Camliwio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Datganiad neu honiad ffug neu gamarweiniol o ran ffaith, a wnaed gan neu ar ran un o’r partïon mewn cytundeb.

Er nad yw'r datganiad o reidrwydd yn rhan o’r cytundeb, fodd bynnag, os yw’n cymell y parti i arwyddo cytundeb yna mae’n gamarweiniol.

Er efallai mai asiant sydd yn gwneud yr honiad ar ran ei gleient, serch hynny'r cleient fydd yn atebol. Gall y llys orfodi dilead y cytundeb neu bennu iawndal [neu’r ddau].

Mae hyn yn dibynnu os yw’r datganiad: i] Yn dwyollodrus h.y. gan wybod fod yr honiad yn gelwyddog. ii] Yn esgeulus h.y. datganiad onest ond di-hid ac yn afresymol i'w ragdybio. iii] Yn ddiniwed h.y. yn onest a rhesymol.


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

Construction Contract Law, John Adriaanse, Palgrave Macmillan, trydydd argraffiad, tudalennau 147-8 a 243



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.