BDG1011812, 2000)

*Julian Colbeck, ''Back to Bach'' (Voiceprint VP522CD, 2009)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Mary_Hopkin_Eurovision.jpg&diff=5476Delwedd:Mary Hopkin Eurovision.jpg2021-09-26T12:24:02Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Mary Hopkin Eurovision.jpg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Mary_Hopkin_Eurovision.jpg&diff=5475Delwedd:Mary Hopkin Eurovision.jpg2021-09-26T12:23:24Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Hopkin,_Mary_(g.1950)&diff=5474Hopkin, Mary (g.1950)2021-09-26T12:22:59Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Cantores werin a phop oedd Mary Hopkin ac o blith cantorion a fu’n amlwg yn nyddiau cynnar [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | pop]] Cymraeg, hi aeth bellaf o ran cynulleidfa, bri, enwogrwydd a llwyddiant.

Dechreuodd ganu fel plentyn yn y capel a’r ysgol Sul ym Mhontardawe, lle cafodd ei geni ar 3 Mai 1950. Erbyn iddi gyrraedd ei harddegau roedd yn ymddangos ar deledu Cymraeg, yn canu mewn [[Gwerin, grwpiau | grŵp gwerin]] o’r enw The Selby Set and Mary, ac yn 1968 yn recordio fel cerddor unigol ar gyfer label Cambrian. Roedd hefyd yn astudio canu yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ac ymhlith ei chyd-fyfyrwyr yno yr oedd y gantores bop, [[Jones, Heather (g.1949) | Heather Jones]].

Ar gyfer ei record Cambrian gyntaf, ''Llais Swynol Mary Hopkin'' (Cambrian, 1968), gofynnodd i’w hathro ysgol, Gwyn Davies, gyfieithu geiriau cân werin boblogaidd yr Americanwr Peter Seeger ‘Turn, Turn, Turn’ i’r Gymraeg (‘Tro, Tro, Tro’). Yn sgil ei diddordeb yn sŵn y [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] Americanaidd cyfoes dewisodd ‘Turn, Turn, Turn’ ar gyfer ei hymddangosiad cyntaf yn 1968 ar raglen ''Opportunity Knocks'' ar ITV. Ymddangosodd ar y rhaglen am ddeg wythnos yn olynol gan ennill nid yn unig y gystadleuaeth ond hefyd sylw’r fodel enwog Twiggy (Lesley Lawson, g.1949). Awgrymodd Twiggy wrth gitarydd bas a lleisydd y Beatles, Paul McCartney, y dylai’r grŵp gynnig cytundeb i Mary Hopkin ar eu label newydd, recordiau Apple.

Aeth ei sengl gyntaf ‘Those Were the Days’ i frig y siartiau pop ym Mhrydain yn Awst 1968 (gan ddisodli ‘Hey Jude’ y Beatles), yn yr Unol Daleithiau a phob cwr o’r byd, a hynny drwy gyfrwng pum iaith (Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Ffrangeg). Gwerthodd y record dros filiwn a hanner o gopïau yn yr Unol Daleithiau yn unig.

Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei halbwm cyntaf ''Post Card'' (Apple, 1969) gyda Paul McCartney yn cynhyrchu. Gan gynnwys trefniannau o ganeuon oedd yn amrywio o Donovan a Gershwin i Irving Berlin, bu ''Post Card'' yn llwyddiant mawr, gan gyrraedd rhif 3 yn y siartiau Prydeinig. Ar ôl rhyddhau dwy sengl arall cynrychiolodd Mary Hopkin wledydd Prydain yng nghystadleuaeth Eurovision, gan ganu ‘Knock Knock, Who’s There?’ ond daeth yn ail i’r gantores o Iwerddon, Dana (Dana Rosemary Scallon), a’i chân ‘All Kinds of Everything’. [[Delwedd:Mary Hopkin Eurovision.jpg|thumb|Mary Hopkin yn perfformio yng nghystadleuaeth Eurovision, 1970.]]

Roedd Hopkin weithiau’n anghyfforddus gyda’i henwogrwydd a hefyd ar adegau gyda’r gerddoriaeth a ddewiswyd ar ei chyfer gan eraill. Roedd ei hail albwm, ''Earth Song/Ocean Song'' (Apple, 1971), yn agosach at ei dant cerddorol personol ac yn cynnwys caneuon gan Cat Stevens a Ralph McTell. Y cerddor a’r canwr amryddawn Tony Visconti (g.1944) oedd yn cynhyrchu, ac o fewn y flwyddyn roedd y ddau wedi priodi. Penderfynodd Hopkin wedyn adael y byd pop a chanolbwyntio ar fagu teulu (ganed dau blentyn iddynt). Yn ystod yr 1970au, roedd llais Hopkin i’w glywed ar nifer o’r recordiau y bu Visconti’n eu cynhyrchu.

Fel cantores unigol, recordiodd ganeuon newydd yn achlysurol yn yr 1970au, ond fe gadwodd ei hun allan o lygaid y cyhoedd. Yn 1981 fe ysgarodd hi a Visconti. Ers hynny mae hi wedi dethol ei hymddangosiadau cyhoeddus yn ofalus, gan gymryd rhan mewn rhai sioeau llwyfan a’r [[ffilm]] ''Very Annie Mary'' (FilmFour, 2001). Ar ôl sefydlu’i label ei hun, Mary Hopkin Music, aeth ati i ailryddhau recordiau archif yn dyddio o’r 1970au a’r 1980au.

'''Sarah Hill'''

==Disgyddiaeth==

'''Senglau a recordiau estynedig:'''

*''Llais Swynol Mary Hopkin'' [EP] (Cambrian CEP414, 1968)

*''Mary ac Edward'' (gydag [[Jones, Edward Morus (g.1944) | Edward Morus Jones]]) [EP] (Cambrian CEP 420, 1968)

*‘Those Were the Days’ [sengl] (Apple 002, 1968)

*‘Aderyn Llwyd’ [sengl] (Cambrian CSP703, 1969)

*‘Lontano Dagli Occhi’ [sengl] (Apple 007, 1969 [heb ei ryddhau])

*‘Prince En Avignon’ [sengl] (Apple 009, 1969 [heb ei ryddhau])

*‘Goodbye’ [sengl] (Apple 010, 1969)

*‘Que Sera, Sera (Whatever Will Be, Will Be)’ [sengl] (Apple 016, 1969 [heb ei ryddhau])

*‘Pleserau Serch (Plaisir D’Amour)’ [sengl] (Cambrian CSP712, 1970)

*‘Temma Harbour’ [sengl] (Apple 022, 1970)

*‘Knock, Knock Who’s There?’ [sengl] (Apple 026, 1970)

*‘Think About Your Children’ [sengl] (Apple 030, 1970)

*‘Let My Name Be Sorrow’ [sengl] (Apple 034, 1971)

*‘Water, Paper and Clay’ [sengl] (Apple 039, 1971)

*‘Mary Had a Baby’ [sengl] (Regal Zonophone RZ3070, 1972)

*‘If You Love Me (I Won’t Care)’ [sengl] (Good Earth GD2, 1976)

*‘Wrap Me In Your Arms’ [sengl] (Good Earth GD11, 1977)

*‘Ave Maria’ [sengl] (Trax 7TX13, 1989)

'''Recordiau Hir:'''

*''Post Card'' (Apple SAPCOR 5, 1969)

*''Earth Song/Ocean Song'' (Apple SAPCOR 21, 1971)

*''The Welsh World of Mary Hopkin'' (Decca SPA546, 1979)

*''Spirit'' (Trax Music MODEM1045, 1989)

*''Y Caneuon Cynnar/The Early Recordings'' (Sain SCD2151, 1996)

*''Live at Royal Festival Hall 1972'' (Mary Hopkin Music MHM001, 2005)

'''[yn ymddangos ar]'''

*Bert Jansch, ''Moonshine'' (Reprise Records K44225, 1971)

*Ralph McTell, ''Not Till Tomorrow'' (Reprise Records K44210, 1973)

*Sarstedt Brothers, ''Worlds Apart'' (Regal Zonophone SRZA8513, 1973)

*Elfland Ensemble featuring Mary Hopkin, ‘Lirazel’ [sengl] (Chrysalis CHS2151, 1977)

*Thin Lizzy, ''Bad Reputation'' (Vertigo 9102016, 1977)

*David Bowie, ''Low'' (RCA Victor PL12030, 1977)

*Cousins & Willoughby, ''The Bridge'' (RGFCD 020, 1994)

*The Crocketts, ''The Great Brain Robbery'' (Blue Dog BDG1011812, 2000)

*Julian Colbeck, ''Back to Bach'' (Voiceprint VP522CD, 2009)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Meic_Stevens_2011.jpg&diff=5473Delwedd:Meic Stevens 2011.jpg2021-09-26T12:14:29Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Meic Stevens 2011.jpg

CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Meic_Stevens_2011.jpg&diff=5472Delwedd:Meic Stevens 2011.jpg2021-09-26T12:13:48Z
CadiW:

CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Stevens,_Meic_(g.1942)&diff=5471Stevens, Meic (g.1942)2021-09-26T12:13:25Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Ganed Louis Michael James Stevens yn Solfach. Fel gitarydd, canwr a chyfansoddwr a lwyddodd i bontio [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]], [[Poblogaidd, Cerddoriaeth |roc a phop]], bu’n ffigwr blaenllaw yn y sîn roc Gymraeg o’r 1960au hyd heddiw.

Yn wahanol i nifer o gantorion eraill yn nyddiau cynnar y sîn bop Gymraeg, dechreuodd Stevens ei yrfa recordio yn Saesneg, yn Lloegr, ar label mawr, gan dderbyn cytundeb gyda chwmni Decca yn 1965 a Warner Brothers yn 1970. Ymddangosai ar un cyfnod fel petai â’i fryd ar ddilyn llwybr cantorion gwerin newydd Eingl-Americanaidd megis Bob Dylan a Paul Simon i’r llwyfan byd-eang. Er hynny, roedd ganddo awydd i ganu yn y Gymraeg a recordiodd sawl sengl ar labeli bach Cymreig rhwng 1965 ac 1970. Yn hytrach na chadw at ei gytundeb recordio Saesneg, aeth Stevens yn ôl at ei wreiddiau diwylliannol, gan wneud cyfraniad pwysig tuag at greu a meithrin diwydiant recordio a phop Cymraeg cynnar.

Cynhyrchydd gwreiddiol Stevens ar ei sengl gyntaf ‘Did I Dream’/‘I Saw a Field’ (Decca, 1965) oedd John Paul Jones, yn ddiweddarach o’r band Led Zeppelin, ac felly mae’r recordiau cynnar yn dangos elfennau o gerddoriaeth bop gyfoes y cyfnod, gyda thinc seicedelig. Roedd diddordebau cerddorol Stevens yn cydgordio â rhai [[Jarman, Geraint (g.1950) | Geraint Jarman]] a [[Jones, Heather (g.1949) | Heather Jones]], ac fe aeth y tri ati i ffurfio’r grŵp Y [[Bara Menyn, Y | Bara Menyn]] yn 1969, gan herio ynghyd â dychanu natur geidwadol pop Cymraeg cyfoes. Roedd Stevens ei hun yn gymeriad gwahanol iawn i’r stereoteip a geid ar y pryd, yn ôl [[Evans, Meredydd (1919-2015) | Meredydd Evans]], a fu’n gweithio aml gyda’r canwr fel cynhyrchydd y rhaglen ''Disc a Dawn'' yn ystod yr 1960au. Roedd yn gerddor anghyffredin, o ran delwedd ynghyd â medr offerynnol, gyda llais ‘nad oedd ei debyg i’w gael ymysg perfformwyr Cymraeg y cyfnod, yn gyfuniad o grasder grymus a thynerwch rhyfedd’ (yn Ebenezer 1993, 5).

Mae’r cyfuniad o ‘grasder’ a ‘thynerwch’ yn perthyn i allbwn o dros gant o ganeuon sy’n pontio oddeutu hanner canrif. Roedd y baledi cynnar - megis ‘Tryweryn’ (cân am foddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn 1965), ‘Cân Walter’ a ‘Ddaeth Neb yn Ôl’ - yn brawf o allu telynegol Stevens a’i ddawn wrth lunio a chyfuno alaw gyda geiriau. Er enghraifft, yn ‘Tryweryn’ clywir y brawddegau cerddorol (ar ôl naid o gyfwng y pumed ar ddechrau’r llinell gyntaf a naid o chweched ar ddechrau’r ail) yn disgyn yn llinellau 1, 3 a 4 ym mhob pennill, gan efelychu’n hynod effeithiol lif y dŵr i lawr y cwm.

Mae symlrwydd y mynegiant yn aml yn cuddio’r grefft a’r cynildeb sydd wrth wraidd caneuon Stevens. Ar un olwg, portread o’r gorffennol a diniweidrwydd yr oes a fu sydd yn perthyn i symlrwydd mynegiant ‘Merch o’r Ffatri Wlân’, ond mae natur ailadroddus y gân yn ddelwedd o waith caled ac ailadroddus y ffatri, gyda’r ‘merched ... yn gwneud gwaith dyn ond am gyflog llai’ (Stevens yn Ebenezer 1993, 15). Ar y llaw arall, mae’r hyfryd ‘Môr o Gariad’ o’r record hir ''Nos Du Nos Da'' (Sain, 1982) yn graddol ddatguddio perthynas a ddaeth i ben, tra bod diffuantrwydd y gân i gofio Bobby Sands – aelod o Fyddin Weriniaethol Iwerddon a fu farw ar ôl bod ar streic newyn yng ngharchar Long Kesh yng Ngogledd Iwerddon – yn dawel ddirdynnol. [[Delwedd:Meic Stevens 2011.jpg|thumb|Meic Stevens yn perfformio ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 2011.]]

Daw’r ‘crasder’ sy’n perthyn i ganeuon eraill Stevens o’i etifeddiaeth o arddull y ''blues''. Datblygodd y rhain drwy wrando ar gerddorion ''blues'' megis Leadbelly, Big Bill Broonzy, Jesse Fuller a Gary Davis, ond hefyd drwy feithrin cysylltiadau gyda cherddorion a oedd yn perfformio yn y tafarndai a’r clybiau ger dociau Caerdydd, lle bu’n byw ers yr 1970au, megis y gitarydd [[jazz]] Victor Parker. Yn ogystal â’r baledi, mae yna ddwyster yn aml yn perthyn i ganeuon ''blues'' Stevens. Dywedodd am ei gân ''blues'' gyntaf yn y Gymraeg, ‘Gwely Gwag’, ‘mae na fwy o ddyfnder ynddi nag ma neb yn feddwl. Ond fel ’na ma’r ''blues''. Mae nhw’n ganeuon cwbwl syml ond ma nhw’n cuddio llawer iawn o deimlad’ (Stevens yn Ebenezer 1993, 17). Rhwng y ddau begwn, roedd gan Stevens y ddawn i gyfansoddi caneuon bachog, ffwrdd-â-hi yn ogystal, megis ‘Y Brawd Houdini’ (a boblogeiddiwyd yn ddiweddarach gan y [[Super Furry Animals]]) ynghyd â chaneuon wedi eu hysbrydoli gan gyfnod hapus tua diwedd yr 1970au lle bu’n byw yn Llydaw, fel ‘Rue St Michel’ a ‘Douarnanez’. Roedd ‘hwyl’ y canu yn bwysig iawn i Stevens, a phan ar ei orau, roedd ei berfformiadau byw – un ai ar ei ben ei hun neu gyda’i fand – yn brofiadau bythgofiadwy.

Chwaraeodd Meic Stevens rôl bwysig yn hanes cwmni recordiau Sain, gan ddefnyddio’i gysylltiadau yn Llundain i logi stiwdio i recordio sengl gyntaf y cwmni, ''Dŵr'' gan [[Jones, Huw (g.1948) | Huw Jones]], gyda Geraint Jarman a Heather Jones yn y cefndir. Yn ei gerddoriaeth fel artist unigol mae Meic Stevens yn llwyddo i gamu o’r tyner i’r garw a’r grymus, ac mae ei themâu yn cwmpasu byd gwleidyddiaeth, serch a mwy; bydd yn aml hefyd yn canu am unigolion a wnaeth argraff arno. Ers degawdau mae wedi datblygu ei arddull hawdd ei hadnabod ef ei hun o ganu a chwarae’r gitâr, a bu ganddo ddylanwad digamsyniol ar gerddorion gwerin a phop Cymraeg ers dros hanner canrif.

'''Sarah Hill a Pwyll ap Siôn'''

==Disgyddiaeth==

*‘Did I Dream’ [sengl] (Decca F.12174, 1965)

*''Meic Stevens'' [EP] (Wren WRE1045, 1968)

*''Mwg'' [EP] (Wren WRE1073, 1969)

*‘Ballad of Old Joe Blind’ [sengl] (Warner Bros WB8007, 1970)

*''Outlander'' (Warner Bros WS3005, 1970)

*''Y Brawd Houdini'' [EP] (Sain 4, 1970)

*''Byw yn y Wlad'' [EP] (Wren WRE1107, 1971)

*''Gwymon'' (Wren WRL536, 1972)

*''Gôg'' (Sain 1065M, 1977)

*''Nos Du Nos Da'' (Sain 1239, 1982)

*''Gitâr yn y Twll Dan Stâr'' (Sain 1273M, 1983)

*''Lapis Lazuli'' (Sain 1312M, 1985)

*''Gwin a Mwg a Merched Drwg'' (Sain C608N, 1987)

*''Bywyd ac Angau'' (Fflach C052D, 1989)

*''Ware’n Noeth'' (Sain SCD4088, 1991)

*''Er Cof am Blant y Cwm'' (Crai CD036, 1993)

'''Casgliadau:'''

*''Dim Ond Cysgodion – Y Baledi'' (Sain SCD2001, 1992)

*''Ghost Town'' (Tenth Planet TP028, 1997)

==Llyfryddiaeth==

*Lyn Ebenezer (gol.), ''I Adrodd yr Hanes: 51 o Ganeuon Meic Stevens'' (Llanrwst, 1993)

*Meic Stevens, ''Meic Stevens: Hunangofiant y Brawd Houdini'' (Talybont, 2009)

*———, ''Crwydryn â mi: Hunangofiant Meic Stevens'' (Talybont, 2009)

*———, ''Mâs o Mâ: Hunangofiant Meic Stevens (Rhan 3)'' (Talybont, 2011)

*Hefin Wyn, ''Ar Drywydd Meic Stevens – Y Swynwr o Solfach'' (Talybont, 2015)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Ar_Log&diff=5470Ar Log2021-09-26T12:09:22Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Un o grwpiau gwerin mwyaf poblogaidd a dylanwadol Cymru yn chwarter olaf yr 20g. Ffurfiodd Ar Log yn Awst 1976 ar ôl derbyn gwahoddiad gan yr ŵyl werin ryng-Geltaidd yn Lorient, Llydaw, i berfformio yno. Yr aelodau gwreiddiol oedd Gwyndaf Roberts ([[telyn]] Geltaidd, gitâr fas), Dafydd Roberts ([[Telyn Deires | telyn deires]], ffliwt), Iolo Jones ([[ffidil]]) a Dave Burns (gitâr, mandolin) – Gwyddel o Gaerdydd a fu gynt yn aelod o [[Gwerin, grwpiau | grŵp gwerin]] yr Hennessys. Bu’r ddau frawd Dafydd a Gwyndaf (yr unig ddau aelod cyson trwy gydol gyrfa’r grŵp) yn ddisgyblion i’r delynores [[Richards, Nansi (Telynores Maldwyn; 1888-1979) | Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), felly roedd ganddynt gyswllt uniongyrchol â’r unig draddodiad offerynnol di-dor a oroesodd yng Nghymru. Rhwng 1972 ac 1975 bu Gwyndaf yn aelod o’r [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | grŵp roc]]-gwerin Brân, a fu’n llwyddiannus yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Ban-Geltaidd Killarney, ynghyd â rhyddhau EP, ''Brân'' (Gwawr, 1974), a record hir, ''Ail-Ddechra'' (Sain, 1975). Bu ei frawd Dafydd hefyd yn aelod o’r grŵp am gyfnod.

Yn dilyn derbyniad brwdfrydig yn Lorient ac anogaeth gan y grŵp gwerin adnabyddus o Iwerddon, y Dubliners, aeth Ar Log ati i geisio gwneud bywoliaeth o’u cerddoriaeth – y grŵp gwerin Cymraeg cyntaf i droi’n broffesiynol. Gan ddefnyddio cysylltiadau Dave Burns â’r rhwydwaith werin yng Nghymru a Lloegr o’i ddyddiau gyda’r Hennessys, rhwng 1977 ac 1981 teithodd Ar Log i Iwerddon, yr Alban, Llydaw, yr Almaen ac Awstria, Lloegr, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, yn ogystal â chynnal cyngherddau ar draws Cymru. Roedd eu perfformiadau’n gyfuniad o alawon a chaneuon Cymraeg, yn aml yn cyrraedd uchafbwynt gydag arddangosiad medrus o glocsio gan Dafydd i gyfeiliant y band. Dyma gyfnod prysuraf Ar Log o ran teithiau dramor, pan y’u gwelid yn aml yn perfformio mewn clybiau gwerin neu wyliau mawr gydag artistiaid rhyngwladol o’r gwledydd Celtaidd a thu hwnt, megis Clannad, y Battlefield Band, y Chieftains, Silly Wizzard, Alan Stivell a Dan Ar Braz.

Clywir cymysgedd o ganu gwerin traddodiadol ac alawon offerynnol ar ddau albwm cyntaf y grŵp, ''Ar Log'' (Dingle’s, 1978) ac ''Ar Log II'' (Dingle’s, 1980). Deuai rhai o’r caneuon o hen ''repertoire'' yr Hennessys, megis ‘Ar Lan y Môr’, ‘Hiraeth’ a ‘Rownd yr Horn’, a rhoddai llais Dave Burns naws Wyddelig i’r record hir gyntaf. Roedd yr albwm hefyd yn nodedig am mai dyma’r tro cyntaf i’r delyn deires Gymreig gael ei defnyddio mewn grŵp gwerin. Yn ôl [[Rees, Stephen (g.1963) | Stephen Rees]] (a ddaeth yn ddiweddarach yn aelod pwysig o’r grŵp), defnyddir y delyn deires mewn dwy brif ffordd: yn gyntaf i ddarparu ‘cyfeiliant cordiol, “byrfyfyr” i alawon dawnsio cyflym (tebyg i’r hyn y gellid ei gyflawni ag offeryn rhes sengl); ac [yn ail] mewn alawon arafach, gan ddefnyddio effeithiau ail-chwarae nodyn, yn cynnwys ail-chwarae’r un traw neu gordiau yn gyflym drosodd a thro rhwng y rhesi allanol a oedd wedi’u tiwnio’n ddiatonig, rhywbeth a fyddai’n amhosibl ar delyn un rhes.’ Mae Stephen Rees yn mynd ymlaen i nodi bod gan y delyn deires ‘sain deneuach a mwy treiddgar na’r delyn Geltaidd, a chyda thechneg ail-chwarae nodyn, roedd gan yr offeryn soniarusrwydd unigryw … [a arhosodd] yn un o brif nodweddion recordiadau a pherfformiadau Ar Log trwy gydol yr 1970au a’r 1980au’ (Rees 2007, 329–30).

Bu 1979 yn dipyn o drobwynt i’r band, gydag ymadawiad Iolo Jones yn gyntaf ac yna Dave Burns flwyddyn yn ddiweddarach. Erbyn recordio ''Ar Log II'' roedd Graham Pritchard (ffidil) a Geraint Glynne Davies (gitâr, llais) wedi ymuno, gyda llais Geraint yn cynnig ansawdd mwy Cymreig i’r grŵp. Yr un oedd yr aelodaeth ar gyfer ''Ar Log III'' (Dingle’s, 1983), a ddangosai fwy o barodrwydd i arbrofi ac ailddehongli’r traddodiad.

Daeth newid cyfeiriad am yr ail waith wedi ymadawiad Graham Pritchard yn 1982. Yr un flwyddyn daeth y syniad o drefnu taith ar y cyd â’r canwr [[Iwan, Dafydd (g.1943) | Dafydd Iwan]] i gofio 700 mlynedd ers marwolaeth tywysog olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffudd. Bu ‘Taith 700’ yn llwyddiant, gan esgor ar y sengl ‘Cerddwn Ymlaen’ (Sain, 1982) ac yna’r record hir ''Rhwng Hwyl a Thaith'' (Sain, 1982). Erbyn hyn roedd y cerddor ifanc disglair o Rydaman, Stephen Rees (ffidil, acordion, allweddellau, pibau), wedi cymryd lle Graham Pritchard. Flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd ail daith yr un mor llwyddiannus – ‘Taith Macsen’, y tro hwn i gofio sefydlu Cymru fel gwlad pan adawodd ymerawdr Rhufain, Macsen Wledig, ynys Prydain yn 383 gan adael Cymru ‘yn un darn’. Cadarnhaodd y gân anthemig ‘Yma o Hyd’, ynghyd â’r record hir o’r un enw (Sain, 1983), bartneriaeth greadigol effeithiol rhwng Dafydd Iwan ac Ar Log.

Fodd bynnag, daeth rhai i weld y bartneriaeth fel un anghytbwys, gydag Ar Log yn ddim mwy na chyfeiliant i’r canwr. Gwelwyd y grŵp yn newid cyfeiriad unwaith yn rhagor, felly, a’r sbardun y tro hwn oedd cyfres o deithiau i Ogledd America a De America. Roeddynt eisoes wedi perfformio yng Nghanada yn 1982 ac 1984, gyda Graham Pritchard yn ailymuno ar gyfer yr ail daith. Taflwyd y rhwyd ymhellach yn 1985 pan gafwyd cynnig gan y Cyngor Prydeinig i berfformio yn Ecwador a Cholombia. Yn 1986 dathlodd y band eu pen-blwydd yn ddeg oed gyda thaith ‘Ar ôl Deg’, a flwyddyn yn ddiweddarach buont ar daith bellach i Dde America, gan ymweld y tro hwn â Chile a Pheriw yn ogystal ag Ecwador a Cholombia, gyda chriw ffilmio o’r BBC yn eu dilyn.

Roedd y band eisoes wedi rhyddhau ''Ar Log IV'' ar eu label eu hunain (Ar Log, 1984), albwm a roddai fwy o bwyslais ar draciau offerynnol, gyda chyfraniad yr amryddawn Stephen Rees yn dod i’r amlwg mewn cadwyni o alawon wedi eu cyfuno megis ‘Castell Caernarfon/Pibddawns Aberhonddu/Llys Warpool’. Er bod rhai traciau’n parhau i bwysleisio sain draddodiadol y grŵp (e.e. telynau yn ‘Cerrig y Rhyd’), gwelwyd ymdrech i ymestyn yr ystod seinyddol. Er mai wedi ei seilio ar offeryniaeth o ddwy delyn, gitâr neu fandolin, ffidil a ffliwt yr oedd sain Ar Log, clywid harpsicord synthetig ar rai traciau, gan alw i gof y ''clavinet'' a ddefnyddid ar recordiadau gan y grŵp Gwyddelig The Bothy Band. Label Ar Log fu’n gyfrifol hefyd am ryddhau’r gân ''Band Aid'' Cymraeg ‘Dwylo Dros y Môr’, a gyfansoddwyd gan [[Chiswell, Huw (g.1961) | Huw Chiswell]] a’i chanu gan gantorion pop a gwerin mwyaf amlwg y cyfnod er mwyn codi pres i gynorthwyo pobl a ddioddefai yn sgil y newyn enbyd a oedd yn Ethiopia ar y pryd.

Gwelwyd symudiad pellach i gyfeiriad sain fwy amlwg ‘Geltaidd’ ar ''Ar Log V'' (Sain, 1988), gyda defnydd o’r ''synth bass'' yn y gadwyn agoriadol ‘Rew- di-ranno/Y Facsen Felen’ yn adlewyrchu’r duedd ymysg grwpiau gwerin Gwyddelig ac Albanaidd y cyfnod, fel Clannad a Runrig, i gyfuno [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau]] roc a gwerin. Clywir rhywfaint o ddylanwad De America yn y pibau ar ‘Lisa Fach’ yn ogystal. [[Delwedd:Clawr Albwm Ar Log.jpeg|thumb|Clawr yr albwm 'Ar Log VI'.]]

Cymharol dawel fu’r grŵp wedi dathliadau’r deng mlynedd, gyda rhai aelodau’n cael eu penodi i swyddi yn y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] neu ym myd [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]] uwch, ac eraill yn datblygu prosiectau cerddorol annibynnol. Fodd bynnag, daeth y band ynghyd yn 1996 i ddathlu ugain mlynedd o fodolaeth, gan gyhoeddi ''Ar Log VI'' (Sain, 1996) i gyd-fynd â thaith ledled Cymru. Roedd y record – a ddaeth ag aelodau presennol a chyn-aelodau’r band at ei gilydd i greu math o ''supergroup'' gwerin – yn arwydd pellach o barodrwydd y band i wthio ffiniau, gyda’r cynhyrchydd roc [[Isaac, Myfyr (g.1954) | Myfyr Isaac]] wrth y llyw, ynghyd â chyfraniadau gan y cerddorion sesiwn Graham Land (drymiau) a Dafydd Wyn (gitâr fas).

Dangosai traciau megis y medli ‘Twll yn y To/ Cymro o Ble?/Pedwar Post y Gwely II’, gyda’i sain gyfoethog a’r cynhyrchu slic, gymaint yr oedd Ar Log wedi datblygu ers y recordiau cynnar. Mae’r grŵp yn parhau i ganu o dro i dro, fel yn 2016 pan ddaethant at ei gilydd i ddathlu eu pen-blwydd yn ddeugain. Wrth edrych yn ôl dros gyfraniad Ar Log, dywedodd y beirniad cerddoriaeth werin Christina Roden amdanynt: ‘Although there are many superb musicians in Wales, any exploration of the region’s music should start with, or at least include, a selection of Ar Log’s recordings’ (Roden, 2000).

'''Pwyll ap Siôn'''

==Disgyddiaeth==

*''Ar Log'' (Dingle’s DIN305, 1978)

*''Ar Log II'' (Dingle’s DIN310, 1978)

*''Ar Log III'' (Dingle’s DIN315/Sain 1218M, 1978)

*‘The Carmarthen Oak’ [sengl] (Dingle’s SID224, 1980)

*[gyda Dafydd Iwan] ‘Cerddwn Ymlaen’ [sengl] (Sain 95S,1982)

*[gyda Dafydd Iwan] ''Rhwng Hwyl a Thaith'' (Sain 1252M, 1982)

*[gyda Dafydd Iwan] ''Yma o Hyd'' (Sain 1275M, 1983)

*''Meillionen'' (Dingle’s DIN715, 1983)

*''Ar Log IV'' (Ar Log RAL001, 1984)

*''Ar Log V'' (Sain 1468M, 1988)

*''Ar Log VI'' (Sain SCD2119, 1996)

'''Casgliadau:'''

*''O IV i V'' (Sain SCD9068, 1991)

*''Goreuon Ar Log'' (Sain SCD2547, 2007)

==Llyfryddiaeth==

*Lyn Ebenezer, ''Ar Log ers Ugain Mlynedd'' (Llanrwst, 1996)

*Christina Roden, ‘Ar Log – Welsh Soul for Hire,’ yn ''Wales – An Introduction'' (2000), yn ''https://www.rootsworld.com/celtic/wales2000.html''

*Stephen Rees, ‘Traddodiad Celtaidd Newydd? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr Adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975–c.1989’, ''Hanes Cerddoriaeth Cymru'' 7 (2007), 325–43

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Clawr_Albwm_Ar_Log.jpeg&diff=5469Delwedd:Clawr Albwm Ar Log.jpeg2021-09-26T12:08:48Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Clawr Albwm Ar Log.jpeg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Clawr_Albwm_Ar_Log.jpeg&diff=5468Delwedd:Clawr Albwm Ar Log.jpeg2021-09-26T12:08:26Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Clawr Albwm Ar Log.jpeg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Clawr_Albwm_Ar_Log.jpeg&diff=5467Delwedd:Clawr Albwm Ar Log.jpeg2021-09-26T12:07:36Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Ar_Log&diff=5466Ar Log2021-09-26T12:06:30Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Un o grwpiau gwerin mwyaf poblogaidd a dylanwadol Cymru yn chwarter olaf yr 20g. Ffurfiodd Ar Log yn Awst 1976 ar ôl derbyn gwahoddiad gan yr ŵyl werin ryng-Geltaidd yn Lorient, Llydaw, i berfformio yno. Yr aelodau gwreiddiol oedd Gwyndaf Roberts ([[telyn]] Geltaidd, gitâr fas), Dafydd Roberts ([[Telyn Deires | telyn deires]], ffliwt), Iolo Jones ([[ffidil]]) a Dave Burns (gitâr, mandolin) – Gwyddel o Gaerdydd a fu gynt yn aelod o [[Gwerin, grwpiau | grŵp gwerin]] yr Hennessys. Bu’r ddau frawd Dafydd a Gwyndaf (yr unig ddau aelod cyson trwy gydol gyrfa’r grŵp) yn ddisgyblion i’r delynores [[Richards, Nansi (Telynores Maldwyn; 1888-1979) | Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), felly roedd ganddynt gyswllt uniongyrchol â’r unig draddodiad offerynnol di-dor a oroesodd yng Nghymru. Rhwng 1972 ac 1975 bu Gwyndaf yn aelod o’r [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | grŵp roc]]-gwerin Brân, a fu’n llwyddiannus yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Ban-Geltaidd Killarney, ynghyd â rhyddhau EP, ''Brân'' (Gwawr, 1974), a record hir, ''Ail-Ddechra'' (Sain, 1975). Bu ei frawd Dafydd hefyd yn aelod o’r grŵp am gyfnod.

Yn dilyn derbyniad brwdfrydig yn Lorient ac anogaeth gan y grŵp gwerin adnabyddus o Iwerddon, y Dubliners, aeth Ar Log ati i geisio gwneud bywoliaeth o’u cerddoriaeth – y grŵp gwerin Cymraeg cyntaf i droi’n broffesiynol. Gan ddefnyddio cysylltiadau Dave Burns â’r rhwydwaith werin yng Nghymru a Lloegr o’i ddyddiau gyda’r Hennessys, rhwng 1977 ac 1981 teithodd Ar Log i Iwerddon, yr Alban, Llydaw, yr Almaen ac Awstria, Lloegr, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, yn ogystal â chynnal cyngherddau ar draws Cymru. Roedd eu perfformiadau’n gyfuniad o alawon a chaneuon Cymraeg, yn aml yn cyrraedd uchafbwynt gydag arddangosiad medrus o glocsio gan Dafydd i gyfeiliant y band. Dyma gyfnod prysuraf Ar Log o ran teithiau dramor, pan y’u gwelid yn aml yn perfformio mewn clybiau gwerin neu wyliau mawr gydag artistiaid rhyngwladol o’r gwledydd Celtaidd a thu hwnt, megis Clannad, y Battlefield Band, y Chieftains, Silly Wizzard, Alan Stivell a Dan Ar Braz.

Clywir cymysgedd o ganu gwerin traddodiadol ac alawon offerynnol ar ddau albwm cyntaf y grŵp, ''Ar Log'' (Dingle’s, 1978) ac ''Ar Log II'' (Dingle’s, 1980). Deuai rhai o’r caneuon o hen ''repertoire'' yr Hennessys, megis ‘Ar Lan y Môr’, ‘Hiraeth’ a ‘Rownd yr Horn’, a rhoddai llais Dave Burns naws Wyddelig i’r record hir gyntaf. Roedd yr albwm hefyd yn nodedig am mai dyma’r tro cyntaf i’r delyn deires Gymreig gael ei defnyddio mewn grŵp gwerin. Yn ôl [[Rees, Stephen (g.1963) | Stephen Rees]] (a ddaeth yn ddiweddarach yn aelod pwysig o’r grŵp), defnyddir y delyn deires mewn dwy brif ffordd: yn gyntaf i ddarparu ‘cyfeiliant cordiol, “byrfyfyr” i alawon dawnsio cyflym (tebyg i’r hyn y gellid ei gyflawni ag offeryn rhes sengl); ac [yn ail] mewn alawon arafach, gan ddefnyddio effeithiau ail-chwarae nodyn, yn cynnwys ail-chwarae’r un traw neu gordiau yn gyflym drosodd a thro rhwng y rhesi allanol a oedd wedi’u tiwnio’n ddiatonig, rhywbeth a fyddai’n amhosibl ar delyn un rhes.’ Mae Stephen Rees yn mynd ymlaen i nodi bod gan y delyn deires ‘sain deneuach a mwy treiddgar na’r delyn Geltaidd, a chyda thechneg ail-chwarae nodyn, roedd gan yr offeryn soniarusrwydd unigryw … [a arhosodd] yn un o brif nodweddion recordiadau a pherfformiadau Ar Log trwy gydol yr 1970au a’r 1980au’ (Rees 2007, 329–30).

Bu 1979 yn dipyn o drobwynt i’r band, gydag ymadawiad Iolo Jones yn gyntaf ac yna Dave Burns flwyddyn yn ddiweddarach. Erbyn recordio ''Ar Log II'' roedd Graham Pritchard (ffidil) a Geraint Glynne Davies (gitâr, llais) wedi ymuno, gyda llais Geraint yn cynnig ansawdd mwy Cymreig i’r grŵp. Yr un oedd yr aelodaeth ar gyfer ''Ar Log III'' (Dingle’s, 1983), a ddangosai fwy o barodrwydd i arbrofi ac ailddehongli’r traddodiad.

Daeth newid cyfeiriad am yr ail waith wedi ymadawiad Graham Pritchard yn 1982. Yr un flwyddyn daeth y syniad o drefnu taith ar y cyd â’r canwr [[Iwan, Dafydd (g.1943) | Dafydd Iwan]] i gofio 700 mlynedd ers marwolaeth tywysog olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffudd. Bu ‘Taith 700’ yn llwyddiant, gan esgor ar y sengl ‘Cerddwn Ymlaen’ (Sain, 1982) ac yna’r record hir ''Rhwng Hwyl a Thaith'' (Sain, 1982). Erbyn hyn roedd y cerddor ifanc disglair o Rydaman, Stephen Rees (ffidil, acordion, allweddellau, pibau), wedi cymryd lle Graham Pritchard. Flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd ail daith yr un mor llwyddiannus – ‘Taith Macsen’, y tro hwn i gofio sefydlu Cymru fel gwlad pan adawodd ymerawdr Rhufain, Macsen Wledig, ynys Prydain yn 383 gan adael Cymru ‘yn un darn’. Cadarnhaodd y gân anthemig ‘Yma o Hyd’, ynghyd â’r record hir o’r un enw (Sain, 1983), bartneriaeth greadigol effeithiol rhwng Dafydd Iwan ac Ar Log.

Fodd bynnag, daeth rhai i weld y bartneriaeth fel un anghytbwys, gydag Ar Log yn ddim mwy na chyfeiliant i’r canwr. Gwelwyd y grŵp yn newid cyfeiriad unwaith yn rhagor, felly, a’r sbardun y tro hwn oedd cyfres o deithiau i Ogledd America a De America. Roeddynt eisoes wedi perfformio yng Nghanada yn 1982 ac 1984, gyda Graham Pritchard yn ailymuno ar gyfer yr ail daith. Taflwyd y rhwyd ymhellach yn 1985 pan gafwyd cynnig gan y Cyngor Prydeinig i berfformio yn Ecwador a Cholombia. Yn 1986 dathlodd y band eu pen-blwydd yn ddeg oed gyda thaith ‘Ar ôl Deg’, a flwyddyn yn ddiweddarach buont ar daith bellach i Dde America, gan ymweld y tro hwn â Chile a Pheriw yn ogystal ag Ecwador a Cholombia, gyda chriw ffilmio o’r BBC yn eu dilyn.

Roedd y band eisoes wedi rhyddhau ''Ar Log IV'' ar eu label eu hunain (Ar Log, 1984), albwm a roddai fwy o bwyslais ar draciau offerynnol, gyda chyfraniad yr amryddawn Stephen Rees yn dod i’r amlwg mewn cadwyni o alawon wedi eu cyfuno megis ‘Castell Caernarfon/Pibddawns Aberhonddu/Llys Warpool’. Er bod rhai traciau’n parhau i bwysleisio sain draddodiadol y grŵp (e.e. telynau yn ‘Cerrig y Rhyd’), gwelwyd ymdrech i ymestyn yr ystod seinyddol. Er mai wedi ei seilio ar offeryniaeth o ddwy delyn, gitâr neu fandolin, ffidil a ffliwt yr oedd sain Ar Log, clywid harpsicord synthetig ar rai traciau, gan alw i gof y ''clavinet'' a ddefnyddid ar recordiadau gan y grŵp Gwyddelig The Bothy Band. Label Ar Log fu’n gyfrifol hefyd am ryddhau’r gân ''Band Aid'' Cymraeg ‘Dwylo Dros y Môr’, a gyfansoddwyd gan [[Chiswell, Huw (g.1961) | Huw Chiswell]] a’i chanu gan gantorion pop a gwerin mwyaf amlwg y cyfnod er mwyn codi pres i gynorthwyo pobl a ddioddefai yn sgil y newyn enbyd a oedd yn Ethiopia ar y pryd.

Gwelwyd symudiad pellach i gyfeiriad sain fwy amlwg ‘Geltaidd’ ar ''Ar Log V'' (Sain, 1988), gyda defnydd o’r ''synth bass'' yn y gadwyn agoriadol ‘Rew- di-ranno/Y Facsen Felen’ yn adlewyrchu’r duedd ymysg grwpiau gwerin Gwyddelig ac Albanaidd y cyfnod, fel Clannad a Runrig, i gyfuno [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau]] roc a gwerin. Clywir rhywfaint o ddylanwad De America yn y pibau ar ‘Lisa Fach’ yn ogystal. [[Delwedd:Clawr Albwm Ar Log.jpeg|thumb|Clawr Albym 'Ar Log VI'.]]

Cymharol dawel fu’r grŵp wedi dathliadau’r deng mlynedd, gyda rhai aelodau’n cael eu penodi i swyddi yn y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] neu ym myd [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]] uwch, ac eraill yn datblygu prosiectau cerddorol annibynnol. Fodd bynnag, daeth y band ynghyd yn 1996 i ddathlu ugain mlynedd o fodolaeth, gan gyhoeddi ''Ar Log VI'' (Sain, 1996) i gyd-fynd â thaith ledled Cymru. Roedd y record – a ddaeth ag aelodau presennol a chyn-aelodau’r band at ei gilydd i greu math o ''supergroup'' gwerin – yn arwydd pellach o barodrwydd y band i wthio ffiniau, gyda’r cynhyrchydd roc [[Isaac, Myfyr (g.1954) | Myfyr Isaac]] wrth y llyw, ynghyd â chyfraniadau gan y cerddorion sesiwn Graham Land (drymiau) a Dafydd Wyn (gitâr fas).

Dangosai traciau megis y medli ‘Twll yn y To/ Cymro o Ble?/Pedwar Post y Gwely II’, gyda’i sain gyfoethog a’r cynhyrchu slic, gymaint yr oedd Ar Log wedi datblygu ers y recordiau cynnar. Mae’r grŵp yn parhau i ganu o dro i dro, fel yn 2016 pan ddaethant at ei gilydd i ddathlu eu pen-blwydd yn ddeugain. Wrth edrych yn ôl dros gyfraniad Ar Log, dywedodd y beirniad cerddoriaeth werin Christina Roden amdanynt: ‘Although there are many superb musicians in Wales, any exploration of the region’s music should start with, or at least include, a selection of Ar Log’s recordings’ (Roden, 2000).

'''Pwyll ap Siôn'''

==Disgyddiaeth==

*''Ar Log'' (Dingle’s DIN305, 1978)

*''Ar Log II'' (Dingle’s DIN310, 1978)

*''Ar Log III'' (Dingle’s DIN315/Sain 1218M, 1978)

*‘The Carmarthen Oak’ [sengl] (Dingle’s SID224, 1980)

*[gyda Dafydd Iwan] ‘Cerddwn Ymlaen’ [sengl] (Sain 95S,1982)

*[gyda Dafydd Iwan] ''Rhwng Hwyl a Thaith'' (Sain 1252M, 1982)

*[gyda Dafydd Iwan] ''Yma o Hyd'' (Sain 1275M, 1983)

*''Meillionen'' (Dingle’s DIN715, 1983)

*''Ar Log IV'' (Ar Log RAL001, 1984)

*''Ar Log V'' (Sain 1468M, 1988)

*''Ar Log VI'' (Sain SCD2119, 1996)

'''Casgliadau:'''

*''O IV i V'' (Sain SCD9068, 1991)

*''Goreuon Ar Log'' (Sain SCD2547, 2007)

==Llyfryddiaeth==

*Lyn Ebenezer, ''Ar Log ers Ugain Mlynedd'' (Llanrwst, 1996)

*Christina Roden, ‘Ar Log – Welsh Soul for Hire,’ yn ''Wales – An Introduction'' (2000), yn ''https://www.rootsworld.com/celtic/wales2000.html''

*Stephen Rees, ‘Traddodiad Celtaidd Newydd? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr Adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975–c.1989’, ''Hanes Cerddoriaeth Cymru'' 7 (2007), 325–43

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Stereophonics&diff=5465Stereophonics2021-09-26T12:02:39Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

[[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Grŵp roc]] o Gwm Cynon a ffurfiwyd yn 1992 yw’r Stereophonics. Cychwynnodd y band yn wreiddiol yn 1986, a hynny o dan yr enw Zephyr, gan Kelly Jones (llais/gitâr) a Stuart Cable (drymiau), a oedd yn byw yn yr un stryd yng Nghwmaman. Ar ôl cyfnod yn canu o dan yr enw Tragic Love Company, daeth yr enw Stereophonics wedi iddynt gael eu harwyddo gan label Richard Branson, V2, gyda Richard Jones (bas) ac Adam Zindani (gitâr) yn cwblhau’r pedwarawd gwreiddiol. [[Delwedd: Stereophonics_gig_O2.jpeg|thumb| Y Stereophonics yn perfformio yn yr O2 Arena, Llundain.]]

Yn 1996 rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ''Looks Like Chaplin/More Life In A Tramp’s Vest'', a gwelwyd y grŵp yn cael ei gymharu gan y wasg â’r [[Manic Street Preachers]]. Ar ôl hynny daeth albwm cyntaf llwyddiannus, ''Word Gets Around'' (1997), a aeth i rif 6 yn y siartiau Prydeinig, a thaith fyd-eang. Cafodd eu hail albwm, ''Performance and Cocktails'' (1999), dderbyniad brwd hefyd, a daeth 50,000 i wrando arnynt yn perfformio yn Stadiwm y Morfa, Abertawe, yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn honno. Llwyddodd y band i gythruddo rhai o gefnogwyr tîm rygbi Lloegr trwy berfformio’r gân ddychanol ‘As Long as We Beat The English’. Rhyddhawyd y perfformiad ar ffurf DVD yn 2000.

Erbyn 2000, felly, roedd Stereophonics yn un o’r grwpiau Cymreig mwyaf llwyddiannus yn y diwydiant. Er na ryddhawyd albwm ganddynt yn ystod y flwyddyn honno, cyrhaeddodd eu fersiwn o gân Randy Newman, ‘Mama Told Me Not to Come’, a hynny ar y cyd â’r canwr [[Jones, Tom (g.1940) | Tom Jones]], rif 4 yn y siartiau ym mis Mawrth. Dros y blynyddoedd nesaf tyfodd eu poblogrwydd yn sgil sawl albwm cryf a pherfformiadau cofiadwy. Er mwyn hyrwyddo eu halbwm ''Just Enough Education to Perform'' (V2, 2001) trefnodd y grŵp ddau berfformiad mewn un penwythnos (ym mharc Donington a Stadiwm y Mileniwm) gan lwyddo i werthu dros 200,000 o docynnau. Roedd yr albwm yn cynnwys y gân boblogaidd ‘Have a Nice Day’. Daeth rhagor o lwyddiant wrth i’r sengl ‘Dakota’, o’r albwm ''Language. Sex. Violence. Other?'' (V2, 2005), gyrraedd rhif 1 yn y siartiau. Dyma oes aur y band (er i Stuart Cable ymadael) ac yn 2008 rhyddhawyd albwm o’u caneuon gorau, sef ''Decade in the Sun'' (V2, 2008). Er i gyfnod distawach ddilyn, aeth yr albwm ''Keep the Village Alive'' (Stylus, 2015), y cyntaf gyda Jamie Morrison fel drymiwr, i rif 1 yn y siartiau Prydeinig.

Disgrifir ''genre''’r grŵp fel ‘roc amgen’ neu ‘roc ''indie’'' a nodweddir eu sain gan lais cryg Kelly Jones. Fe’i cymharwyd ef â chantorion fel Rod Stewart ac amlygiad penodol o hynny yw’r sengl ‘Handbags and Gladrags’ (2001) a recordiwyd yn flaenorol gan Stewart yn 1969. Ar wahân i ‘Dakota’, dyma’r unig sengl arall gan y grŵp a dderbyniodd statws ‘aur’ o ganlyniad i’w llwyddiant masnachol.

'''Gethin Griffiths'''

==Disgyddiaeth==

*''Word Gets Around'' (V2 VVR1000432 1997)

*''Performance and Cocktails'' (V2 VVR1004492, 1999)

*''Just Enough Education to Perform'' (V2 VVR1015842, 2001)

*''You Gotta Go There to Come Back'' (V2 VVR1021902, 2003)

*''Language. Sex. Violence. Other?'' (V2 VVR1031052, 2005)

*''Pull the Pin'' (V2 VVR1048562, 2007)

*''Keep Calm and Carry On'' (Mercury 00602527197753, 2009)

*''Graffiti on the Train'' (Stylus STYLUSCD3, 2013)

*''Keep the Village Alive'' (Stylus STYLUSCD8, 2015)

*''Scream Above The Sounds'' (Parlophone 0190295767990, 2017

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Stereophonics_gig_O2.jpeg&diff=5464Delwedd:Stereophonics gig O2.jpeg2021-09-26T12:01:44Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Stereophonics gig O2.jpeg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Stereophonics_gig_O2.jpeg&diff=5463Delwedd:Stereophonics gig O2.jpeg2021-09-26T12:00:43Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Stereophonics&diff=5462Stereophonics2021-09-26T12:00:10Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

[[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Grŵp roc]] o Gwm Cynon a ffurfiwyd yn 1992 yw’r Stereophonics. Cychwynnodd y band yn wreiddiol yn 1986, a hynny o dan yr enw Zephyr, gan Kelly Jones (llais/gitâr) a Stuart Cable (drymiau), a oedd yn byw yn yr un stryd yng Nghwmaman. Ar ôl cyfnod yn canu o dan yr enw Tragic Love Company, daeth yr enw Stereophonics wedi iddynt gael eu harwyddo gan label Richard Branson, V2, gyda Richard Jones (bas) ac Adam Zindani (gitâr) yn cwblhau’r pedwarawd gwreiddiol. [[Delwedd:Stereophonics_gig_O2.jpeg|thumb|Sterephonics yn perfformio yn yr O2 Arena, Llundain.]]

Yn 1996 rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ''Looks Like Chaplin/More Life In A Tramp’s Vest'', a gwelwyd y grŵp yn cael ei gymharu gan y wasg â’r [[Manic Street Preachers]]. Ar ôl hynny daeth albwm cyntaf llwyddiannus, ''Word Gets Around'' (1997), a aeth i rif 6 yn y siartiau Prydeinig, a thaith fyd-eang. Cafodd eu hail albwm, ''Performance and Cocktails'' (1999), dderbyniad brwd hefyd, a daeth 50,000 i wrando arnynt yn perfformio yn Stadiwm y Morfa, Abertawe, yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn honno. Llwyddodd y band i gythruddo rhai o gefnogwyr tîm rygbi Lloegr trwy berfformio’r gân ddychanol ‘As Long as We Beat The English’. Rhyddhawyd y perfformiad ar ffurf DVD yn 2000.

Erbyn 2000, felly, roedd Stereophonics yn un o’r grwpiau Cymreig mwyaf llwyddiannus yn y diwydiant. Er na ryddhawyd albwm ganddynt yn ystod y flwyddyn honno, cyrhaeddodd eu fersiwn o gân Randy Newman, ‘Mama Told Me Not to Come’, a hynny ar y cyd â’r canwr [[Jones, Tom (g.1940) | Tom Jones]], rif 4 yn y siartiau ym mis Mawrth. Dros y blynyddoedd nesaf tyfodd eu poblogrwydd yn sgil sawl albwm cryf a pherfformiadau cofiadwy. Er mwyn hyrwyddo eu halbwm ''Just Enough Education to Perform'' (V2, 2001) trefnodd y grŵp ddau berfformiad mewn un penwythnos (ym mharc Donington a Stadiwm y Mileniwm) gan lwyddo i werthu dros 200,000 o docynnau. Roedd yr albwm yn cynnwys y gân boblogaidd ‘Have a Nice Day’. Daeth rhagor o lwyddiant wrth i’r sengl ‘Dakota’, o’r albwm ''Language. Sex. Violence. Other?'' (V2, 2005), gyrraedd rhif 1 yn y siartiau. Dyma oes aur y band (er i Stuart Cable ymadael) ac yn 2008 rhyddhawyd albwm o’u caneuon gorau, sef ''Decade in the Sun'' (V2, 2008). Er i gyfnod distawach ddilyn, aeth yr albwm ''Keep the Village Alive'' (Stylus, 2015), y cyntaf gyda Jamie Morrison fel drymiwr, i rif 1 yn y siartiau Prydeinig.

Disgrifir ''genre''’r grŵp fel ‘roc amgen’ neu ‘roc ''indie’'' a nodweddir eu sain gan lais cryg Kelly Jones. Fe’i cymharwyd ef â chantorion fel Rod Stewart ac amlygiad penodol o hynny yw’r sengl ‘Handbags and Gladrags’ (2001) a recordiwyd yn flaenorol gan Stewart yn 1969. Ar wahân i ‘Dakota’, dyma’r unig sengl arall gan y grŵp a dderbyniodd statws ‘aur’ o ganlyniad i’w llwyddiant masnachol.

'''Gethin Griffiths'''

==Disgyddiaeth==

*''Word Gets Around'' (V2 VVR1000432 1997)

*''Performance and Cocktails'' (V2 VVR1004492, 1999)

*''Just Enough Education to Perform'' (V2 VVR1015842, 2001)

*''You Gotta Go There to Come Back'' (V2 VVR1021902, 2003)

*''Language. Sex. Violence. Other?'' (V2 VVR1031052, 2005)

*''Pull the Pin'' (V2 VVR1048562, 2007)

*''Keep Calm and Carry On'' (Mercury 00602527197753, 2009)

*''Graffiti on the Train'' (Stylus STYLUSCD3, 2013)

*''Keep the Village Alive'' (Stylus STYLUSCD8, 2015)

*''Scream Above The Sounds'' (Parlophone 0190295767990, 2017

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Stereophonics&diff=5461Stereophonics2021-09-26T11:59:40Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

[[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Grŵp roc]] o Gwm Cynon a ffurfiwyd yn 1992 yw’r Stereophonics. Cychwynnodd y band yn wreiddiol yn 1986, a hynny o dan yr enw Zephyr, gan Kelly Jones (llais/gitâr) a Stuart Cable (drymiau), a oedd yn byw yn yr un stryd yng Nghwmaman. Ar ôl cyfnod yn canu o dan yr enw Tragic Love Company, daeth yr enw Stereophonics wedi iddynt gael eu harwyddo gan label Richard Branson, V2, gyda Richard Jones (bas) ac Adam Zindani (gitâr) yn cwblhau’r pedwarawd gwreiddiol. [[Delwedd:Stereophonics_gig_O2.jpeg|thumb|Sterephonics yn perfformio yn yr O2 Arenca, Llundain.]]

Yn 1996 rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ''Looks Like Chaplin/More Life In A Tramp’s Vest'', a gwelwyd y grŵp yn cael ei gymharu gan y wasg â’r [[Manic Street Preachers]]. Ar ôl hynny daeth albwm cyntaf llwyddiannus, ''Word Gets Around'' (1997), a aeth i rif 6 yn y siartiau Prydeinig, a thaith fyd-eang. Cafodd eu hail albwm, ''Performance and Cocktails'' (1999), dderbyniad brwd hefyd, a daeth 50,000 i wrando arnynt yn perfformio yn Stadiwm y Morfa, Abertawe, yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn honno. Llwyddodd y band i gythruddo rhai o gefnogwyr tîm rygbi Lloegr trwy berfformio’r gân ddychanol ‘As Long as We Beat The English’. Rhyddhawyd y perfformiad ar ffurf DVD yn 2000.

Erbyn 2000, felly, roedd Stereophonics yn un o’r grwpiau Cymreig mwyaf llwyddiannus yn y diwydiant. Er na ryddhawyd albwm ganddynt yn ystod y flwyddyn honno, cyrhaeddodd eu fersiwn o gân Randy Newman, ‘Mama Told Me Not to Come’, a hynny ar y cyd â’r canwr [[Jones, Tom (g.1940) | Tom Jones]], rif 4 yn y siartiau ym mis Mawrth. Dros y blynyddoedd nesaf tyfodd eu poblogrwydd yn sgil sawl albwm cryf a pherfformiadau cofiadwy. Er mwyn hyrwyddo eu halbwm ''Just Enough Education to Perform'' (V2, 2001) trefnodd y grŵp ddau berfformiad mewn un penwythnos (ym mharc Donington a Stadiwm y Mileniwm) gan lwyddo i werthu dros 200,000 o docynnau. Roedd yr albwm yn cynnwys y gân boblogaidd ‘Have a Nice Day’. Daeth rhagor o lwyddiant wrth i’r sengl ‘Dakota’, o’r albwm ''Language. Sex. Violence. Other?'' (V2, 2005), gyrraedd rhif 1 yn y siartiau. Dyma oes aur y band (er i Stuart Cable ymadael) ac yn 2008 rhyddhawyd albwm o’u caneuon gorau, sef ''Decade in the Sun'' (V2, 2008). Er i gyfnod distawach ddilyn, aeth yr albwm ''Keep the Village Alive'' (Stylus, 2015), y cyntaf gyda Jamie Morrison fel drymiwr, i rif 1 yn y siartiau Prydeinig.

Disgrifir ''genre''’r grŵp fel ‘roc amgen’ neu ‘roc ''indie’'' a nodweddir eu sain gan lais cryg Kelly Jones. Fe’i cymharwyd ef â chantorion fel Rod Stewart ac amlygiad penodol o hynny yw’r sengl ‘Handbags and Gladrags’ (2001) a recordiwyd yn flaenorol gan Stewart yn 1969. Ar wahân i ‘Dakota’, dyma’r unig sengl arall gan y grŵp a dderbyniodd statws ‘aur’ o ganlyniad i’w llwyddiant masnachol.

'''Gethin Griffiths'''

==Disgyddiaeth==

*''Word Gets Around'' (V2 VVR1000432 1997)

*''Performance and Cocktails'' (V2 VVR1004492, 1999)

*''Just Enough Education to Perform'' (V2 VVR1015842, 2001)

*''You Gotta Go There to Come Back'' (V2 VVR1021902, 2003)

*''Language. Sex. Violence. Other?'' (V2 VVR1031052, 2005)

*''Pull the Pin'' (V2 VVR1048562, 2007)

*''Keep Calm and Carry On'' (Mercury 00602527197753, 2009)

*''Graffiti on the Train'' (Stylus STYLUSCD3, 2013)

*''Keep the Village Alive'' (Stylus STYLUSCD8, 2015)

*''Scream Above The Sounds'' (Parlophone 0190295767990, 2017

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Duffy_(g.1984)&diff=5460Duffy (g.1984)2021-09-12T11:36:48Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Ganed y gantores Duffy (neu Aimée Ann Duffy i roi ei enw llawn) ym Mangor ar 23 Mehefin 1984. Cafodd ei magu yn Nefyn ac yn ddiweddarach yn Nhreletert ger Abergwaun. Ar ôl dychwelyd am gyfnod i Lŷn bu’n astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor ac yna ym Mhrifysgol Caer, cyn cychwyn ar ei gyrfa gerddorol fel cantores.

Yn 2003 ymddangosodd fel cystadleuydd ar y gyfres gerddorol ''Wawffactor'' ar S4C gan gipio’r ail safle (Lisa Pedrick oedd yn fuddugol). Yn dilyn ei llwyddiant ar y rhaglen rhyddhaodd yr EP ''Aimée Duffy'' (2004) ar label Awen. Derbyniodd yr EP glod gan y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] Cymraeg gan ddod i’r brig ar un o siartiau C2 yn 2008. Ar ôl symud i Lundain a chael ei chyflwyno i unigolion blaenllaw fel Jeanette Lee o recordiau Rough Trade, awgrymwyd y dylai fabwysiadu cerddoriaeth ''soul'' fel ei phrif ''genre''. Yn dilyn hynny arwyddwyd Duffy gan label A&M Records a chafodd gyfle i recordio ei halbwm cyntaf, ''Rockferry'' (A&M, 2008).

Bu llwyddiant ''Rockferry'' yn gwbl syfrdanol. Gwerthodd 180,000 o gopïau yn ystod yr wythnos ar ôl cael ei ryddhau, ac arhosodd ar frig y siartiau am fis. Bu’r gwerthiant yn bennaf o ganlyniad i boblogrwydd y sengl ‘Mercy’ a ryddhawyd fis yn gynharach na’r albwm, gan fynd yn syth i frig siartiau senglau Prydain. Enwebwyd y sengl ar gyfer un o wobrau Grammy’r flwyddyn honno, ac mae’r gân wedi cael ei defnyddio droeon ers hynny ar gyfer [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]] megis ''ER'', ''Gray’s Anatomy'' a ''Smallville''. ‘Mercy’ oedd y gân gyntaf gan gantores Gymreig i gyrraedd brig y siartiau Prydeinig ers ‘Total Eclipse of the Heart’ gan [[Tyler, Bonnie (g.1951) | Bonnie Tyler]] bum mlynedd ar hugain ynghynt. Hyrwyddodd Duffy ei halbwm ymhellach drwy gyfrwng perfformiadau amrywiol ar raglenni fel ''Later with Jools Holland''. Daeth llwyddiant iddi yn yr Unol Daleithiau hefyd gydag ymddangosiadau ar raglenni megis ''Late Night with Conan O’Brien''.

Dilynwyd ''Rockferry'' ddwy flynedd yn ddiweddarach gan ei hail albwm, ''Endlessly'' (A&M, 2010), ond ni chafodd yr un llwyddiant â ''Rockferry''. Rhyddhawyd un sengl, ‘Well Well Well’, a gyrhaeddodd rif 41 yn y siartiau Prydeinig. Ers hynny, ymddangosodd y gantores mewn ffilmiau a hysbysebion teledu amrywiol wrth iddi gymryd seibiant o’i gyrfa gerddorol. Ymddangosodd yn y ffilm Gymraeg, ''Patagonia'' (Rainy Day Films, 2010) a ryddhawyd erbyn gŵyl ffilmiau ryngwladol Seattle ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Ymddangosodd hefyd yn ffilm Brian Helgeland, ''Legend'' (StudioCanal, 2015), gan gyfrannu dwy gân at y trac sain.

Disgrifir ''genre'' cerddorol Duffy fel ''blue-eyed soul'' ac mae ''Rockferry'' yn cael ei gydnabod fel un o albymau pwysicaf y ''genre'' yn negawd cyntaf yr 21g. Cymharwyd ei llais â chantoresau megis Dusty Springfield (1939– 99) a’i chyfoeswraig Amy Winehouse (1983–2011). Ynghyd ag Adele, Gabriella Cilmi ac Estelle, y mae Duffy yn nodweddu cyfnod o amlygrwydd i ferched ifainc fel artistiaid unigol ym Mhrydain a thu hwnt.

'''Gethin Griffiths'''

==Disgyddiaeth==

*''Aimée Duffy'' (Awen CD212, 2004)

*''Rockferry'' (A&M 179009-0, 2008)

*''Endlessly'' (A&M 2757411-70 , 2010)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Duffy_(g.1984)&diff=5459Duffy (g.1984)2021-09-11T16:43:10Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Ganed y gantores Duffy (neu Aimée Ann Duffy i roi ei enw llawn) ym Mangor ar 23 Mehefin 1984. Cafodd ei magu yn Nefyn ac yn ddiweddarach yn Nhreletert ger Abergwaun. Ar ôl dychwelyd am gyfnod i Lŷn bu’n astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor ac yna ym Mhrifysgol Caer, cyn cychwyn ar ei gyrfa gerddorol fel cantores. [[Delwedd:Duffy (2010).jpeg|thumb|Duffy (2010).]]

Yn 2003 ymddangosodd fel cystadleuydd ar y gyfres gerddorol ''Wawffactor'' ar S4C gan gipio’r ail safle (Lisa Pedrick oedd yn fuddugol). Yn dilyn ei llwyddiant ar y rhaglen rhyddhaodd yr EP ''Aimée Duffy'' (2004) ar label Awen. Derbyniodd yr EP glod gan y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] Cymraeg gan ddod i’r brig ar un o siartiau C2 yn 2008. Ar ôl symud i Lundain a chael ei chyflwyno i unigolion blaenllaw fel Jeanette Lee o recordiau Rough Trade, awgrymwyd y dylai fabwysiadu cerddoriaeth ''soul'' fel ei phrif ''genre''. Yn dilyn hynny arwyddwyd Duffy gan label A&M Records a chafodd gyfle i recordio ei halbwm cyntaf, ''Rockferry'' (A&M, 2008).

Bu llwyddiant ''Rockferry'' yn gwbl syfrdanol. Gwerthodd 180,000 o gopïau yn ystod yr wythnos ar ôl cael ei ryddhau, ac arhosodd ar frig y siartiau am fis. Bu’r gwerthiant yn bennaf o ganlyniad i boblogrwydd y sengl ‘Mercy’ a ryddhawyd fis yn gynharach na’r albwm, gan fynd yn syth i frig siartiau senglau Prydain. Enwebwyd y sengl ar gyfer un o wobrau Grammy’r flwyddyn honno, ac mae’r gân wedi cael ei defnyddio droeon ers hynny ar gyfer [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]] megis ''ER'', ''Gray’s Anatomy'' a ''Smallville''. ‘Mercy’ oedd y gân gyntaf gan gantores Gymreig i gyrraedd brig y siartiau Prydeinig ers ‘Total Eclipse of the Heart’ gan [[Tyler, Bonnie (g.1951) | Bonnie Tyler]] bum mlynedd ar hugain ynghynt. Hyrwyddodd Duffy ei halbwm ymhellach drwy gyfrwng perfformiadau amrywiol ar raglenni fel ''Later with Jools Holland''. Daeth llwyddiant iddi yn yr Unol Daleithiau hefyd gydag ymddangosiadau ar raglenni megis ''Late Night with Conan O’Brien''.

Dilynwyd ''Rockferry'' ddwy flynedd yn ddiweddarach gan ei hail albwm, ''Endlessly'' (A&M, 2010), ond ni chafodd yr un llwyddiant â ''Rockferry''. Rhyddhawyd un sengl, ‘Well Well Well’, a gyrhaeddodd rif 41 yn y siartiau Prydeinig. Ers hynny, ymddangosodd y gantores mewn ffilmiau a hysbysebion teledu amrywiol wrth iddi gymryd seibiant o’i gyrfa gerddorol. Ymddangosodd yn y ffilm Gymraeg, ''Patagonia'' (Rainy Day Films, 2010) a ryddhawyd erbyn gŵyl ffilmiau ryngwladol Seattle ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Ymddangosodd hefyd yn ffilm Brian Helgeland, ''Legend'' (StudioCanal, 2015), gan gyfrannu dwy gân at y trac sain.

Disgrifir ''genre'' cerddorol Duffy fel ''blue-eyed soul'' ac mae ''Rockferry'' yn cael ei gydnabod fel un o albymau pwysicaf y ''genre'' yn negawd cyntaf yr 21g. Cymharwyd ei llais â chantoresau megis Dusty Springfield (1939– 99) a’i chyfoeswraig Amy Winehouse (1983–2011). Ynghyd ag Adele, Gabriella Cilmi ac Estelle, y mae Duffy yn nodweddu cyfnod o amlygrwydd i ferched ifainc fel artistiaid unigol ym Mhrydain a thu hwnt.

'''Gethin Griffiths'''

==Disgyddiaeth==

*''Aimée Duffy'' (Awen CD212, 2004)

*''Rockferry'' (A&M 179009-0, 2008)

*''Endlessly'' (A&M 2757411-70 , 2010)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Super_Furry_Animals_yn_perfformio%E2%80%99n_fyw_yn_y_Bridgwater_Palace_(2015).jpeg&diff=5458Delwedd:Super Furry Animals yn perfformio’n fyw yn y Bridgwater Palace (2015).jpeg2021-09-11T16:41:43Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Super Furry Animals yn perfformio’n fyw yn y Bridgwater Palace (2015).jpeg

CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Super_Furry_Animals_yn_perfformio%E2%80%99n_fyw_yn_y_Bridgwater_Palace_(2015).jpeg&diff=5457Delwedd:Super Furry Animals yn perfformio’n fyw yn y Bridgwater Palace (2015).jpeg2021-09-11T16:41:31Z
CadiW:

CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Super_Furry_Animals&diff=5456Super Furry Animals2021-09-11T16:41:16Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

[[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Grŵp pop]] arbrofol a ffurfiwyd yng Nghaerdydd gan [[Rhys, Gruff (g.1970) | Gruff Rhys]] (llais, gitâr), Huw Bunford (gitâr, llais), Guto Pryce (gitâr fas), Cian Ciaran (allweddellau, llais) a Dafydd Ieuan (drymiau, llais).

Pan chwalodd y band [[Ffa Coffi Pawb]] yn 1993, ffurfiodd Dafydd Ieuan a Gruff Rhys fand newydd gydag aelodau o fandiau Cymraeg eraill, sef Huw Bunford a Guto Pryce o U Thant a Cian Ciaran o Wwzz. Bu’r grŵp yn recordio gyntaf gydag Ankst, ond o fewn blwyddyn roeddynt wedi llofnodi cytundeb gyda label Creation Records. [[Delwedd:Super Furry Animals yn perfformio’n fyw yn y Bridgwater Palace (2015).jpeg|thumb|Super Furry Animals yn perfformio’n fyw yn y Bridgwater Palace (2015).]]

Yn y cyfnod hwn roedd pryder cyffredinol ynghylch y nifer o fandiau a oedd yn troi cefn ar lwyddiant sicr yn y byd Cymraeg er mwyn mentro yn y byd pop Eingl-Americanaidd. Llwyddodd Super Furry Animals i ddiogelu’r iaith yn eu cytundeb recordio gyda Creation a chadw’r hawl i ryddhau dwy sengl neu EP y flwyddyn yn y Gymraeg ar label Ankst. Ar hyd y blynyddoedd, felly, parhaodd y grŵp i gyfansoddi caneuon Cymraeg.

Ar ôl iddynt ryddhau eu pedwerydd albwm gyda Creation daeth y label i ben. Yn 2000 trodd Super Furry Animals at eu casgliad o ganeuon Cymraeg gan ryddhau’r albwm uniaith Gymraeg ''Mwng'' ar eu label eu hunain. Cafodd yr albwm dderbyniad brwd ym Mhrydain a thu hwnt, nid fel record Gymraeg ei hiaith ond fel record bop fyd-eang. Symudodd Super Furry Animals at label Epic ar gyfer ''Rings Around the World'' (2001). Hwn oedd yr albwm cyntaf erioed gan unrhyw grŵp i gael ei ryddhau ar yr un pryd ar CD yn ogystal â DVD, a chafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddorol Mercury.

Gyda’u halbwm nesaf, ''Phantom Power'' (2004), trodd Super Furry Animals at arddull gerddorol fwy syml cyn symud ymlaen at wahanol brosiectau, megis albwm unigol Gruff Rhys, ''Yr Atal Genhedlaeth'' (2005). ''Love Kraft'' (2005) oedd yr albwm olaf iddynt ei ryddhau gydag Epic a rhyddhawyd dau albwm arall ar ôl hynny ar label Rough Trade. Yn 2015 ailffurfiodd y band ar gyfer cyfres o berfformiadau i ddathlu pymtheng mlynedd ers rhyddhau ''Mwng'' a daeth eu sengl ‘Bing Bong’ (a’r fideo) yn hynod boblogaidd yn ystod ymgyrch lwyddiannus tîm peldroed Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan Ewrop, 2016. Cyflawnodd pob aelod o Super Furry Animals hefyd brosiectau cerddorol y tu allan i’r grŵp.

Yn gerddorol mae’n anodd iawn diffinio Super Furry Animals a gosod labeli taclus arnynt. Er bod yn eu gwaith, o ran strwythur caneuon ac alawon lleisiol, elfennau sy’n gynefin a chyfarwydd, yn eu sŵn – ac o gân i gân – ymglywir â dylanwadau eithriadol o eclectig. Yn eu perthynas â’r byd pop Cymraeg a’r diwydiant pop Eingl-Americanaidd bu Super Furry Animals hefyd yn eithriadol o anghydffurfiol ac annibynnol eu hysbryd. Er mwyn osgoi rheolaeth Lundeinig cadwasant eu hunaniaeth Gymraeg. Ond wrth gofleidio cerddoriaeth bop fyd-eang dangosodd Super Furry Animals hefyd nad band pop Cymraeg yn unig oeddynt, ond band pop y byd.

'''Sarah Hill'''

==Disgyddiaeth==

*''Moog Droog'' [EP] (Ankst 062, 1995)

*''Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyndrobwllantysiliogogogochynygofod (In Space)'' [EP] (Ankst 057, 1995)

*''God! Show Me Magic'' [EP] (Creation CRESCD231, 1996)

*''Fuzzy Logic'' (Creation CRECD190, 1996)

*‘The Man Don’t Give a Fuck’ [sengl] (Creation CRESCD247, 1996)

*''Radiator'' (Creation CRECD214, 1997)

*‘The International Language of Screaming’ [sengl] (Creation CRESCD269, 1997)

*‘Ice Hockey Hair’ [EP] (Creation CRESCD288, 1998)

*''Guerrilla'' (Creation CRECD242, 1999)

*''Mwng'' (Placid Casual PLC03CD, 2000)

*''Rings Around the World'' (Epic 502413 2, 2001)

*‘Juxtapozed With U’ [EP] (Epic 671224 2, 2001)

*''Phantom Power'' (Epic 512375 2, 2004)

*''Phantom Phorce'' (Placid Casual PLC07CD, 2004)

*''Love Kraft'' (Epic 520501 1, 2005)

*''Hey Venus!'' (Rough Trade RTRADLP346, 2007)

*''Dark Days/Light Years'' (Rough Trade RTRADCD546, 2009)

*‘Bing Bong’ [sengl] (Strangetown Records STR030, 2016)

'''Casgliadau:'''

*''Out Spaced'' (Creation CRECD229, 1998)

*''Songbook (The Singles, Vol. 1)'' (Epic XPCD2957, 2004)

*''Under the Influence'' (DMC UTICD006, 2005)

==Llyfryddiaeth==

*Ric Rawlins, ''Rise of the Super Furry Animals'' (Llundain, 2015)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Manic_Street_Preachers_yn_perfformio%E2%80%99n_fyw_yng_Nghaerdydd_(2010).jpeg&diff=5455Delwedd:Manic Street Preachers yn perfformio’n fyw yng Nghaerdydd (2010).jpeg2021-09-11T16:36:23Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Manic Street Preachers yn perfformio’n fyw yng Nghaerdydd (2010).jpeg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Manic_Street_Preachers_yn_perfformio%E2%80%99n_fyw_yng_Nghaerdydd_(2010).jpeg&diff=5454Delwedd:Manic Street Preachers yn perfformio’n fyw yng Nghaerdydd (2010).jpeg2021-09-11T16:36:09Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Manic_Street_Preachers&diff=5453Manic Street Preachers2021-09-11T16:35:48Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Un o [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | fandiau roc]] Cymreig pwysicaf a mwyaf llwyddiannus y chwarter canrif diwethaf. Ffurfiwyd y Manic Street Preachers (neu’r ''Manics'' i nifer) yn 1986 yng Nghoed-duon, Caerffili, gyda James Dean Bradfield (llais, gitâr), Nicky Wire (Nicholas Allen Jones; bas) a Sean Moore (drymiau) fel y prif aelodau; cyn bo hir ymunodd Richey Edwards (gitâr rhythm) i gwblhau’r grŵp. Roedd y pedwar aelod yn ffrindiau ysgol, a bu’r arddegau yn gyfnod o ddarllen eang yn eu hanes; roedd Sefyllfäwriaeth ''(Situationism)'' a llenyddiaeth yr 20g. yn ddylanwadau pwysig arnynt. O safbwynt cerddorol, daeth y pedwar dan ddylanwad pync-roc yn ogystal â bandiau cyfoes megis Guns ‘n’ Roses.

Rhyddhaodd y band eu sengl gyntaf, ‘Suicide Alley’, yn 1988 ar label ''ad hoc'', gan ennill clod yn y ''New Musical Express'', ac erbyn 1991 roeddynt wedi arwyddo cytundeb gyda’r label annibynnol Heavenly Records, ar ôl ymgyrch gyhoeddusrwydd galed yn y wasg gerddorol Brydeinig wrth iddynt wneud datganiadau dadleuol am wleidyddiaeth a natur ddiflas y sîn gerddorol fel yr oeddynt yn ei gweld ar y pryd. Yn 1991 arwyddodd y band gytundeb gyda Sony/Columbia, ac yn 1992 cafodd eu halbwm cyntaf, ''Generation Terrorists'', ei ryddhau; fe’i dilynwyd gan ''Gold Against The Soul'' (Sony, 1993). Er gwaethaf eu llwyddiant masnachol - cyrhaeddodd tair sengl oddi ar Generation Terrorists yr 20 Uchaf Prydeinig - adolygiadau cymysg a gafodd y ddau albwm. [[Delwedd:Manic Street Preachers yn perfformio’n fyw yng Nghaerdydd (2010).jpeg|thumb|Manic Street Preachers yn perfformio’n fyw yng Nghaerdydd (2010).]]

Ystyrir trydydd albwm y band, ''The Holy Bible'' (Sony, 1994), yn drobwynt yn eu hanes, wrth iddynt gefnu ar eu nodweddion cerddorol gwreiddiol a chofleidio sŵn llawer mwy amrwd, gyda chaneuon yn archwilio pynciau megis anorecsia, natur crefydd, cyfalafiaeth, byw a marw, a’r Holocost; er na fu’r albwm yn llwyddiant masnachol derbyniodd glod yn y wasg. Roedd ymddygiad prif awdur geiriau’r band, Richey Edwards, wedi achosi pryder yn y gorffennol, yn enwedig yn 1991 pan aeth ati i hunan-anafu o flaen y [[newyddiadurwr]] Steve Lamacq, gan dorri’r slogan ‘4 REAL’ i mewn i’w fraich gyda llafn, ac ar daith yn Thailand yn ystod 1994 fe hunan-anafodd eto gyda chyllell. Roedd natur dywyll ei feddyliau yn amlwg yng ngeiriau caneuon megis ‘The Intense Humming Of Evil’, ‘Die In The Summertime’ ac ‘Archives Of Pain’, cân herfeiddiol am greulondeb sylfaenol dynoliaeth ac amhosibilrwydd athronyddol achubiaeth ar ôl tröedigaeth foesol.

Ar 1 Chwefror 1995 diflannodd Richey Edwards yn Llundain. Ar ôl i’r heddlu ddarganfod ei gar mewn maes parcio ger Pont Hafren, tybiwyd ei fod wedi ei foddi ei hunan er na chafodd ei gorff erioed ei ddarganfod. Cafodd diflaniad Edwards effaith fawr ar dri aelod arall y band, ac ni welwyd record arall ganddynt hyd 1996. Roedd y pum mlynedd nesaf yn uchafbwynt masnachol a chreadigol i’r band, gyda saith sengl o’u heiddo’n cyrraedd y 10 Uchaf Prydeinig (yn cynnwys dwy sengl a fu’n Rhif 1), a gwerthiant albwm platinwm i ''Everything Must Go'' (Sony, 1996) a ''This Is My Truth Tell Me Yours'' (Sony, 1998). Yn 1999 chwaraeodd y band o flaen 80,000 o bobl yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Nos Galan.

Ers 2000 mae’r band wedi parhau i recordio a theithio yn gyson. Roedd ''Know Your Enemy'' (Sony, 2001) yn llwyddiant masnachol, ond ar ôl methiant masnachol a beirniadol ''Lifeblood'' (Sony, 2004) - albwm ac iddo sŵn canol y ffordd - ni ryddhawyd unrhyw ddeunydd newydd hyd nes i ''Send Away The Tigers'' (Sony, 2007) ymddangos. Croesawyd yr albwm hwnnw fel adlewyrchiad o ddychweliad llwyddiannus (os nad mentrus) y band at eu gwreiddiau pync, a chyrhaeddodd un sengl oddi arno, ‘Your Love Alone Is Not Enough’, rif 2 yn y siart 10 Uchaf. Bu ''Journal For Plague Lovers'' (Sony, 2009) a ''Postcards From A Young Man'' (Sony, 2010) ymhlith y tri albwm uchaf yn y siartiau ac aeth eu halbwm ''Rewind The Film'' (Sony, 2013), i rif 4 ar ôl derbyn adolygiadau ffafriol. Dilynwyd yr album gyda ''Futurology'' flwyddyn yn ddiweddarach.

Cydnabyddir y Manic Street Preachers fel un o’r bandiau roc Prydeinig cyfoes mwyaf creadigol, ac mae’r pyncs a oedd unwaith wrth eu bodd os oedd eu hymddygiad herfeiddiol yn creu penawdau yn y papurau newydd bellach wedi aeddfedu’n gerddorion meddylgar a chanddynt ddawn i greu alawon anthemig. Mae eu hagwedd at eu Cymreictod, hefyd, wedi newid ers diwedd yr 1990au, gyda pharodrwydd i gofleidio a dathlu’r diwylliant Cymraeg wedi disodli agwedd lawer fwy negyddol gyda Richey Edwards yn datgan unwaith mewn cyfweliad yn y cylchgrawn ''Sothach'' yn 1992 fod yr iaith Gymraeg ‘ond yn bwysig i ddeinosoriaid a phobl sy’n licio bwyta glo’ (1992, 12). Fel un o nifer fach o fandiau roc Prydeinig yr 1980au sy’n parhau i greu gwaith creadigol gwerth chweil, mae eu camp i’w chydnabod.

'''Craig Owen Jones'''

==Disgyddiaeth==

*''Generation Terrorists'' (Columbia 471060 2, 1992)

*''Gold Against The Soul'' (Columbia 474064 2, 1993)

*''The Holy Bible'' (Epic 477421 2, 1994)

*''Everything Must Go'' (Epic 483930 2, 1996)

*''This Is My Truth Tell Me Yours'' (Epic 491703 9 1998)

*''Know Your Enemy'' (Epic 501880 4, 2001)

*''Lifeblood'' (Sony 518885 2, 2004)

*''Send Away The Tigers'' (Sony 88697075632, 2007)

*''Journal For Plague Lovers'' (Columbia 88697520582, 2009)

*''Postcards From A Young Man'' (Sony 88697741882, 2010)

*''Rewind The Film'' (Sony 88883745292, 2013)

*''Futurology'' (Columbia 88843049622, 2014)

==Llyfryddiaeth==

*‘Manic Street Preachers – go iawn, go wir, go go goch’, ''Sothach'', 44 (Medi, 1992), 12–13

*Simon Price a Nicky Wire, ''Everything: A book about Manic Street Preachers'' (Llundain, 1999)

*Martin Power, ''Nailed to History: The Story of Manic Street Preachers'' (Llundain, 2010)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=9Bach_(ll.,_Nain_Bach)&diff=54529Bach (ll., Nain Bach)2021-09-11T16:32:52Z
CadiW:

{{DEFAULTSORT:Nain Bach}}__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

[[Delwedd:Lisa Jên Brown â 9Bach yn perfformio yng Ngŵyl Hanner Cant (2012).jpeg|thumb|Lisa Jên Brown â 9Bach yn perfformio yng Ngŵyl Hanner Cant (2012).]] Band gwerin cyfoes. Ffurfiwyd y band ym Methesda yn 2005 gan Martin Hoyland (gitâr) a Lisa Jên Brown (llais). Canodd Lisa Jên ar albwm unigol [[Rhys, Gruff (g.1970) | Gruff Rhys]], ''Candylion'' (Rough Trade, 2007), cyn i 9Bach ymddangos yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Ryng-Geltaidd Lorient yn 2008.

Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ''9Bach'', ar label Gwymon yn 2009, a derbyniodd adolygiadau ffafriol yn y ''Guardian, Uncut'' a chyhoeddiadau Seisnig eraill (Denselow 2009). Cawsant eu cymharu â Portishead, Enya, a Tim Buckley. Yn 2012 perfformiodd y band yn Pesda Roc a Gŵyl y Gelli ac aethant i Awstralia fel rhan o brosiect ‘Mamiaith/''Mother Tongue’'', a drefnwyd gan yr Olympiad Diwylliannol, er mwyn cydweithio ar ganeuon gyda grŵp cynfrodorol y Black Arm Band. Canlyniad y cydweithio hwn oedd cyngherddau llwyddiannus yng Nghaernarfon a Llundain. Yn ystod yr un flwyddyn bu’r grŵp yn perfformio yn yr Ŵyl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid, yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient unwaith eto ac yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion. Recordiwyd ail albwm yn Stiwdio Bryn Derwen, Bethesda, yn 2013.

Arwyddodd y grŵp i New World Records – label y cerddor a’r canwr Peter Gabriel – yn 2013 (Bevan 2013). Rhyddhawyd eu hail record hir ''Tincian'' ar label Real World flwyddyn yn ddiweddarach, cyn ei ddilyn yn 2016 gyda’u trydedd record hir, ''Anian'', lle cafwyd cyfraniadau gan yr actores Maxine Peake, [[Rhys Ifans]] a Gabriel ei hun.

'''Craig Owen Jones'''

==Disgyddiaeth==

*‘Yr Eneth Ga’dd Ei Gwrthod’ [sengl] (Gwymon CD003, 2008)

*‘C’weiriwch Fy Ngwely’ [sengl] (Gwymon, CD005, 2009

*''9Bach'' (Gwymon CD007, 2009)

*''Tincian'' (Real World Records CDRW202, 2014)

*''Anian'' (Real World Records CDRWP214, 2016)

==Llyfryddiaeth==

*Robin Denselow, ‘[adolygiad o] 9Bach’, ''The Guardian'' (21 Awst 2009)

*Nathan Bevan, ‘Peter Gabriel snaps up 9Bach after chance meeting in London black cab’, ''Wales Online'', 27 Hydref 2013

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Lisa_J%C3%AAn_Brown_%C3%A2_9Bach_yn_perfformio_yng_Ng%C5%B5yl_Hanner_Cant_(2012).jpeg&diff=5451Delwedd:Lisa Jên Brown â 9Bach yn perfformio yng Ngŵyl Hanner Cant (2012).jpeg2021-09-11T16:32:33Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Lisa Jên Brown â 9Bach yn perfformio yng Ngŵyl Hanner Cant (2012).jpeg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Lisa_J%C3%AAn_Brown_%C3%A2_9Bach_yn_perfformio_yng_Ng%C5%B5yl_Hanner_Cant_(2012).jpeg&diff=5450Delwedd:Lisa Jên Brown â 9Bach yn perfformio yng Ngŵyl Hanner Cant (2012).jpeg2021-09-11T16:32:16Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=9Bach_(ll.,_Nain_Bach)&diff=54499Bach (ll., Nain Bach)2021-09-11T16:31:33Z
CadiW:

{{DEFAULTSORT:Nain Bach}}__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Band gwerin cyfoes. Ffurfiwyd y band ym Methesda yn 2005 gan Martin Hoyland (gitâr) a Lisa Jên Brown (llais). Canodd Lisa Jên ar albwm unigol [[Rhys, Gruff (g.1970) | Gruff Rhys]], ''Candylion'' (Rough Trade, 2007), cyn i 9Bach ymddangos yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Ryng-Geltaidd Lorient yn 2008. [[Delwedd:Lisa Jên Brown â 9Bach yn perfformio yng Ngŵyl Hanner Cant (2012).jpeg|thumb|Lisa Jên Brown â 9Bach yn perfformio yng Ngŵyl Hanner Cant (2012).]]

Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ''9Bach'', ar label Gwymon yn 2009, a derbyniodd adolygiadau ffafriol yn y ''Guardian, Uncut'' a chyhoeddiadau Seisnig eraill (Denselow 2009). Cawsant eu cymharu â Portishead, Enya, a Tim Buckley. Yn 2012 perfformiodd y band yn Pesda Roc a Gŵyl y Gelli ac aethant i Awstralia fel rhan o brosiect ‘Mamiaith/''Mother Tongue’'', a drefnwyd gan yr Olympiad Diwylliannol, er mwyn cydweithio ar ganeuon gyda grŵp cynfrodorol y Black Arm Band. Canlyniad y cydweithio hwn oedd cyngherddau llwyddiannus yng Nghaernarfon a Llundain. Yn ystod yr un flwyddyn bu’r grŵp yn perfformio yn yr Ŵyl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid, yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient unwaith eto ac yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion. Recordiwyd ail albwm yn Stiwdio Bryn Derwen, Bethesda, yn 2013.

Arwyddodd y grŵp i New World Records – label y cerddor a’r canwr Peter Gabriel – yn 2013 (Bevan 2013). Rhyddhawyd eu hail record hir ''Tincian'' ar label Real World flwyddyn yn ddiweddarach, cyn ei ddilyn yn 2016 gyda’u trydedd record hir, ''Anian'', lle cafwyd cyfraniadau gan yr actores Maxine Peake, [[Rhys Ifans]] a Gabriel ei hun.

'''Craig Owen Jones'''

==Disgyddiaeth==

*‘Yr Eneth Ga’dd Ei Gwrthod’ [sengl] (Gwymon CD003, 2008)

*‘C’weiriwch Fy Ngwely’ [sengl] (Gwymon, CD005, 2009

*''9Bach'' (Gwymon CD007, 2009)

*''Tincian'' (Real World Records CDRW202, 2014)

*''Anian'' (Real World Records CDRWP214, 2016)

==Llyfryddiaeth==

*Robin Denselow, ‘[adolygiad o] 9Bach’, ''The Guardian'' (21 Awst 2009)

*Nathan Bevan, ‘Peter Gabriel snaps up 9Bach after chance meeting in London black cab’, ''Wales Online'', 27 Hydref 2013

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Shirley_Bassey,_1971.jpeg&diff=5448Delwedd:Shirley Bassey, 1971.jpeg2021-09-11T16:27:42Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Shirley Bassey, 1971.jpeg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Shirley_Bassey,_1971.jpeg&diff=5447Delwedd:Shirley Bassey, 1971.jpeg2021-09-11T16:27:17Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Bassey,_Shirley_(g.1937)&diff=5446Bassey, Shirley (g.1937)2021-09-11T16:26:38Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Gyda’i llais contralto grymus a phresenoldeb llwyfan arbennig, roedd Bassey yn un o gantoresau pop mwyaf llwyddiannus yr 20g.

Fe’i ganed yn ardal Bute, Caerdydd. Roedd ei thad, Henry Bassey, yn wreiddiol o Nigeria, tra hanai ei mam, Eliza Jane Start, o Newcastle. Er iddi ddangos addewid lleisiol yn ifanc, ni chafodd fawr o anogaeth a gadawodd yr ysgol yn 14 mlwydd oed. Tra’r oedd yn ei harddegau parhaodd i ganu mewn clybiau. Fodd bynnag, yn 1955 aeth i ganu i’r West End yn Llundain. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn ystod yr 1950au hwyr a’r 1960au cynnar gyda’i pherfformiadau o faledi pop melodramatig o sioeau cerdd neu ffilmiau poblogaidd, megis ‘As long as he needs me’ (Lionel Bart, ''Oliver!)'' neu ‘Climb ev’ry mountain’ (Rodgers & Hammerstein, ''The Sound of Music)''. Yn 1958 aeth dehongliad Bassey o ‘As I Love You’ i rif 1 yn siartiau Prydain – hi oedd y gantores gyntaf o Gymru i lwyddo yn y modd hwn. [[Delwedd:Shirley Bassey, 1971.jpeg|thumb|Shirley Bassey, 1971.]]

Parhaodd ei phoblogrwydd yn yr 1960au, gyda’i dehongliad pwerus o’r gân ‘Big Spender’ o’r sioe gerdd ''Sweet Charity'' gan Cy Coleman (1966) yn gwneud argraff arbennig. Daeth llais Bassey hefyd yn gyfarwydd ar draws sinemâu’r wlad pan y’i dewiswyd i berfformio’r gân deitl mewn tair o’r ffilmiau yng nghyfres James Bond, gan gynnwys ''Goldfinger'' (1964; geiriau gan L. Bricusse ac A. Newley), ''Diamonds Are Forever'' (1972; geiriau gan D. Black) a ''Moonraker'' (1979; geiriau gan H. David). Bu’r 1970au yn un o’i chyfnodau mwyaf llewyrchus. Rhwng 1970 ac 1979 aeth 18 o’i recordiau hir i’r siartiau Prydeinig gan gynnwys ''Something'' (United Artists, 1970) a arhosodd yn y siartiau am gyfnod o bum mis.

Roedd nifer fawr o recordiau mwyaf poblogaidd Bassey wedi eu trefnu a’u harwain gan Johnny Franz a Norman Newell, ond roedd ei dawn leisiol yn ei galluogi i symud i gyfeiriadau [[jazz]] hefyd, megis yr albwm ''Let’s Face The Music'' (EMI, 1962) gyda’r [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]] ''Big Band'' Americanaidd Nelson Riddle. Bu’n cydweithio gydag artistiaid eraill ar rai prosiectau digon anarferol, megis y band Yello ar y sengl ‘The Rhythm Divine’ (Mercury, 1989) a’r Propellerheads ar ‘History Repeating’ (Wall of Sound, 1997). Perfformiodd fersiwn o’r gân ‘World in Union’ ar y cyd â [[Terfel, Bryn (g.1965) | Bryn Terfel]] yn seremoni agoriadol cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 1999 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, gan wisgo gŵn a oedd wedi ei gynllunio o’r ddraig goch. Aeth y sengl i’r siartiau Prydeinig, gyda’r albwm ''Land of My Fathers'' yn cyrraedd rhif 1. Fodd bynnag, daeth ymddangosiadau cyhoeddus Bassey yn llai rheolaidd yn ystod degawd cyntaf yr 21g. Bu’n ffigwr dylanwadol iawn ym myd [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu poblogaidd]], gyda’i hedmygwyr yn cynnwys Marc Almond o’r grŵp electronaidd Soft Cell, Neil Tennant o’r Pet Shop Boys a’r [[Manic Street Preachers]]. Cydnabuwyd ei chyfraniadau i’r byd pop ym Mhrydain pan dderbyniodd CBE yn 1993 a’r DBE yn 2000.

'''Pwyll ap Siôn'''

==Disgyddiaeth==

'''Detholiad o gasgliadau rhwng 1965–1988:'''

*''The Golden Sound Of Shirley Bassey'' (MGM Records SE4301, 1965)

*''The Spectacular Shirley Bassey'' (Philips PHS 600-168, 1965)

*''Born To Sing The Blues'' (Wing Records WL-1160, 1967)

*''Golden Hits Of Shirley Bassey'' (Columbia SCX-6294, 1968)

*''The Fabulous Shirley Bassey'' (Music For Pleasure MFP-1398, 1970)

*''The Best Of Bassey'' (Fontana 859051FZY, 1970)

*''The Shirley Bassey Collection'' (United Artists Records UAD60013, 1972)

*''The Magic Of Shirley Bassey'' (Sounds Superb SPR-90024, 1973)

*''The Shirley Bassey Collection Vol. II'' (United Artists Records UAD60111, 1975)

*''The Shirley Bassey Singles Album'' (United Artists Records UAS29728, 1975)

*''The Second Album Of The Very Best Of Shirley Bassey'' (EMI SCX6584, 1975)

*''20 Golden Film Hits'' (EMI NTS112, 1977)

*''25th Anniversary Album'' (United Artists Records SBTV60147/48, 1978)

*''21 Hit Singles'' (EMI EMTC105, 1979)

*''Diamonds: The Best Of Shirley Bassey'' (EMI CDP7-90469- 2, 1988)

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Clawr_Albwm_Stuart_Burrows,_%27Ffefrynnau_Cymraeg_A_Saesneg_Stuart_Burrows%27_(2009).jpeg&diff=5445Delwedd:Clawr Albwm Stuart Burrows, 'Ffefrynnau Cymraeg A Saesneg Stuart Burrows' (2009).jpeg2021-09-11T16:24:32Z
CadiW: Mae CadiW wedi uwchlwytho fersiwn newydd o Delwedd:Clawr Albwm Stuart Burrows, 'Ffefrynnau Cymraeg A Saesneg Stuart Burrows' (2009).jpeg

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Delwedd:Clawr_Albwm_Stuart_Burrows,_%27Ffefrynnau_Cymraeg_A_Saesneg_Stuart_Burrows%27_(2009).jpeg&diff=5444Delwedd:Clawr Albwm Stuart Burrows, 'Ffefrynnau Cymraeg A Saesneg Stuart Burrows' (2009).jpeg2021-09-11T16:24:14Z
CadiW: Hawlfraint Creative Commons.

Hawlfraint Creative Commons.
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Burrows,_Stuart_(g.1933)&diff=5443Burrows, Stuart (g.1933)2021-09-11T16:23:59Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Ganed y tenor byd-enwog yn yr un pentref â’i gyd-ganwr a’i gyfaill Syr [[Evans, Geraint (1922-92) | Geraint Evans]], sef Cilfynydd ger Pontypridd; yn wir, deuent o’r un stryd. Wedi derbyn ei addysg yn lleol aeth i’w gymhwyso fel athro ysgol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Gallasai fod wedi dilyn gyrfa fel chwaraewr rygbi ar y lefel uchaf, ond yn dilyn ei fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Caernarfon 1959, daeth ei lais llyfn, cywir a melfedaidd rhyfeddol yn gyfarwydd ar draws pedwar cyfandir. Yn wir, fe’i hystyrir yn un o denorion telynegol gorau’r 20g. [[Delwedd:Clawr Albwm Stuart Burrows, 'Ffefrynnau Cymraeg A Saesneg Stuart Burrows' (2009).jpeg|thumb|Clawr Albwm 'Ffefrynnau Cymraeg A Saesneg Stuart Burrows' (2009).]]

O tua chanol yr 1960au ymlaen datblygodd Burrows fel yr olynydd amlycaf i Fritz Wunderlich (1930–66), a fu farw’n gynamserol. Sylwyd yn fynych ar felyster a llyfnder y llais sylfaenol ynghyd â’r dechneg naturiol, ddirodres. Mewn perfformiadau ac ar recordiadau mae geirio eglur y canwr yn ddiguro, nodwedd sy’n adlewyrchu ei gefndir diwylliannol Cymreig yn ddiau. Daeth hyn yn amlwg mewn perfformiadau o brif weithiau Mozart yn fwyaf arbennig, ond hefyd mewn ''repertoire'' a oedd yn eang a chatholig. Bu hefyd yn brysur yn y neuadd gyngerdd a pherfformiodd nifer o weithiau newydd gan gynnwys caneuon gan ei gyfaill [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]] (1929–2008). Roedd ''repertoire'' Burrows yn cwmpasu Berlioz, Britten, Tchaikovsky (roedd ei bortread o Lensky yn ''Eugene Onegin'' yn dra nodedig), Stravinsky, Hoddinott, Schubert a’r traddodiad ''lied'' yn gyffredinol, ynghyd â baledi Cymreig y 19g.

Gwnaeth ei ''début'' gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1963 yn ''Nabucco'' Verdi ond y profiad a roddodd yr hwb mwyaf i’w yrfa oedd canu’r unawd tenor yn opera-oratorio Stravinsky, ''Oedipus Rex'' (1927) yn 1965, a hynny ar gais y cyfansoddwr ei hun. Perfformiodd yn fynych yn Covent Garden yn y Tŷ Opera Brenhinol, yn ogystal â thai opera pwysicaf y cyfnod yn San Francisco, Santa Fe, Paris, y Metropolitan yn Efrog Newydd lle bu’n canu’n ddi-dor am ddeuddeg tymor (record i unrhyw ganwr o Brydain), Buenos Aires, Fienna (lle bu’n unawdydd yn y Brahms-Saal), Brwsel, Milan, ac ar hyd a lled Gogledd America ac Awstralia. Canodd y brif ran yn ''La Damnation de Faust'' Berlioz yn La Scala, Milan, yn 1978, a pherfformiodd yn ogystal gyda rhai o brif [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinyddion]] cerddorfaol ei gyfnod megis Syr Georg Solti, Leonard Bernstein, Seiji Ozawa, Zubin Mehta ac Eugene Ormandy.

Roedd gwaith cyngerdd yn bwysig iddo yn ogystal â llwyfannau opera. Canodd yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, ac yn llawer o neuaddau mawr Prydain ac America. Daeth hefyd yn adnabyddus ar deledu ac roedd ei gyfres ''Stuart Burrows Sings'' i’r BBC yn denu tua deunaw miliwn o wylwyr bob wythnos. Roedd ei gyfres ''Gwlad y Gân'' i S4C yr un mor boblogaidd. Fe’i hanrhydeddwyd â DMus er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1981 ac fe’i gwnaed yn Gymrawd o’i hen goleg yng Nghaerfyrddin yn 1989, coleg lle sefydlodd Gystadleuaeth Llais Ryngwladol. Derbyniodd yr OBE ac mae’n Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth. Beirniadodd yng Nghystadleuaeth [[Cystadlaethau Cerddorol | BBC Canwr y Byd]], Caerdydd, yn y Sommerakademie yn y Mozarteum yn Salzburg ac yng Nghystadleuaeth Ryngwladol y Frenhines Elisabeth ym Mrwsel. Yn nes adref, bu’n gweithio’n ddiflino dros achosion da ac yn hybu gyrfaoedd cantorion ifanc.

'''Lyn Davies'''

=Disgyddiaeth ddethol=

*''Stuart Burrows Sings Operetta Favourites'' (L’Oiseau-Lyre DSLO16, 1980)

*''Emyn o Fawl'' (Sain SCD8003, 1984)

*''Hen Gerddi Fy Ngwlad'' (Sain SCD2032, 1992)

*''Stuart Burrows: Ffefrynnau Cymraeg a Saesneg'' (Sain SCD2556, 2009)

=Gwefannau dethol=

*''https://www.stuartburrows.f9.co.uk''

*''https://www.bbc.co.uk/wales/music/sites/stuart-burrows''

*''https://www.sainwales.com/en/artists/stuart-burrows''

{{CC BY-SA Cydymaith}}

[[Categori:Cerddoriaeth]]
CadiWhttps://wici.porth.ac.uk/index.php?title=Burrows,_Stuart_(g.1933)&diff=5442Burrows, Stuart (g.1933)2021-09-11T16:23:17Z
CadiW:

__NOAUTOLINKS__

'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Ganed y tenor byd-enwog yn yr un pentref â’i gyd-ganwr a’i gyfaill Syr [[Evans, Geraint (1922-92) | Geraint Evans]], sef Cilfynydd ger Pontypridd; yn wir, deuent o’r un stryd. Wedi derbyn ei addysg yn lleol aeth i’w gymhwyso fel athro ysgol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Gallasai fod wedi dilyn gyrfa fel chwaraewr rygbi ar y lefel uchaf, ond yn dilyn ei fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Caernarfon 1959, daeth ei lais llyfn, cywir a melfedaidd rhyfeddol yn gyfarwydd ar draws pedwar cyfandir. Yn wir, fe’i hystyrir yn un o denorion telynegol gorau’r 20g. [[Delwedd:Clawr Albwm Stuart Burrows, 'Ffefrynnau Cymraeg A Saesneg Stuart Burrows' (2009).jpeg|thumb|Clawr Albwm Stuart Burrows, 'Ffefrynnau Cymraeg A Saesneg Stuart Burrows' (2009).]]

CadiW