Brigyn

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Brigyn yw enw’r ddeuawd a ffurfiwyd gan y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts o Lanrug ger Caernarfon yn 2004. Roedd y ddau wedi bod yn aelodau o’r band roc Epitaff am flynyddoedd cyn ffurfio Brigyn. Roedd eu sŵn newydd yn rhoi pwyslais ar weadau cyfoethog a defnydd o sampleri a thechnoleg. Ymhlith eu dylanwadau eclectig oedd cerddoriaeth Björk a Simon & Garfunkel.

Bu adolygiadau da i’w halbwm cyntaf, Brigyn (Gwynfryn Cymunedol, 2004), gyda chaneuon megis ‘Os Na Wnei Di Adael Nawr’ yn cyfuno’n effeithiol sain Geltaidd y delyn gyda tecno ambient i greu’r hyn a ddisgrifiodd y band yn ddiweddarach fel arddull ‘folktronica’. Rhyddhawyd eu hail albwm, Brigyn2, ar yr un label yn 2005. Teithiodd y ddeuawd i Galiffornia yn Unol Daleithiau America yn Nhachwedd 2005 ac yna ledled Iwerddon yn Ebrill 2006, cyn mynd ymlaen i berfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau yng Ngorffennaf y flwyddyn honno. Yn 2007 daeth nifer o artistiaid electronig Cymreig, gan gynnwys Llwybr Llaethog, Jakokoyak, ac Evils, at ei gilydd i recordio casgliad o ailgymysgiadau o waith Brigyn ar gyfer yr albwm Ailgylchu (Gwynfryn Cymunedol, 2007). Rhyddhawyd nifer cyfyngedig o’r albwm ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug y flwyddyn honno.

Fodd bynnag, mwy cymysg fu’r adolygiadau ar drydydd albwm stiwdio y ddeuawd, Brigyn3 (Gwynfryn Cymunedol) ym Mai 2008, gyda rhai’n cwyno am ddiffyg syniadau newydd. Perfformiodd Brigyn yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, Brycheiniog, yn nes ymlaen y flwyddyn honno. Yn dilyn awgrym gan delynores Brigyn ar y pryd, Nia Davies Williams, trefnwyd fersiwn Cymraeg o’r gân ‘Hallelujah’ gan y canwr-gyfansoddwr adnabyddus Leonard Cohen (1934–2016), i eiriau gan Tony Llewelyn Roberts. Rhyddhawyd y gân ar ffurf sengl cryno-ddisg tua diwedd 2008 ac yn sgil llwyddiant y record daeth i sylw’r wasg Eingl-Americanaidd.

Bu saib o chwe mlynedd rhwng Brigyn3 a Brigyn4 (2014), gyda’r bedwaredd record hir yn cynnwys cyfraniadau gan artistiaid amrywiol megis y cerddorion gwerin Georgia Ruth Williams, Angharad Jenkins o Calan, y cerddorion roc Mei Gwynedd o Big Leaves a’r Sibrydion, ac Osian Williams o’r Candelas. Rhwng y ddau albwm, rhyddhaodd Brigyn ddwy sengl yn Saesneg, ‘One Way Streets’ a ‘Home’. Enillodd Ynyr Roberts gystadleuaeth Cân i Gymru gyda ‘Rhywun yn Rhywle’, cân a ysgrifennwyd gyda Steve Balsamo, yn 2011. Yn 2015 rhyddhawyd eu pumed albwm Dulog ar label Gwynfryn i nodi canmlwyddiant a hanner sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia: mae’r casgliad yn llawn cyfeiriadau at hanes y Wladfa a’i phobl, ac yn ffrwyth cydweithio gyda cherddorion brodorol.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • Brigyn (Gwynfryn Cymunedol GCCD18, 2004)
  • Brigyn2 (Gwynfryn Cymunedol GCCD, 2005)
  • Buta efo’r maffia [sengl] (Gwynfryn Cymunedol GCCD36, 2006)
  • Ailgylchu (Gwynfryn Cymunedol GCCD43, 2007)
  • Brigyn3 (Gwynfryn Cymunedol GCCD45, 2008)
  • ‘Haleliwia’ [sengl] (Gwynfryn Cymunedol GCCD49, 2008)
  • ‘One Way Streets’ [sengl] (Gwynfryn Cymunedol GCCD57, 2010)
  • ‘Home’/‘I Need All The Friends I Can Get’ [sengl] (Gwynfryn Cymunedol GCCD59, 2011)
  • Brigyn4 (Gwynfryn Cymunedol, 2014)
  • Dulog (Gwynfryn Cymunedol, 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.