Catecism

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ffordd o grynhoi ac o gyflwyno gwirioneddau athrawiaethol y grefydd Gristnogol trwy ddull holi ac ateb yw catecism. Addysgu a hyfforddi yw'r nod. Yn y traddodiad Protestannaidd dau o'r rhai mwyaf dylanwadol hyd y dydd hwn yw Catecism Heidelberg (1563) a Chatecism Byr Westminster (1647). Gwnaed defnydd helaeth o gatecismau fel cyfryngau addysgiadol mewn eglwysi ac ysgolion Sul yng Nghymru. Lluniodd yr offeiriad a'r addysgwr Griffith Jones (1683-1761) gyfres ohonynt. Un o'r catecismau Cymraeg mwyaf adnabyddus oedd Hyfforddwr yn Egwyddorion y Grefydd Gristionogol (1807) gan Thomas Charles (1755-1814). Cyfeiriwyd ato fel ‘Hyfforddwr Charles’ ac fe’i hailargraffwyd droeon. Catecism arall hynod ei ddylanwad ar ddiwylliant Cymru oedd catecism John Parry (1775-1846) i blant, Rhodd Mam (1811). Bu hwn mewn bri yn yr 19g. a’r 20g. Cefnogi'r gwaith o addysgu ar lafar a wnâi'r cyhoeddiadau hyn.

Defnyddir y term weithiau yn fwy rhydd wrth sôn am destunau llenyddol sy’n defnyddio dyfais holi ac ateb. Enghraifft drawiadol yw cerdd Waldo Williams, ‘Pa Beth yw Dyn?’ sy’n agor gyda’r llinellau ‘Beth yw byw? Cael neuadd fawr / Rhwng cyfyng furiau.’

Robert Rhys

Llyfryddiaeth

Amryw (1647) The Westminster Shorter Catechism, http://www.westminsterconfession.org/confessional-standards/the-westminster-shorter-catechism.php [Cyrchwyd: 27 Gorffennaf 2016].

Jones, Griffith (1831) Esboniad Byr o Gredo'r Apostolion, sef Holiadau ac Attebion Ysgrythurol ynghylch Egwyddorion a Dyledswyddau y Grefydd Gristionogol, y chweched argraphiad (Dolgellau: J. Pugh).



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.