Aseiniad

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Assignment

Stori neu dasg benodol, weithiau’n gysylltiedig â dalgylch neu faes, a roddir gan olygydd i newyddiadurwr penodol i’w dilyn. Ar adegau, mae newyddiadurwr yn dewis ei aseiniad ei hun, ond mae gofyn i’r golygydd gymeradwyo hyn o’r cychwyn cyntaf. Mewn rhai sefydliadau newyddion, mae ‘golygydd aseiniad’ yn rôl benodol i unigolyn sy’n goruchwylio’r sylw a gaiff pwnc neu fater penodol – naill ai ar ddiwrnod penodol neu ar ddiwrnod a ragwelir yn y dyfodol – er mwyn sicrhau y defnyddir adnoddau’n effeithlon.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.