Bandiau Militaraidd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gall yr ymadrodd ‘band milwrol’ olygu band (chwyth, fel rheol) sy’n gysylltiedig ag unrhyw gangen o luoedd arfog unrhyw wlad, neu â lluoedd eraill fel unedau’r heddlu neu’r frigâd dân, ond mae wedi’i ddefnyddio’n fwy llac hefyd i olygu unrhyw fand sy’n cynnwys offerynnau pres, chwythbrennau ac offerynnau taro. Ym mlynyddoedd olaf yr 20g., i osgoi defnyddio’r derminoleg lacach hon cyflwynwyd y term ‘band cyngerdd’, y gellir ei ddefnyddio am unrhyw ensemble mawr sifilaidd o chwythbrennau, offerynnau pres ac offerynnau taro. Mae datblygiad y gwir fand milwrol yn bwysig gan mai dyma un o’r prif ffyrdd yr ehangodd y proffesiwn cerddoriaeth yn y 19g. Am flynyddoedd lawer – hyd yn oed hyd ganol yr 20g. – i’r rhan fwyaf o bobl, y band milwrol oedd un o’r ffurfiau mwyaf cyfarwydd o gerddoriaeth fyw.

Bu ‘bandiau cerddoriaeth’ yn y lluoedd rheolaidd (amser llawn) ac afreolaidd (rhan-amser) ers y 18g. Gellid dadlau eu bod hyd yn oed yn hŷn, os derbynnir grwpiau cadbibau a drymiau ac offerynnau signal (fel utgyrn milwrol) yn rhan o hanes di-dor cerddoriaeth filwrol. Er hynny, hyd yn oed pe derbynnid y ddadl honno, mae angen gwahaniaethu’n glir rhwng offerynnau signal, ynghyd â’r offerynnau gorymdeithio, fel drymiau, utgyrn a chadbibau, a bandiau cerddoriaeth. Câi’r dosbarth cyntaf ei gyfyngu i’r offerynnau a oedd yn cyfleu arwyddion neu a oedd yn cael eu defnyddio’n benodol at ddibenion milwrol yn unig. Roedd bandiau cerddoriaeth, ar y llaw arall, yn wahanol ac yn fwy soffistigedig: roeddynt yn grwpiau mwy, a’u cyfansoddiad offerynnol yn cael ei ystyried yn fwy gofalus; fel rheol, roedd angen i’r offerynwyr allu darllen cerddoriaeth ac, yn bwysicach, roedd ganddynt swyddogaeth ehangach nag offerynnau signal.

Daethpwyd i ffafrio’r term ‘bandiau cerddoriaeth’ o’r 1770au yn fras, i ddisgrifio’r grwpiau hynny o offerynwyr chwyth a ffurfiwyd yng nghatrodau elît y Gwarchodlu yn Llundain ac yn yr Artileri Brenhinol. Fe’u ffurfiwyd i efelychu cysyniad yr Harmoniemusik a oedd yn boblogaidd mewn gwledydd Almaeneg eu hiaith. Nid oedd Harmoniemusik yn pennu offerynnau penodol, ond roedd fel rheol yn awgrymu grŵp o ryw wyth o chwaraewyr a fyddai’n cynnwys oboau, baswnau, cyrn ac weithiau utgorn; weithiau câi clarinetau a seirff eu cynnwys hefyd. Ni châi bandiau o’r fath eu cynnal gan gyllid milwrol ffurfiol (y llywodraeth), ond yn hytrach yn breifat gan swyddogion catrodau a danysgrifiai i gronfa band. Y cymhelliant i’r nawdd hwn oedd teimlad cyffredinol ar ran swyddogion (uchelwyr neu foneddigion bron bob tro) y byddai eu bywyd cymdeithasol yn yr ystafell fwyta yn well o gael cyfleuster o’r fath; er hynny, byddai’r bandiau hyn hefyd yn chwarae i orymdeithiau a rhai seremonïau.

Roedd y bandiau cynnar yn cael eu harwain gan arweinyddion proffesiynol, ac Almaenwyr oedd y rhan fwyaf o’r rheini. Pan ddechreuwyd ffurfio bandiau cerddoriaeth milisia yn y rhanbarthau, unwaith eto Almaenwyr yn aml a gâi eu recriwtio i’w harwain. Cyflwynwyd y milisia yn y 18g. i fod yn amddiffynfa olaf petai’r wlad yn cael ei goresgyn ac, yn ogystal, fel cronfa o ddynion y gellid galw arnynt petai angen ehangu’r fyddin reolaidd ar frys.

O ganol y 18g. roedd Deddf Seneddol wedi gwneud unedau milisia yn ofynnol drwy’r Deyrnas Unedig gyfan: câi dynion eu dethol i wasanaethu mewn uned leol drwy dynnu tocyn. Os caent eu dewis, roedd yn ofynnol iddynt wneud isafswm o ddyddiau o hyfforddiant a gellid galw ar eu gwasanaeth ar unrhyw adeg. Byddai’r rhan fwyaf o unedau yn ffurfio bandiau cerddoriaeth gan efelychu rhai Llundain. Roedd y bandiau milisia yn gryf yng Nghymru ac maent yn arbennig o arwyddocaol yn hanes cerddoriaeth Gymreig oherwydd mai dyna un o’r prif ffyrdd y cyflwynwyd cerddoriaeth ensemble offerynnol i bron bob cwr o’r wlad yn y 18g. a’r 19g. Câi’r bandiau eu ffurfio o blith cerddorion lleol a gâi eu dwyn ynghyd â chefnogaeth yr uchelwyr a’r boneddigion; byddai’r niferoedd yn cael eu chwyddo drwy recriwtio gwŷr milisia newydd a ddangosai addewid cerddorol ac a fyddai’n gallu elwa ar hyfforddiant cerddorol. Bechgyn iau na deuddeg oed oedd llawer o’r recriwtiaid cerddorol newydd. Yn y trefi mwyaf, fel Abertawe, Caerdydd a Wrecsam, mae’n bosibl i’r cartrefi plant amddifad gael cais i ddarparu bechgyn i’r bandiau.

Erbyn canol y 19g., roedd bandiau milwrol yn un o nodweddion rheolaidd catrodau’r fyddin a’r llynges. Mae’r cyfuno a’r newid enwau a effeithiodd ar gatrodau Prydain wedi effeithio hefyd ar fandiau’r fyddin reolaidd yng Nghymru. Oherwydd hynny, cafodd bandiau cysylltiedig â chatrodau Cymreig eu galw yn eu tro yn 41ain a 42ain Traedfilwyr, Cyffinwyr De Cymru, y Gatrawd Gymreig a Chatrawd Frenhinol Cymru. Mae Band y Gwarchodlu Cymreig yn un o fandiau Brigâd y Gwarchodlu. Mae wedi’i leoli’n barhaol ym Marics Wellington, Llundain, a’i brif ddyletswydd yw cefnogi seremonïau’r wladwriaeth. Yn y 19g. daeth pwyslais swyddogaethol y band catrodol fwyfwy ar gefnogi digwyddiadau seremonïol, ond byddai bandiau hefyd yn teithio gyda’u catrodau i feysydd y gad. Cafodd pob aelod o fand y 41ain Traedfilwyr (dyna enw’r gatrawd nes iddi droi’n Gyffinwyr De Cymru) ei ladd yn y rhyfel yn erbyn y Zwlŵaid yn 1879.

Er bod swyddogaeth seremonïol bwysig wedi bod i fandiau milwrol, maent yn gweithio’n barhaol fel diddanwyr yn yr awyr agored, a bu hwn yn waith pwysig yng ngolwg y lluoedd arfog Prydeinig. Yn hanner cyntaf yr 20g. roedd bandiau milwrol ymhlith y mwyaf poblogaidd o’r holl fathau Prydeinig o ensemblau cerddorol, yn rhannol oherwydd fod ansawdd eu sain yn eu gwneud yn arbennig o effeithiol yn y technolegau recordio cynnar. Ynghyd â bandiau pres, mae bandiau milwrol wedi cynhyrchu llawer o’r chwaraewyr chwythbrennau a phres proffesiynol pwysicaf. Nid oes amheuaeth ychwaith nad lluoedd arfog Prydain (o gymryd y tri llu gyda’i gilydd) sy’n cyflogi’r nifer mwyaf o gerddorion yn y Deyrnas Unedig, a hynny o bell ffordd.

Trevor Herbert

Llyfryddiaeth

  • Trevor Herbert a Helen Barlow, Music and the British Military in the Long Nineteenth Century (Rhydychen, 2013)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.