Canu Penillion (gwreiddiau)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Cerdd Dant)

Yn ei dechreuadau, roedd y gelfyddyd a adwaenir heddiw fel ‘canu penillion’ neu ‘canu gyda’r tannau’ yn wahanol iawn i’r hyn ydyw bellach. Yn ôl Meredydd Evans a Phyllis Kinney, roedd modd olrhain yr hen gelfyddyd yn ôl lawer canrif. Parhaodd y traddodiad o ganu cerddi beirdd Cymru yn ddi-dor ar hyd y canrifoedd, a byddai gan y telynor a’r datgeinydd bob amser safle pwysig yn llysoedd tywysogion Cymru.

Mae’r gelfyddyd erbyn hyn yn ddibynnol ar lunio gosodiad cerddorol canadwy ar bapur ymlaen llaw, ond nid felly’r oedd hi gyda ‘gosodiadau’r datgeiniaid’. Yn hytrach, disgwylid i’r datgeinydd feddu’r ddawn i ‘daro i mewn’ pan genid unrhyw gainc gan y telynor, a hynny yn y man priodol, fel bod gair acennog olaf ei bennill yn cyd-daro â nodyn acennog olaf y gainc. Dyna oedd crefft y datgeinydd, ac ni chaniateid iddo ganu’r pennill gyda’i drwyn mewn copi. Yn hytrach roedd disgwyl iddo fod â stôr o benillion o wahanol hydau ar ei gof, a bod yn abl i ganu’r penillion hynny yn ôl y galw.

Hyn a roes fod i’r arferiad cystadleuol o ‘ganu cylch’, a ddiddanai wrandawyr mewn cartrefi, tafarndai a neuaddau slawer dydd. Rheolau syml y grefft hon oedd y byddai cystadleuwyr yn cyd- gyfarfod ac yn tynnu ‘byrra docyn’ i benderfynu ar drefn y canu. Yna byddai’r telynor yn dewis cainc ac yn chwarae unwaith trwyddi, cyn i’r cystadleuydd cyntaf ganu’r pennill a ddewisai ef. A bwrw ei fod wedi gorffen canu ei bennill yn daclus ar gord olaf y gainc, byddai rhaid i’r datgeinydd a’i dilynai ganu unrhyw bennill ond fod rhaid i’r pennill hwnnw fod o union yr un mesur â phennill y canwr blaenorol. Rhaid oedd iddo yntau orffen ei bennill ar gord olaf y gainc. O fethu gwneud hyn, ystyrid ei fod wedi methu, a gelwid y datgeinydd nesaf i gymryd ei le. Ac felly, un ar ôl y llall, byddai’r datgeiniaid yn canu a llwyddo neu’n canu a methu, hyd nes y byddai pawb ar wahân i’r buddugol wedi ei daflu allan o gylch y cantorion. Mae’n amlwg y byddai gan ddatgeiniaid gof aruthrol a fyddai’n eu galluogi i ganu penillion o wahanol hydau fel y bo’r galw. Cynhaliwyd gornest o’r math hwn mewn tafarn yn y Trallwng yn 1824, a bu’r cystadleuwyr yn canu am fwy nag awr a hanner o amser cyn i Thomas Edwards (1787-1866) o Gorwen guro Evan Evans (1784-1866) o Lawrybetws gan ddod â’r ornest i’w therfyn.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1937 cipiodd cerddor proffesiynol o ardal Llanelli, Haydn Morris (1891-1965), yr wobr gyntaf am lunio llawlyfr o osodiadau cerdd dant. Roedd y canlyniad yn dipyn o sioc i lawer cerddor cydnabyddedig ar y pryd a fu’n gyndyn i weld unrhyw rinwedd yng nghelfyddyd unigryw Gymreig cerdd dant.

Bu’r syniad o lunio gosodiadau parod yn cylchredeg ers cyhoeddi Y Tant Aur gan David Roberts, Telynor Mawddwy (1875-1956), yn 1911. Er mai copi o rai gosodiadau yr oedd ef ei hun yn cofio clywed eu canu gan werin-ddatgeiniaid Mawddwy a’r cyffiniau oedd cynnwys y llyfr hwn o 45 gosodiad, bu galw mawr amdano. Pan ddaeth y Parch. P. H. Lewis yn weinidog newydd yn ardal Dinas Mawddwy, ac yntau hefyd yn gerddor, soniodd wrth Y Telynor nad oedd y cyfalawon a welid yn fersiwn cyntaf Y Tant Aur yn dangos llawer o grefft, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach cydweithiodd gyda David Roberts i gyhoeddi Cainc y Delyn (Bermo, 1915), a oedd yn cynnwys cyfalawon llawer mwy cerddgar.

Yn y blynyddoedd ers cyhoeddi Y Tant Aur cyhoeddwyd llawer o lyfrynnau cyffelyb gan Dewi Mai o Feirion, Llyfni Huws, Haydn Morris, J. E. Jones ac eraill. Bu un peth arall a fu’n ysgogiad pendant i dwf diddordeb mewn canu gyda’r tannau, a hynny oedd sefydlu Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, ynghyd â chyhoeddi Allwedd y Tannau bob blwyddyn, sef cylchgrawn blynyddol y Gymdeithas, lle cafwyd cyfle i drafod pob math o faterion a oedd yn ymwneud â cherdd dant.

Fodd bynnag, ym mlynyddoedd cynnar yr 20g. – trwy lawer o ymdrech ac yn nannedd cryn dipyn o wrthwynebiad – gwelwyd datblygiad pellach wrth i ambell un, megis Dewi Mai o Feirion, Caradog Puw, William H. Puw, Ioan Dwyryd, William Morris Williams, Watcyn o Feirion ac eraill a oedd yn gweld yr hen system o ‘Ganu Cylch’ braidd yn ddi-bwynt, fynd ati i lunio gosodiadau a fyddai’n felys i’r glust, a hefyd yn ystyrlon ac yn gymorth i ddehongli llawer o gerddi’r beirdd. Sylwodd y cyhoedd fod hwn yn ddatblygiad gwerthfawr, a daeth y grefft o osod a chanu cerdd dant yn llawer mwy derbyniol i glustiau Cymry cerddgar. Yn rhai o siroedd gogledd Cymru y gwelwyd yr arbrofion hyn yn digwydd, ond o dipyn i beth ymledodd y grefft o osod cerddi ar geinciau yn y dull hwn i rannau eraill o’r wlad.

Aled Lloyd Davies

Llyfryddiaeth

  • Aled Lloyd Davies, Y Tant Aur (Bermo, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.