Arddull

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Style/ House Style

Dull mynegiant sy’n nodweddiadol o ryddiaith newyddiadurwr. Mae arddull yn cyfeirio at gyfres o nodweddion anffurfiol, fel arfer wrth gyflwyno’r newyddion, ac mae’n cynnwys dewis o eiriau, strwythur brawddegau a chystrawen nodweddiadol wrth gyflwyno newyddion.

Mae arddull tŷ yn amrywio ychydig yn ôl y cyfrwng. Mewn papur newydd, cylchgronau a chyfnodolion, mae’n cyfeirio at fathau o ffurfdeip, ffont a nodweddion graffig eraill. Yn y byd darlledu, mae’n cyfeirio at ddulliau cyflwyno, logos, nodweddion gweledol a sain o ddarllediadau newyddion, ynghyd â nodweddion rhyngweithioldeb mewn newyddion ar-lein.

Mae arddull hefyd wedi newid dros amser gan fod y modd y cyflwynir newyddion wedi esblygu, a hynny yn sgil datblygiadau yn y modd y mae newyddiadurwyr yn casglu newyddion a’i gyflwyno. Er bod arddull newyddiadurol cynnar yn cynnwys rhyddiaith goeth a disgrifiadol, un o’r arddulliau newyddion mwyaf y cyfeirir ato yw’r un sy’n gysylltiedig â’r pyramid gwrthdro, lle y mae’r wybodaeth bwysicaf mewn stori newyddion yn dod gyntaf wrth i newyddiadurwyr geisio ateb y pum hanfod (Pwy? Beth? Pryd? Ble? Pam?) yn y paragraff cychwynnol. Mae gan bob sefydliad newyddion arddull wahanol, gyda llawer yn datblygu eu canllawiau arddull eu hunain.

Ar y cyfan, mae arddull newyddion yn tueddu i anelu at gael tôn ddifrifol gan ddefnyddio iaith glir, syml, cryno a dealladwy er mwyn cyfleu ffeithiau i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Gwell gan ohebwyr ddefnyddio berfau gweithredol, ynghyd â geiriau byr yn hytrach na rhai hir. Maen nhw’n defnyddio geiriau clir, yn ddiduedd, gan ddefnyddio ychydig ansoddeiriau, a storïau enghreifftiol yn hytrach na chysyniadau haniaethol. Dywed Adam (1993) fod arddull newyddion yn dueddol o fod yn glir, yn rheolaidd, yn unffurf, yn gyson, yn amhersonol ac yn swyddogol, wedi’i ysgrifennu yn y trydydd person.

Ar y llaw arall, mae rhai sefydliadau newyddion yn ymdrechu i gyflwyno newyddion mewn ffordd gyffrous, eraill yn rhoi cipolwg eironig o ddigwyddiadau newyddion, tra bo rhai yn cyflwyno’r newyddion mewn modd angerddol a dadleuol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bwriad yr arddull yw ceisio cyflwyno’r newyddion mewn modd cynhwysfawr, teg, cywir a chytbwys, ond mae rhai sefydliadau newyddion yn defnyddio arddull nad yw’n cynnwys yr holl nodweddion hyn. Amlinellir arddull benodol y sefydliad yn aml mewn llyfr canllawiau a rennir ymhlith holl aelodau’r sefydliad newyddion.

Llyfryddiaeth

Adam, G. S., 1993. Notes Toward a Definition of Journalism. St Petersburg, FL: Poynter Institute.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.