Categori:Tir ac Eiddo/Atodlen Scott

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Enwyd Atodlen Scott [Scott Schedule, neu'r Official Referee Schedule gynt] ar ôl y cyn Ganolwr Swyddogol George Alexander Scott.

Defnyddir yr atodlen fel rhan o bledion i lys mewn achos lle mae yn hawliad iawndal gan landlord oherwydd torri ar gyfamod a osodwyd ar denant [fel arfer] mewn prydles i gynnal a chadw/adfer tir, adeilad neu offer isadeiledd.

Mae ei ddefnydd yn gyffredin iawn mewn achosion dan gymal 18 Deddf Landlord a Thenant 1927.

Darperir yr atodlen gan syrfëwr [gan amlaf syrfëwr adeiladu]. Mae’r atodlen yn nodi ymateb y tenant i bob eitem a restrir yn atodlen y landlord, sydd wedi ei brisio. Dynoda ymateb y tenant os yw yn derbyn neu yn gwadu cyfrifoldeb. Gall yr ymateb hefyd gynnwys sylwadau a wnelo â’r union ffigyrau a grybwyllir.

Pwrpas yr Atodlen yw cael un ddogfen bwrpasol a fydd yn manylu ar yr amryfal faterion o anghydfod rhwng y partïon er mwyn arbed amser a chostau cyfreithiol pan ddaw'r mater gerbron llys.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://www.designingbuildings.co.uk/wiki/Scott_schedule

“The Glossary of Property Terms: Estates Gazette”, argraffiad 1993, tudalen 162

Hawlfraint

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw erthyglau na ffeiliau yn y categori hwn.