Evans, Wynne (g.1972)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y tenor Wynne Evans yng Nghaerfyrddin, yn fab i Elizabeth a David Evans a redai Theatr y Lyric yn y dref. Roedd y theatr yn ganolog i’w fagwraeth gerddorol, ac ymunodd â chwmni Opera Ieuenctid Caerfyrddin (a sefydlwyd gan ei fam yn 1980). Fel ei frawd, Mark Llewelyn Evans, aeth ymlaen i astudio opera yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain gan raddio yn 1995 cyn astudio am radd meistr yn y Stiwdio Opera Genedlaethol hyd at 1997.

Daeth Evans yn enw cyfarwydd fel actor cerddorol o ganlyniad i’w rôl fel y tenor ffug Gio Compario mewn cyfres o hysbysebion teledu am yswiriant ar gyfer y wefan yswiriant Gocompare.com (2009–). Roedd eisoes wedi’i sefydlu ei hun fel canwr opera proffesiynol ar ôl graddio, gan berfformio mewn sawl cynhyrchiad gan Opera Cenedlaethol Cymru; dechreuodd weithio i’r cwmni trwy berfformio rhan Liberto yn opera Monteverdi L’incoronazione di Poppea yn 1997. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol yn ystod 2009 gan chwarae rôl Vakula yn Cherevichky Tchaikovsky, a bu iddo ganu yn opera gyfoes Mark-Anthony Turnage, Anna Nicole, ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau opera, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Lloegr, Opera’r Alban, Opera Grange Park ac Opéra Lyon. Bydd yn ymddangos yn rheolaidd ar lwyfannau Neuadd Frenhinol Albert, Neuadd Wigmore a Neuadd Dewi Sant, yn ogystal ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Fe’i hurddwyd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn 2012.

Arwyddodd gytundeb chwe-albwm gyda Warner Music yn 2010, a rhyddhawyd ei albwm cyntaf, A Song In My Heart, flwyddyn yn ddiweddarach. Mae’r albwm yn agor gyda chân eponymaidd Rodgers a Hart allan o’r sioe gerdd Spring is Here (1929). Clywir hefyd fersiwn gwreiddiol y gân a ddaeth â’r canwr i enwogrwydd o ganlyniad i’r hysbysebion Go Compare, sef ‘Over There’ gan George Cohan. Mae’r casgliad yn cynnwys detholiad o ganeuon o sioeau cerdd a ffilmiau oes aur Hollywood, yn bennaf o ganlyniad i ddylanwad y tenor a’r actor Americanaidd Mario Lanza. Ceir traciau gan Puccini a Verdi yn ogystal, ynghyd â chaneuon cysegredig megis gosodiad Bach a Gounod o ‘Ave Maria’ a ‘Gweddi’r Arglwydd’.

Yn 2013 rhyddhawyd ail albwm, Wynne, y tro hwn ar label Classic FM yn sgil ei waith fel cyflwynydd ar orsaf radio Classic FM yn 2012. Arno clywir detholiad o ganeuon gan gyfansoddwyr fel Ivor Novello, Ennio Morricone a Ruggero Leoncavallo ynghyd ag ambell drac Cymraeg, megis ‘Myfanwy’ Joseph Parry a ‘Suo Gân’. Ceir hefyd berfformiad o ‘Canzión turquesa’ allan o Adiemus Colores gan Karl Jenkins.

Flwyddyn yn ddiweddarach dechreuodd gyflwyno’r gyfres Big Welsh Weekend ar BBC Radio Wales. Mae wedi ymddangos yn rheolaidd ar y teledu, gan gynnwys y gyfres o raglenni realaeth i ddysgwyr y Gymraeg, cariad@iaith, a’r gyfres ar ddrama amatur yng Nghymru, Am Ddrama (2013) – maes a roddodd seiliau cadarn iddo ym myd adloniant. Mae hefyd yn ymddiriedolwr ar gyfer Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans, sy’n darparu ysgoloriaethau i bobl ifanc ddatblygu eu gyrfa yn y celfyddydau perfformio.

Tristian Evans

Cyfeiriadau



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.