Corau Ieuenctid a Phlant

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Byrhoedlog yw natur corau ieuenctid a phlant o reidrwydd; mae newid parhaus yn eu haelodaeth wrth i’r cantorion symud ymlaen i gorau hŷn neu wrth i’r corau eu hunain ambell dro ailffurfio i fod yn gorau oedolion. Arweinyddion dawnus ac ymroddgar sydd, yn aml, yn peri eu bod yn llwyddo i oroesi ac ailffurfio. Mae corau o’r fath yn allweddol, nid yn unig er mwyn cynnig profiadau cerddorol i ieuenctid a chynnal eu diddordeb mewn cerddoriaeth ond hefyd i greu repertoire newydd trwy gomisiynu gweithiau arbennig. Maent hefyd yn adnodd pwysig i gynnal a chadw diwylliant ieuenctid yn gyffredinol ac yn fodd i ddwyn pobl ifanc at ei gilydd mewn ardaloedd gwledig a phoblog.

Mae’r capeli a’r Ysgol Sul wedi chwarae rhan yr un mor flaenllaw â’r ysgolion wrth fagu corau o aelodau ifanc, yn enwedig wrth ganu caneuon Cymraeg. Ceir lluniau mewn archifau o Gôr Plant Capel Nazareth (MC), Penrhyndeudraeth, yn 1888, a Chôr Plant Tywyn yn 1885. Ceir llun o ferched Ysgol Ramadeg Merched y Bala yn yr 1920au a gwyddys fod Llewela Roberts, Llandderfel, wedi arwain corau merched yno. Roedd bri hefyd ar gorau plant yn ardal Cerrigydrudion yn yr 1950au dan arweiniad Ellen Ellis ac ar Gôr Genethod y Cilgwyn, Dyffryn Nantlle, o dan arweinyddiaeth James Thomas yn yr un degawd.

Bu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn sefydliad pwysig yn natblygiad corau ieuenctid yng Nghymru. Enillwyd y gystadleuaeth i gorau plant yn Llangollen gan Ysgol Ramadeg Caernarfon yn 1954 a chan Gôr Plant Cydweithredol y Rhondda yn 1955. Côr arall llwyddiannus o Gymru a ddaeth i’r brig yn Llangollen oedd Côr Ysgol Dewi Sant, Wrecsam, dan arweiniad Jean Stanley Jones. O dan ei chyfarwyddyd hi bu’r côr yn fuddugol yno bump o weithiau i gyd, ac yn sgil hynny cawsant gyfle i deithio’n helaeth drwy wledydd Prydain ac Ewrop yn yr 1970au a’r 1980au.

Bu Eisteddfod yr Urdd hefyd yn ddylanwad amlwg ar dwf corau ieuenctid yn ei blynyddoedd cynnar ac mae’n parhau i feithrin corau newydd. Gwelwyd llun o barti canu neu gerdd dant Adran yr Urdd, Treuddyn, yng nghylchgrawn Cymru’r Plant yn 1922. Corau eraill ddaeth i amlygrwydd yn yr 1950au a’r 1960au oedd côr Adran Carrog, ger Corwen, Côr Llanbrynmair, Côr Ysgol Gynradd y Bala a Chôr Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Ymhlith aelwydydd eraill a fu’n dra llwyddiannus mewn cystadlaethau corau, corau gwerin a chaneuon actol yr oedd Aelwyd Llanuwchllyn (1956), Aelwyd Caerdydd (1958), Aelwyd Machynlleth (1952), Aelwyd Ffostrasol (1969) ac Aelwyd Penllys, Powys (1963). Daeth corau aelwydydd megis Chwilog, Llangwm a Bro Ddyfi hefyd i amlygrwydd yn yr 1970au cyn i gnwd newydd o gorau aelwydydd colegau Cymru ymddangos ym mlynyddoedd olaf yr 20g. ac yn nechrau’r 21g.; yn eu plith yr oedd Aelwyd John Morris-Jones, Bangor (dan arweiniad Wyn Thomas), Y Drindod, Caerfyrddin, CF1 (Caerdydd) ac Aelwyd Pantycelyn (Aberystwyth). Mae’r duedd hon yn parhau, gyda chorau newydd megis Côr Aelwyd y Waun Ddyfal, Caerdydd (dan arweiniad Huw Foulkes), yn cael ei sefydlu yn 2006. Mae Mudiad y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru hefyd yn allweddol yn natblygiad corau ieuenctid, gyda Chôr Gore Glas, Machynlleth, sy’n cynnwys nifer o gyn-aelodau o’r mudiad, yn ddim ond un enghraifft o blith llawer.

Cam pwysig arall yn hanes corau ieuenctid yng Nghymru fu sefydlu Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’r Côr Hyfforddi gan Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru yn 1984, gyda’u haelodau yn cynnwys cantorion 16–25 mlwydd oed o Gymru benbaladr a’u llwyddiant yn adlewyrchiad o weithgaredd y corau ieuenctid sirol. Aelodau o dde Cymru a’r gogledd-ddwyrain oedd nifer fawr o’r cantorion yn y blynyddoedd cynnar, gyda rhai o siroedd Caerfyrddin a Cheredigion yn ymuno’n ddiweddarach. Erbyn dechrau’r 21g. roedd aelodaeth y côr yn fwy cytbwys yn ddaearyddol, gyda chynrychiolaeth o bob rhan o Gymru. Mae repertoire y côr wedi bod yn allweddol i gomisiynu gweithiau newydd gan gyfansoddwyr o Gymru, Mervyn Burtch (1929–2015) a John Hardy (g.1952) yn eu plith. Sefydlwyd y Côr Hyfforddi (ar gyfer cantorion 13–16 mlwydd oed) yn 2005, a chynhelir clyweliad blynyddol i’r rhai sy’n dymuno canu yn y ddau gôr. Ymhlith y cyn-arweinwyr y mae George Guest, Gregory Rose, John Hugh Thomas a Ralph Allwood, ac mae’r côr wedi perfformio yng Ngŵyl y Proms yn Neuadd Albert, Llundain, ac wedi cynnal cyngherddau ledled Ewrop.

Yn ogystal â gweithgareddau corawl yn y siroedd, roedd ambell i ysgol unigol yn rhyddhau record ac yn dod i’r brig mewn gwyliau ac eisteddfodau. Roedd Côr Ysgol Mynyddbach, Abertawe, yn flaenllaw yng nghyfnod yr 1970au dan arweiniad Eric Jones. Cafodd record Côr Ysgol Glan Clwyd o garolau Nadolig dan gyfarwyddyd Gilmor Griffiths dderbyniad gwresog yn 1975 a chydweithiodd Côr Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn (dan arweiniad Mary S. Jones), gyda’r tenor Trebor Edwards yn nechrau’r 1980au ar y record Ychydig Hedd (Sain, 1982). Aeth Mary S. Jones a rhai o aelodau’r côr yn eu blaenau i sefydlu Côr Adlais.

Yn yr un modd, bu disgyblion Ysgol Glan Clwyd rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn aelodau o Gôr y Glannau (dan arweiniad Gwen a Rhys Jones). Fel côr ieuenctid hefyd y cychwynnodd Côr Rhuthun yn 1980 dan arweiniad Morfydd Vaughan Evans ac mae’n parhau heddiw dan arweiniad Robat Arwyn, yntau’n gyfansoddwr sydd wedi ymateb i ddyhead corau ieuenctid am repertoire newydd, fel yn y gwaith Sychwn Ddagrau (2012). Bu caneuon o sioeau cerdd Cwmni Theatr Maldwyn yn boblogaidd hefyd, megis ‘Eryr Pengwern’ (Linda Gittins/Derec Williams/Penri Roberts).

Gyda sefydlu Ysgol Glanaethwy ym Mangor yn 1990, buan y daeth eu corau hwythau i sylw cenedlaethol a rhyngwladol, yn cael eu harwain gan sefydlwyr yr ysgol, Cefin a Rhian Roberts. Mae gan yr ysgol bellach dri chôr ar gyfer gwahanol oedrannau, gyda llawer o aelodau’n symud ymlaen o un i’r llall. Ymhlith eu llwyddiannau y mae cipio teitl Côr yr Ŵyl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dod i’r brig yng ngwyliau Musica Mundi yn yr Eidal ac yn Hwngari, a chael gwahoddiad i gystadlu mewn gŵyl gorawl yn China yn 2010. Buont hefyd yn rhan o gôr cyfun Proms Prydain a chafodd aelodau’r côr eu gwneud yn Llysgenhadon Eisteddfod Llangollen yn 2009. Yn y gystadleuaeth deledu Last Choir Standing (BBC, 2008) daethant yn ail, ac yna’n drydydd yn Britain’s Got Talent (ITV, 2015). Côr arall o Gymru a ddaeth i’r brig yn Last Choir Standing yn yr un flwyddyn oedd Only Men Aloud dan arweiniad Tim Rhys-Evans. Yn 2010 sefydlodd Rhys-Evans côr o fechgyn yn eu harddegau o gymoedd y de o’r enw Only Boys Aloud, ac fe ddaethant yn drydydd yn Britain’s Got Talent yn 2012. Y flwyddyn honno hefyd gwelwyd Only Kids Aloud, côr sy’n cynnwys plant o bob cwr o Gymru, yn perfformio am y tro cyntaf.

Sefydlwyd Ysgol Gerdd Ceredigion yn 1993. Fel yn Ysgol Glanaethwy, mae dyfodiad aelodau newydd bob blwyddyn yn symbylu’r aelodau hŷn i ymffurfio’n gorau newydd. Un o’r rhain yw Cywair, enillwyr cystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Llangollen, 2005, a ddaeth hefyd i’r brig yng nghystadleuaeth Côr Cymru ar S4C yn 2007 a 2011. Enillodd y Côr Iau y gystadleuaeth derfynol hefyd yn 2003 a 2009. Mae Islwyn Evans, y sylfaenydd, wedi hyfforddi cannoedd o blant drwy rengoedd y côr gan gynnig iddynt brofiadau ar lwyfannau ledled y byd, yn cynnwys Ewrop ac Unol Daleithiau America. Corau eraill a ddaeth i sylw’r cyhoedd yn sgil y gystadleuaeth oedd Côr y Cwm o ardal y Rhondda, Côr Heol y March o ardal Caerdydd a’r Fro, a Chôr Ieuenctid Môn.

Sioned Webb

Disgyddiaeth

  • Côr Ysgol Glanaethwy, Yn Dathlu Deg (Sain SCD2234, 1999)
  • Côr Adlais, Dipyn Bach Mwy o… (Sain SCD2164, 2000)
  • Cwmni Theatr Maldwyn, Y Mab Darogan/5 Diwrnod o Ryddid (Sain SCD2286, 2000)
  • Côr Rhuthun [et al.], Atgof o’r Sêr (Sain SCD2339, 2002)
  • Cwmni Theatr Maldwyn, Ann! (Sain SCD2446, 2004)
  • Cor Aelwyd CF1, CF1 (Sain SCD2518, 2006)
  • Only Men Aloud, Ysgol Glanaethwy [et al.], The Last Choir Standing (BBC Rhino Records WMTV092, 2008)
  • Côr Ysgol Glanaethwy, O Fortuna (Sain SCD2597, 2008)
  • Corau Glanaethwy & Da Capo, Rhapsodi (Sain SCD2605, 2009)
  • Only Men Aloud, Band of Brothers (Universal 2712706, 2009)
  • ———, Live from Wales (Denon COZ17785, 2010)
  • ———, In Festive Mood (OMA OMACD1, 2011)
  • Cor Aelwyd CF1, Con Spirito (Sain SCD2620, 2011)
  • Cor Rhuthun, Bytholwyrdd (Goreuon 30 mlynedd: 1981– 2011) (Sain SCD2671, 2011)
  • Côr Gore Glas a Chôr Aelwyd Bro Ddyfi, Unwn Mewn Cân (Sain SCD2666, 2012)
  • Only Boys Aloud, The Christmas Edition (Sony [dim rhif catalog], 2012)
  • Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Poulenc, Duruflé et al. (BBC MM384, 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.