Barrett, Richard (g.1959)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Richard Barrett yn Abertawe yn 1959 ac er iddo raddio mewn geneteg a microbioleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (1980), dechreuodd ymddiddori mewn cyfansoddi yn fuan wedyn. Derbyniodd wersi preifat gyda Peter Wiegold (g.1949) a mynychodd Ysgol Haf Darmstadt yn 1984, lle derbyniodd hyfforddiant gan Brian Ferneyhough (g.1943) ac Hans-Joachim Hespos (g.1938). Wedi dal swydd ddarlithio mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Middlesex (1989–92), bu’n Athro cyfansoddi electronig yn Sefydliad Sonoleg Conservatoire Brenhinol yr Hag (1996–2001) ac yna’n Athro cerddoriaeth ym Mhrifysgol Brunel, Llundain (2006–9). Bu’n gyd-gyfarwyddwr Ensemble Exposé (1984–93) a sefydlodd berthynas berfformio glos gyda Paul Obermeyer yn y ddeuawd FURT (1986) ac yn ddiweddarach gyda’r ensemble lleisiol/electronig/offerynnol fORCH (2005). Canlyniad ei gydweithio gyda’r ensemble Elision oedd nifer o recordiadau masnachol argyhoeddiedig o’i gyfansoddiadau. Ymysg y gwobrwyon cyfansoddi a dderbyniodd ceir y Kranichsteiner Musikpreis (1986) a Gwobr Gaudeamus (1989).

Enillodd Barrett enw da iddo’i hun yn rhyngwladol fel cyfansoddwr a pherfformiwr byrfyfyr sydd wedi llwyr ymuniaethu ag uchel foderniaeth. Cysylltwyd ei gerddoriaeth gyda’r mudiad ‘cymhlethdod newydd’ (new complexity), ymysg cyfansoddwyr megis Ferneyhough, James Dillon (g.1950) a Michael Finnissy (g.1946), lle mae’r gerddoriaeth yn aml yn defnyddio cyfuniad o feicrodonyddiaeth, technegau estynedig, rhythmau cymhleth, a newidiadau sydyn mewn gweadau. Gellir sylwi ar y nodweddion hyn yn ei ddarnau cynnar, megis Tract I (1984–96) ar gyfer piano unawdol, lle mae’r darn yn agor gyda’r ddwy law yn chwarae o fewn yr un cwmpas gyda rhythmau anghymarebol, deinameg eithafol ac ynganiadau heriol:

Yn debyg i rai o weithiau llenyddol Samuel Beckett, lle gall brawddegau neu hyd yn oed yr un paragraffau ailymddangos o fewn y testun, dychwela Tract II at yr un deunydd cerddorol â Tract I ond trwy ffurfio cyfres o adrannau lled étude-aidd o dan deitlau unigol. (Barrett 2001)
Tract I gan Richard Barrett, mm.1–4 (defnyddiwyd trwy ganiatâd United Music Publishers)

Yn dilyn ei berfformiad cyntaf, cydnabuwyd Vanity (1990–4), gwaith cerddorfaol mewn tri symudiad, fel ‘un o’r sgorau gwreiddiol diweddar mwyaf trawiadol’ (Fox 1994). Rhennir holl offerynnau’r gerddorfa i chwe grŵp gwahanol gan eu defnyddio mewn amrywiol gyfuniadau o fewn y darn. Nodweddir pob grŵp gan wead penodol neu ‘ymddygiad’ unigryw sy’n fodd o ymestyn palet cerddorol y gerddorfa.

Mae rhai wedi beirniadu Barrett – ynghyd â chyfansoddwyr eraill sy’n cael eu cysylltu â symudiad y cymhlethdod newydd – am ei ddefnydd eithafol o nodiant cerddorol, ynghyd â’r sialensiau afresymol ac amhosibl mae’n eu gosod ar y perfformiwr (gw. Hewett 1994). Fodd bynnag, mae eraill wedi cyfiawnhau esthetig Barrett ar sail y ffaith fod y sialensiau o gyfansoddi’r gerddoriaeth yr un mor ddigyfaddawd i’r cyfansoddwr ei hun ag i’r perfformiwr (Fox 1995).

Genres eraill lle mae Barrett yn gwbl gyfforddus yn greadigol yw chwarae byrfyfyr ac electroneg fyw. Ers iddo gyfansoddi codex I yn 2001, llwyddodd i ymestyn y gyfres hon o ‘strwythurau byrfyfyrio’, fel arfer gydag offeryniaeth sy’n hyblyg, i bymtheg o ddarnau erbyn 2015. Yn ogystal, mae llawer o’i ddarnau’n cyfuno electroneg fyw a phrosesu sain, sy’n galluogi Barrett ei hun i gymryd rhan fel perfformiwr a chrëwr ei gerddoriaeth.

Guto Puw

Cyfansoddiadau (rhestr ddethol)

Cerddorfaol:

  • Vanity (1990–4), ar gyfer cerddorfa lawn
  • NO (1999–2004), ar gyfer cerddorfa lawn
  • IF (2005–10), ar gyfer cerddorfa lawn

Ensemble/offerynnol:

  • Ne songe plus à fuir (1985–6), ar gyfer soddgrwth unawdol
  • EARTH (1987–8), ar gyfer trombôn ac offerynnau taro
  • Tract I and II (1984–96), ar gyfer piano unawdol
  • I open and close (1983–8), ar gyfer pedwarawd llinynnol
  • Another heavenly day (1989–90), ar gyfer clarinét E♭, gitâr drydan, bas dwbl ac electroneg fyw
  • negatives (1988–93), ar gyfer ensemble ac amplification
  • DARK MATTER (1990–2002), ar gyfer 19 cerddor, electroneg fyw a gosodiad celf
  • codex I – XVII (2001–15), cyfres o ddarnau byrfyfyr gydag offeryniaeth amrywiol
  • CONSTRUCTION (2003–11), ar gyfer 3 llais, 16 offerynnwr ac electroneg

Lleisiol:

  • Opening of the Mouth (1992–7), ar gyfer soprano, mezzo- soprano, ensemble gydag amplification ac electroneg fyw

Disgyddiaeth

  • Another heavenly day (One-M-One 1M1CD 1018, 1992)
  • DARK MATTER (NMC D183, 2012)
  • negatives (NMC D143, 2009)
  • Opening of the Mouth (ABC Classics 465268–2, 1999/2008)
  • transmission (NMC D117, 2006)
  • Vanity (NMC D014S, 1996)
  • to hear with the mouth (Caprice CAP21713, 2005)
  • Tracts (NMC D066, 2001)

Gwefan

Llyfryddiaeth

  • Richard Toop, ‘Four Facets of the “New Complexity”’, Contact, 32 (1988), 4–8
  • Robin Freeman, ‘Richard Barrett, compositeur maudit manqué’, Tempo, 190 (1994), 41–46
  • Ivan Hewett, ‘Fail worse; Fail Better, Ivan Hewett on the Music of Richard Barrett’, Musical Times, 135/1815 (Mawrth, 1994), 148–151
  • Christopher Fox, ‘Vanity: cyflwyniad i’r sgôr’ (UMP, 1994)
  • ———, ‘Music as Fiction: a consideration of the work of Richard Barrett’, Contemporary Music Review, 13 (1995), 147–57
  • James Harley, ‘The New Nihilism: l’objet sonore and the music of Richard Barrett’, Musicworks, 72 (1998), 29
  • Richard Barrett, ‘Tracts for our Times?’, Musical Times, 139/1864 (Hydref, 1998), 21–24
  • ———, ‘Nodiadau clawr ar gyfer tracts’ (NMC, 2001)
  • Arnold Whittall, ‘Resistance and reflection’, Musical Times (Hydref, 2005), 57–69
  • Barrie Webb, ‘Richard Barrett’s “imaginary trombone”’, Contemporary Music Review, 26/2 (2007), 151–77



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.