Cantata

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae’r gantata, neu’r gantawd, fel yr awgryma’r gair (o’r Lladin cantare), yn gyfansoddiad ar gyfer ei ganu. Fel yr opera a’r oratorio, roedd dechreuadau’r cyfrwng hwn yn yr Eidal yn yr 17g. ond nid yw mor theatrig â’r naill na mor sylweddol o ran hyd a chynnwys â’r llall. Caiff y term ei ddefnyddio bellach i ddisgrifio amrywiaeth o gyfansoddiadau nad oes ganddynt fawr o nodweddion yn gyffredin ond eu bod yn weithiau i leisiau a cherddorfa fach. Gall y gantata fod yn seciwlar, fel yr oedd cantatas niferus Scarlatti, ond yn yr Almaen datblygodd gwedd fwy crefyddol ar y cyfrwng yng ngwaith Telemann, Handel ac yn bennaf J. S. Bach, a ysgrifennodd dros 200 o gantatas eglwysig.

Math o oratorio fer na fyddai’n ddigon i wneud cyngerdd ynddi’i hun oedd y gantata ac oherwydd hynny, ynghyd â’i strwythur syml (roedd y ffiwg i’w hosgoi) a’r ffaith nad oedd yn gofyn am adnoddau lleisiol na cherddorfaol mawr, denwyd sawl cyfansoddwr Cymreig yn oes Victoria i efelychu datblygiadau yn Lloegr ac i lunio eu cantatas eu hunain. Fe’u cyfansoddwyd ar gyfer eu perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chafwyd llifeiriant ohonynt wedi i Tywysog Cymru John Owen (Owain Alaw), ym mhrifwyl Caernarfon 1862, agor y fflodiart. Prydeingarwch ac eilunaddoliad o’r teulu brenhinol oedd nodweddion cantatas y cyfnod hwn. Yn yr 1860au gwelwyd yng nghyngherddau’r Eisteddfod berfformiadau o Gwarchae Harlech Edward Lawrence, Llewelyn a The Bride of Neath Valley John Thomas (Pencerdd Gwalia), Gŵyl Gwalia Owain Alaw eto, Llys Arthur J. D. Jones ac Owen Glyndŵr John Jones (Eos Bradwen), i gyd wedi’u seilio ar alawon Cymreig a digwyddiadau lled hanesyddol, gyda geiriau gan feirdd amlycaf eu dydd fel Ceiriog a Thalhaiarn.

Rhagflaenwyd y corawdau hyn serch hynny gan gyfansoddiad cysegredig John Ambrose Lloyd, Gweddi Habacuc, ar destun o’r Beibl, a ysgrifennwyd yn ystod 1850–51 ac a farnwyd yn orau yn Eisteddfod Porthmadog yn 1851. Trodd Joseph Parry ei law at y gantata grefyddol hefyd, gydag Y Mab Afradlon (1866) ymhlith nifer, er mai’r orau efallai o’i ddeuddeg cantata oedd Cantata y Plant neu ‘Ymgom yr Adar’, a barhaodd yn boblogaidd am hanner canrif ar ôl adeg ei hysgrifennu yn yr 1870au.

Cantatas eraill y bu canu mynych arnynt yn eu cyfnod oedd Plant y Tlotty gan Gwilym Gwent (William Aubrey Williams), a fu’n fuddugol mewn eisteddfod yn Nhreherbert yn 1878 ac y gwelodd Caradog yn dda i drefnu rhannau ohoni ar gyfer cyfeiliant cerddorfa, a’r Gaethglud (1904) gan D. Emlyn Evans. Machludodd haul y gantata wedi hynny yn wyneb datblygiad ‘baledi corawl’ mwy swmpus o Loegr gan, e.e., Sullivan, Stanford, Elgar, Coleridge-Taylor (yr oedd ei Hiawatha’s Wedding Feast (1898), yn ffefryn yng Nghymru am dri chwarter canrif) a R. Vaughan Williams. Ni chollodd y gantata ei hapêl i gyfansoddwyr na chantorion Cymru serch hynny. Fel cantata y disgrifiodd Daniel Jones ei The Country Beyond the Stars (1958) a William Mathias ei St Teilo (1970), a gwelwyd mwynhad amlwg ym mherfformiad Côr Ysgol Glanaethwy wrth iddynt ganu ‘O Fortuna!’ o Carmina Burana (Carl Orff; 1935–6) yn rownd derfynol y gystadleuaeth deledu Last Choir Standing yn 2008 ac wedyn ar eu cryno- ddisg o’r un enw.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.