Codgroesi

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae codgroesi (neu ‘cyfnewid cod’) yn disgrifio’r weithred o ddefnyddio dwy iaith wahanol mewn un sgwrs neu destun (Meyers-Scotton, 2009). Fel rheol, ni chyfeirir at y defnydd o eiriau neu ymadroddion benthyg sydd wedi’u sefydlu yn yr iaith (megis ymadroddion Lladin fel ‘ad hoc’, neu eiriau ‘benthyg’ a ddefnyddir i ddisgrifio pethau neu weithredoedd cyfarwydd, megis ‘pizza’, ‘boomerang’ neu ‘origami’) fel cyfnewid cod. Ystyrir bod codgroesi’n gallu digwydd ar sawl ffurf, ond yn gyffredinol cyfeirir at ddau fath, sef codgroesi rhyngfrawddegol (lle newidir iaith rhwng brawddegau) a chodgroesi mewnfrawddegol (lle newidir iaith oddi mewn i un frawddeg). Gwelir y gwahaniaeth hwn yn y brawddegau isod o’r nofel Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau (2006) gan Llwyd Owen:

Codgroesi Rhyngfrawddegol: ‘“Cut. Diolch yn fawr pawb. That’s a wrap.”’ (t. 153)
Codgroesi Mewnfrawddegol: ‘No man’s land o lais.’ (t. 126)

Tan yn ddiweddar, roedd tuedd i ystyried bod codgroesi yn arwydd o ddiffyg rhuglder y sawl a oedd yn ei gyflawni, ond mae ieithyddion yn eithaf cytûn erbyn heddiw bod codgroesi ar ei ffurf fwyaf soffistigedig yn arwydd o feistrolaeth yr unigolyn ar yr ieithoedd a ddefnyddia.

Wrth gwrs, gall codgroesi ddigwydd pan nad yw siaradwr neu awdur yn rhugl yn yr ieithoedd a ddefnyddia. Mae’r defnydd o eiriau neu ymadroddion unigol i gynrychioli diwylliant estron, megis y Ffrangeg yn nofelau Agatha Christie, yn gallu digwydd os yw’r siaradwr/awdur yn rhugl yn yr iaith estron honno neu beidio (Bohata, 2004). Gall y defnydd o ambell air o iaith arall hefyd fod yn arwydd o ddiwylliant dwyieithog, gyda theithi un iaith yn dylanwadu ar iaith arall. Cynigia Kirsti Bohata y defnydd o’r gair ‘bach’ yn llenyddiaeth a iaith Saesneg Cymru fel arwydd o ddylanwad y Gymraeg arnynt.

Mae dylanwad y naill iaith ar y llall yng Nghymru i’w weld yng ngweithiau llenyddol Cymraeg a gweithiau llenyddiaeth Saesneg Cymru, ac mae codgroesi llenyddol wedi ennyn sylw rhai beirniad yn ddiweddar. Mae Sara Orwig wedi astudio’r defnydd o’r Saesneg yn nofelau Cymraeg a Ffrangeg-Canadaidd (2015). Gan dynnu ar waith Elizabeth Gordon a Mark Williams, trafoda Bohata y gwahanol ffyrdd y mae awduron Saesneg Cymru yn cynnwys y Gymraeg yn eu gwaith: ceir dull ‘organaidd’ lle y cynigir esboniad o’r termau ‘estron’ fel nad ydynt yn effeithio’r broses ddarllen; ceir hefyd dull ‘gwleidyddol’ lle yr ymwrthodir rhag cyfieithu neu esbonio termau er mwyn anesmwytho’r darllenydd trwy ‘gyflwyno ffin ddiwylliannol na ellir ei chroesi’ (Bohata, 2004).

Pair codgroesi i wleidyddiaeth iaith Cymru ddod i’r amlwg hefyd pan gaiff y Saesneg ei defnyddio mewn testunau Cymraeg. Mae rhai o feirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol wedi tynnu sylw at ddylanwad y Saesneg a’r defnydd ohoni mewn testunau llenyddol Cymraeg a gyflwynwyd i gystadlaethau eisteddfodol yn ddiweddar. Yn 2005, nododd beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen na allent wobrwyo fersiwn o’r nofel Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau (2005) gan Llwyd Owen oherwydd bod dylanwad y Saesneg i’w weld yn ormodol yn y gwaith. Erbyn hyn mae Sara Orwig wedi dadlau bod y math hwn o iaith yn nodwedd o ieithwedd prif gymeriad a phrif adroddwr y nofel, Luc Swan (Orwig, 2015). Yn ei feirniadaeth o awdl Ceri Wyn Jones, ‘Lloches’ yn 2014, nododd Alan Llwyd y ‘gorddefnydd a wneir o’r iaith Saesneg [...] heb ddim math o angen gwneud hynny’n aml’, er mai pwnc y gerdd, yn rhannol, oedd mewnlifiad Saesneg i’r bröydd Cymraeg. Dengys hyn sut y parheir i gysylltu codgroesi â chysyniadau ynglŷn â ‘safonau’ neu ‘gywirdeb’ ieithyddol a llenyddol yn aml yn y cyd-destun Cymraeg.

Lisa Sheppard

Llyfryddiaeth

Bohata, K. (2004) Postcolonialism Revisited (Cardiff: University of Wales Press).

Gordon, E. a Williams, M. (1998). ‘Raids on the Articulate: Code-Switching, Style-Shifting and Post-Colonial Writing’, The Journal of Commonwealth Literature, 33.2, tt. 75-96.

Meyers-Scotton, C. (2009) ‘Code-Switching’ yn Nicholas Coupland, ac Adam Jaworski, goln. The New Sociolinguistics Reader (Basingstoke: Palgrave Macmillan), tt. 473-489.

Orwig, S. (2015) 'Cyfnewid cod mewn Llenyddiaeth – nofelau Cymraeg a Ffrangeg-Canadaidd: datblygu methodoleg newydd' (Traethawd MPhil Prifysgol Caerdydd, heb ei gyhoeddi).

Owen, Ll. (2006) Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau (Talybont: Y Lolfa).

Prichard, E., Mair, Bethan a Davies, Catrin Puw (2005) ‘Beirniadaeth Gwobr Goffa Daniel Owen’ yn J Elwyn Hughes, gol. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eryri a’r Cyffiniau (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 2005), tt. 92-100.

Jones, Ll., Llwyd, A. a Reynolds, I. (2014) ‘Beirniadaeth y Gadair’ yn J Elwyn Hughes, gol. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 2014) tt. 1-16.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.