Arwyn, Robat

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(g.1959)

Ganed y cerddor, y cyfansoddwr a’r arweinydd Robat Arwyn yn Nhal-y-sarn, Caernarfon, yn 1959. Graddiodd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd yn 1980, cyn mynd ymlaen i ennill diploma mewn llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru yn Aberystwyth yn 1981. Symudodd i Ruthun y flwyddyn honno gan ymuno â Chôr Rhuthun, ac fe’i penodwyd yn arweinydd y côr yn 2007 wedi marwolaeth Morfydd Vaughan Evans. Rhwng 1982 ac 1995 bu’n aelod o’r triawd gwerin Trisgell, gan ysgrifennu caneuon megis ‘Fel Un’, ‘Llanelidan’ a ‘Gwin Beaujolais’ ar eu cyfer (daeth ‘Gwin Beaujolais’ yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru). Dyma gyfnod ffrwythlon gyda sawl cyhoeddiad yn ymddangos, gan gynnwys y casgliadau Miwsig y Misoedd (1990), Gwin Beaujolais (1991) a’r cylch o ganeuon Nadoligaidd, Stori’r Preseb (1992).

Ac yntau’n gyfansoddwr caneuon ysgafn a phoblogaidd, mae Robat Arwyn wedi rhyddhau nifer sylweddol o gryno-ddisgiau, a pherfformir ei weithiau corawl, ei unawdau a’i sioeau cerdd ledled Cymru mewn eisteddfodau a chyngherddau. Yn 1985 cyfansoddodd ei sioe gerdd gyntaf, Ceidwad y Gannwyll, ar y cyd â Sioned Williams ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl. Dyma gychwyn ar gyfnod toreithiog o gyfansoddi sioeau cerdd, yn eu plith Eiddo Cesar (1992), Er Mwyn Yfory (1997), Plas Du (2002) a Pwy Bia’r Gân (2003). Yn 2001 derbyniodd gomisiwn gan yr Eisteddfod Genedlaethol i gyfansoddi Atgof o’r Sêr, a berfformiwyd gan Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach llwyfannwyd detholiad o’i weithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd unwaith eto yn ardal Dinbych.

Ysgrifennodd sawl cân ar y cyd gyda’r Prifardd Robin Llwyd ab Owain, gan gynnwys ‘Gwin Beaujolais’, ‘Ceidwad y Gannwyll’, ‘Pedair Oed’ ac, yn fwy diweddar, ‘Llefarodd yr Haul’. Ysgrifennwyd y ddwy gân olaf yn arbennig ar gyfer y tenor Rhys Meirion – rhyddhawyd ‘Pedair Oed’ ar albwm o’r un enw yn 2004, a ‘Llefarodd yr Haul’ yn 2013 fel cân deyrnged i chwaer y canwr, a fu farw yn 2012.

Cydganodd Rhys Meirion ‘Benedictus’ gyda Bryn Terfel yn 2005, cân o’r gwaith corawl Er Hwylio’r Haul (2005). Recordiwyd y gân hon gan y triawd o offeiriaid Pabyddol, The Priests, ar eu halbwm eponymaidd (Epic, 2008), a fu’n llwyddiant ysgubol, gan gyrraedd rhif 5 yn siartiau Prydain. Ddwy flynedd cyn hynny cafwyd recordiad o’r gân gan Gôr Rhuthun ac ailryddhawyd eu dehongliad ar yr albwm Bytholwyrdd: Goreuon 30 Mlynedd 1981–2011 (Sain, 2011). Yn y casgliad hwn, clywir yn ogystal ‘Anfonaf Angel’, a ysgrifennwyd i godi arian tuag at elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Gyda geiriau gan y darlledwr Hywel Gwynfryn, recordiwyd y gân yn wreiddiol gan Bryn Terfel a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn 2010.

Wrth drafod ei ddawn gyfansoddi, cyfeiria Rhys Meirion at y ‘gallu unigryw yna i briodi cerddoriaeth hefo geiriau’. Yn gerddor hirsefydlog, mae Robat Arwyn wedi llwyddo i ysgrifennu rhai o ganeuon a sioeau cerdd mwyaf poblogaidd ei gyfnod, yr un pryd â chynnal swydd prif lyfrgellydd gyda Chyngor Sir Dinbych.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

Caneuon Robat Arwyn (Sain SCD2669, 2012)
Llefarodd yr Haul (Sain SCD2684, 2013)
Ffydd Gobaith Cariad – Caneuon Robat Arwyn 2 (Sain SCD2728, 2015)

Llyfryddiaeth

http://www.robatarwyn.co.uk
http://www.corrhuthun.co.uk/tud/arweinyddion.htm
‘Rhoi ei ddawn i’w ardal ac i Gymru – portread o Robat Arwyn’, Golwg 25/46 (1 Awst 2013), 20



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.