Clements, Charles

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(1898–1983)

Ganed Charles Henry Clements yn Aberystwyth yn 1898. Cymraes oedd ei fam ond hanai ei dad o Ddyfnaint. Bu’r tad a’r mab yn aelodau o gôr Eglwys Trinity ar y Buarth. Ymadawodd ag Ysgol Ardwyn yn gynnar oherwydd ei iechyd simsan a chael swydd fel pianydd yn sinema’r Palladium yn y dref. Cymerodd wersi ar y piano a’r organ a chyrraedd safon ddigon uchel i ennill yr ARCO a’r FRCO, gyda’r marciau uchaf y ddau dro, cyn cyrraedd ei ugain oed. Cyfyng fu ei orwelion cerddorol nes iddo gael ei ysbrydoli gan rai offerynwyr alltud o Wlad Belg a oedd wedi cael lloches yn Aberystwyth yn ystod y rhyfel, a daeth i werthfawrogi’n arbennig gerddoriaeth César Franck, Debussy a Ravel.

Er ei fod yn gwbl ddiuchelgais, daeth Charles Clements i chwarae rhan flaenllaw ym mywyd cerddorol ei dref enedigol. Yn 1917 fe’i penodwyd yn organydd Eglwys Seilo lle cyfarwyddodd adeiladu organ newydd yn 1934. Pan ddymchwelwyd yr eglwys yn 1995 cludwyd yr organ i Eglwys Gadeiriol Freetown, Sierra Leone. Deuai pobl o bob rhan o Gymru i wasanaethau’r Sul yn Seilo er mwyn clywed Charles Clements wrth yr organ. Yn 1919 cawsai ei benodi’n gynorthwy-ydd i Athro cerdd Coleg y Brifysgol, Henry Walford Davies, a dod yn aelod o driawd piano’r coleg.

Ar ôl ennill BMus yn 1924 cafodd ei benodi’n ddarlithydd yn 1926 ac yn uwch-ddarlithydd yn 1954. Ef oedd pennaeth gweithredol yr adran rhwng 1948 ac 1950. Erbyn iddo ymddeol yn 1963 roedd wedi cwblhau 44 o flynyddoedd yng ngwasanaeth adran gerdd Aberystwyth a dylanwadu’n aruthrol ar gannoedd o gerddorion ifanc. O ganol yr 1920au bu’n ddarlledwr cyson fel datgeinydd ar y piano a’r organ, fel cyfeilydd ac fel arweinydd Côr Madrigal y coleg, a ffurfiwyd ganddo yn 1931 ac a ddaeth yn enwog ledled Cymru a thu hwnt trwy gyfrwng recordiau ac yn arbennig y radio. Lluniodd nifer o drefniannau corawl, o Bach i alawon gwerin Cymreig, ond roedd yn gyndyn i’w cyhoeddi.

Gyda’i allu dihafal i ddarllen a thrawsgyweirio ar yr olwg gyntaf y gweithiau mwyaf dyrys, ymledodd ei enw fel cyfeilydd o’r safon uchaf un, a bu’n cyfeilio i nifer o unawdwyr lleisiol ac offerynnol rhyngwladol a ddenwyd i berfformio yn Aberystwyth, yn eu plith y feiolinydd Jelly d’Aranyi, y tenor Luigi Infantino a’r ddwy soprano Joan Hammond a Gwyneth Jones. Prin fod yr MBE a dderbyniodd yn gydnabyddiaeth deilwng o’i gyfraniad i fywyd cerddorol Aberystwyth, lle cymerwyd ei athrylith braidd yn ganiataol, na Chymru o ran hynny, a bu farw’n 84 oed mewn ysbyty yng Nghaerfyrddin.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.