Ailfynediad

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae gan brydleswr yr hawl i hawlio yn ôl teitl i’w eiddo lle mae rhent heb ei dalu, neu pan fo torri ar gyfamod sylweddol gan y prydlesai ac nad ydyw wedi unioni pethau o fewn y cyfnod penodedig a nodir yn y brydles.

Mae gan y prydlesai hawliau mewn ecwiti fodd bynnag ac fel arfer ni all y prydleswr sicrhau ailfynediad hyd nes bod ganddo orchymyn llys.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Landlord and Tenant”, Mark Pawlowski a James Brown, Blackstone’s, trydydd argraffiad, tudalennau 162-3,166,171-172 a 317

“The Glossary of Property Terms”, Estates Gazette, argraffiad 1993, tudalen 151



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.