Crefyddol, Cerddoriaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ychydig o dystiolaeth a adawyd inni am natur cerddoriaeth grefyddol Gymreig cyn y Goresgyniad Normanaidd yn yr 11g., ond mae’n debygol fod llyfrau litwrgïaidd i’w cael yn y clasau mwyaf, megis Llanilltud Fawr, Tyddewi a Llanbadarn Fawr, a byddai’r rhain yn cynnwys y Sallwyr a thestun yr Offeren ymhlith pethau eraill. Er nad oes lle i gredu bod llyfrau o’r fath yn cynnwys nodiant cerddorol, ceir peth tystiolaeth i awgrymu bod rhannau o’r litwrgi, gan gynnwys emynau, yn cael eu canu yn y cyfnod hwnnw, ac mae rhai cerddi Cymraeg cynnar, megis rhai o’r cerddi a gopïwyd i Lyfr Du Caerfyrddin, yn dwyn nodweddion emynau, er na ellir dweud yn hyderus eu bod wedi eu defnyddio at bwrpasau litwrgaidd.

Dan ddylanwad y Normaniaid, fodd bynnag, daeth yr eglwys yng Nghymru yn gynyddol yn rhan o batrwm litwrgïaidd Gorllewin Ewrop, a daeth mynachod â’u llyfrau litwrgïaidd gyda hwy wrth iddynt sefydlu mynachdai newydd yn enw’r urddau Ewropeaidd. Roedd y tai Sistersaidd a sefydlwyd yng Nghymru o’r 12g. ymlaen yn ganolfannau pwysig o ran cynhyrchu llyfrau litwrgïaidd. Ceir ambell awgrym prin fod arferion canu yn rhai o’r tai Sistersaidd Cymreig yn cynnwys rhywfaint o ganu polyffonig, ond tybir eu bod at ei gilydd yn cadw at y patrwm cyffredinol a geid gan yr urdd ym mhob man ar draws Ewrop. Ceir tystiolaeth hefyd gan Gerallt Gymro o ganu cantilenae (caneuon gyda chytgan) yn yr eglwys a thu allan iddi, yn ogystal â’i ddisgrifiad o ganu’r Cymry mewn mwy nag un llais, er nad yw hynny’n benodol eglwysig ei gyd-destun.

Yn y cenedlaethau wedi’r Goresgyniad Edwardaidd yn niwedd y 13g. symudwyd arferion eglwysig Cymreig yn nes at arferion Lloegr a gweddill gwledydd cred, a symudwyd yn raddol at fabwysiadu Defod Caersallog yn eglwysi Cymru. Dyma’r patrwm a welir yn gyffredinol yn y ddau lyfr cerdd eglwysig Cymreig sydd wedi goroesi o’r Oesoedd Canol, sef Antiffonari Pen-pont ac Esgoblyfr Bangor, y ddau yn perthyn i’r 14g. Mae Antiffonari Pen-pont yn cynnwys rhai nodweddion unigryw, yn enwedig gwasanaeth odledig i anrhydeddu Dewi Sant, ac mae’n bosibl mai ardal Aberhonddu, o fewn i esgobaeth Tyddewi, oedd ei darddiad gwreiddiol.

Defnyddiwyd Esgoblyfr Bangor, a gysylltir yn benodol ag Anian Sais a fu’n esgob o 1309 hyd 1328, gan esgobion Bangor o’r 14g. ymlaen. Nid yw ei gynnwys yn arbennig Gymreig, ac awgryma fod arferion eglwysig yng Nghymru erbyn y 14g. yn cydymffurfio ag arferion Lloegr. Gwyddys, fodd bynnag, fod y sefydliadau eglwysig yng Nghymru, yn enwedig yr eglwysi cadeiriol, yn cynnal bywyd cerddorol yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar. Yn Nhyddewi ceid ficeri corawl o’r 13g. ymlaen, a cheir tystiolaeth lenyddol yn y ganrif ddilynol i safon cerddoriaeth leisiol Tyddewi, yn ogystal â rhagoriaeth yr organ a’r clychau. Ceid rhywfaint o ddarpariaeth gerddorol mewn eglwysi plwyf hefyd.

Wedi’r Diwygiad Protestannaidd yn yr 16g. parhaodd llawer o gerddoriaeth eglwysig yng Nghymru i ddilyn patrymau yr Eglwys Anglicanaidd yn Lloegr. Roedd Tyddewi, er enghraifft, yn cynnal traddodiad cerddorol trwy gydol yr 16g. ac i mewn i’r 17g., ac yno y treuliodd y cyfansoddwr Tuduraidd Thomas Tomkins (1572–1656) ei flynyddoedd cynnar cyn mynd i Gaerloyw. Ond yn sgil y Diwygiad hefyd datblygwyd patrymau mwy cynulleidfaol, er i’r newid hwnnw gyrraedd Cymru yn hwyrach na gwledydd eraill. Cyhoeddwyd yr emynau cynharaf at ddefnydd cynulleidfaoedd, sef y Salmau ar fydr ac odl, gan Edmwnd Prys yn 1621, ac fe’u gosodwyd i salmdonau a godwyd o ffynonellau Albanaidd, Seisnig a chyfandirol.

Defnyddiwyd y salmau cân hyn yn helaeth yn eglwysi Cymru – er bod amrywiaeth yr acenion ym mydryddiadau coeth Prys yn creu anhawster i gynulleidfaoedd ar brydiau – ac fe’u hailargraffwyd sawl gwaith yn yr 17g. a’r 18g., heb y tonau gan amlaf. Mae’n bosibl hefyd fod canu ar rai o benillion Rhys Prichard (1579?–1644), ficer Llanymddyfri yn yr 17g., a geisiodd gyfleu gwirioneddau’r ffydd yn iaith penillion gwerin, ac yng ngorllewin Cymru yn bennaf cafwyd traddodiad o benillion crefyddol poblogaidd, ‘ halsingod’, y byddai pobl yn eu canu y tu mewn a’r tu allan i’r eglwys yn yr 17g. a dechrau’r 18g. Ond er i’r Ymneilltuwyr gyfansoddi emynau yn y cyfnod hwn, y Diwygiad Methodistaidd yn ei ail gyfnod o 1762 ymlaen a roddodd wir hwb i ddatblygiad canu emynau yng Nghymru. Gosodwyd emynau a gyfansoddwyd gan William Williams, Pantycelyn, ac eraill i donau a fenthyciwyd o Loegr, gan gynnwys alawon seciwlar poblogaidd megis ‘Lovely Peggy’ a ‘God Save the King’, ond roedd cynulleidfaoedd hefyd yn mabwysiadu tonau baled cynhenid Gymreig at bwrpas addoli ac yn ffurfio’u halawon cynulleidfaol eu hunain a argraffwyd yn ddiweddarach mewn casgliadau megis Peroriaeth Hyfryd gan John Parry (1837), Caniadau y Cyssegr gan John Roberts (1839) a Caniadau Seion gan Richard Mills (1840).

Roedd penodi Henry Mills (1757–1820) o Lanidloes yn arolygwr cerdd i’r cynulleidfaoedd Methodistaidd yng nghanolbarth Cymru yn yr 1780au yn arwydd o ymdrech i godi safon canu. Anogwyd Mills i ymweld â chynulleidfaoedd i’w haddysgu yn egwyddorion cerddoriaeth, ac yn ystod yr 1820au a’r 1830au ffurfiwyd cymdeithasau cerdd lleol mewn sawl man yng Nghymru, megis yn y Bala, Aberystwyth a Bethesda, i hybu canu mewn mwy nag un llais ac i feithrin dealltwriaeth o elfennau cerddoriaeth.

Daeth Aberystwyth yn enwog am safon ei chanu cynulleidfaol dan arweiniad Edward Edwards (1816–98), Pencerdd Ceredigion. Ymddangosodd gwerslyfrau cerddorol a chasgliadau o donau. Y casgliad Cymraeg cyntaf i’w argraffu ar dir Cymru oedd Mawl yr Arglwydd gan John Ellis yn 1816, a chyrhaeddodd cyhoeddi gwerslyfrau ei benllanw gydag ymddangosiad Gramadeg Cerddoriaeth John Mills yn 1838, cyfrol a’i sefydlodd ei hun yn waith hanfodol i addysg gerddorol. Gwelwyd cyfansoddwyr o Gymry yn cyhoeddi tonau o’u gwaith mewn cyfnodolion, a lluniwyd nifer o gasgliadau amrywiol o donau, gan gynnwys Casgliad o Donau (1843) gan John Ambrose Lloyd, a gynhwysai nifer o donau y cyfansoddwr ei hun. Gellir dweud mai yn ystod y 19g. y daeth cerddoriaeth eglwysig, neu yn bennaf gerddoriaeth capel, yn brif fynegiant anian gerddorol Cymru.

Rhoddodd y mudiad dirwest hwb pellach i ganu cynulleidfaol (gw. Emynau). O’i sefydlu yn 1854 bu Undeb Corawl Dirwestol Gwent a Morgannwg yn trefnu gwyliau blynyddol lle byddai corau unedig yn canu cytganau ac emyn-donau. Yn 1859 cyhoeddodd Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822–77) y Llyfr Tonau Cynulleidfaol a darparu corff o donau safonol, llai blodeuog na thonau’r genhedlaeth o’r blaen, ac wedi’u cynganeddu’n syml a diaddurn. Profodd y llyfr yn boblogaidd, ac roedd yr arfer o gydgyfarfod i ganu tonau allan ohono yn sylfaen dda i ddatblygiad y gymanfa ganu. Er bod cymanfaoedd cerddorol wedi eu cynnal yn yr 1840au, cafwyd dechreuad newydd wedi 1859 gyda mwy o bwyslais ar ddysgu tonau newydd.

Deuai llawer o gynnwys y Llyfr Tonau Cynulleidfaol o ffynonellau y tu allan i Gymru, ond cynhwysai hefyd donau Cymreig wedi eu trefnu o’r newydd, ac o’r 1860au ymlaen cyhoeddwyd mwy o donau gwreiddiol gan genhedlaeth newydd o gyfansoddwyr Cymreig. Casgliad pwysig arall a ymddangosodd yn y cyfnod hwn oedd Llyfr Tonau ac Emynau (1868) gan J. D. Jones (1827–70) ac Edward Stephen (Tanymarian; 1822–85). Er mai menter breifat oedd y casgliad, daeth yn boblogaidd ymhlith yr Annibynwyr, fel yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd yn defnyddio’r Llyfr Tonau Cynulleidfaol. Cafwyd Ychwanegiad i’r Llyfr Tonau Cynulleidfaol yn 1870 ac Ail Lyfr Tonau ac Emynau, o waith Tanymarian yn unig, yn 1879.

O 1862 ymlaen cyhoeddwyd cerddoriaeth yn nodiant y tonic sol-ffa, cyfundrefn a gefnogwyd yn arbennig gan Eleazar Roberts (1825–1912) ac Ieuan Gwyllt, a galluogwyd cynulleidfaoedd i ddarllen cerddoriaeth yn fwy rhugl a chadarnhau’r arfer o ganu yn y pedwar llais. Digyfeiliant oedd y rhan fwyaf o ganu’r capel o hyd, er bod mwy o ddefnydd o offerynnau yn yr Eglwys Anglicanaidd. Wrth i’r gymanfa ganu ddod yn fwy poblogaidd o’r 1870au ymlaen byddai cyfansoddwyr lleol yn llunio tonau i’w canu mewn gwyliau a oedd yn tyfu’n fwy a mwy enwadol, ac erbyn diwedd y 19g. roedd gan bob enwad ei lyfr emynau a adlewyrchai ei draddodiadau a’i arferion. Byddai’r cynulleidfaoedd mawr, mwyaf blaengar, yn cynnwys anthemau a salmau yn eu gwasanaethau i atgyfnerthu’r emyn traddodiadol, ac o’r 1890au ymlaen daeth yr organ yn offeryn mwy cyffredin yn y capeli.

Erbyn diwedd y 19g. roedd y gwahanol enwadau wedi cyhoeddi casgliadau swyddogol o donau ac emynau at ddefnydd eu cynulleidfaoedd i ddisodli’r casgliadau o emynau a’r casgliadau o donau a gynhyrchwyd gan unigolion. Cyhoeddodd Cymanfa Bedyddwyr Arfon eu Llawlyfr Moliant yn 1880; fe’i mabwysiadwyd gan gynulleidfaoedd y Bedyddwyr yn gyffredinol a daeth yn sail i argraffiadau pellach o’r Llawlyfr Moliant fel llyfr swyddogol yr enwad. Cyhoeddodd yr Eglwys Anglicanaidd Hymnau yr Eglwys, dan olygyddiaeth Elis Wyn o Wyrfai, yn 1892, ac argraffiad gyda thonau yn 1893, ac Emyniadur yr Eglwys yng Nghymru, dan olygyddiaeth Daniel Lewis Lloyd, Esgob Bangor, yn 1898. Cyhoeddodd yr Annibynwyr eu Caniedydd Cynulleidfaol yn 1895, a’r Methodistiaid Calfinaidd eu Hymnau a Thônau yn 1897. Ymddangosodd Llyfr Tonau ac Emynau y Wesleyaid yn 1904.

Trwy gyfrwng y casgliadau hyn a’r rhai a’u dilynodd yn yr 20g. sefydlwyd patrymau o ganu cynulleidfaol enwadol, gydag emynau a thonau (a threfniannau ohonynt) a berthynai i bob enwad yn unigol yn ogystal â bod yn etifeddiaeth gyffredin i bawb. Cafodd y Cymry enw am eu canu grymus, a allai fod yn orfoleddus ond hefyd yn emosiynol. Byddai cyfansoddwyr Cymreig hefyd yn cyfansoddi mewn patrymau traddodiadol eglwysig, gan greu gosodiadau i’r Magnificat, y Nunc Dimittis a’r Te Deum, er mai prin oedd y defnydd ar y rhain ymhlith y cynulleidfaoedd Ymneilltuol, ac eithrio mewn cymanfaoedd canu.

Amrywiai arferion ac arddull canu o ardal i ardal, ond am ran helaeth o’r 20g. parhaodd cymanfaoedd canu yn eu bri ac adlewyrchwyd hyn i raddau ym moliant y Sul. Adolygwyd ac ychwanegwyd at lyfrau emynau enwadol gan bob un o’r enwadau Ymneilltuol a chan yr Eglwys yng Nghymru. Wedi cynnal y Gymanfa Ganu Genedlaethol gyntaf yn rhan o Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1916, magodd y gymanfa statws eiconaidd yn symbol o Gymreictod, yn enwedig mewn gwyliau cenedlaethol ac mewn cyfarfodydd o Gymry alltud, a daethpwyd i synied am ganu emynau yn arfer naturiol ble bynnag y mae Cymry’n heidio at ei gilydd, mewn clybiau a thafarndai ac ar gae rygbi yn ogystal ag yn y capel a’r eglwys.

Mae’r tonau ac emynau newydd a gyfansoddwyd yn ystod yr 20g. wedi tueddu i ddilyn patrymau sefydlog heb lawer o arbrofi, ac mae’r lleihad yn nifer cynulleidfaoedd wedi tanseilio’r traddodiad cryf o ganu pedwar llais. Roedd cyhoeddi llyfr emynau cydenwadol, Caneuon Ffydd, yn 2001 ar y naill law yn gofadail i’r traddodiad clasurol ac ar y llaw arall yn arwydd o hyder ym mharhad yr arfer o ganu cynulleidfaol, er bod lle i amau a yw adnoddau cynulleidfaoedd erbyn hyn yn ddigonol i gynnal y traddodiad cyfoethog o ganu mewn cynghanedd a ddatblygodd yng Nghymru yn y 19g. a’r 20g.

Prin yw’r darnau cyfansoddedig gan gerddorion o Gymry cyn y 19g., ond o hynny ymlaen sianelwyd llawer o egni cerddorol cyfansoddwyr Cymreig i gyfansoddiadau a oedd yn perthyn i wasanaethau capel ac eglwys a chymanfa, sef llwyfannau naturiol cerddoriaeth Gymreig ar y pryd. Daeth yr anthem yn gyfrwng mynegiant i nifer ohonynt, megis John Ambrose Lloyd (1815–74), John Thomas (1839–1921) a D. Emlyn Evans (1843–1913), a chyfrifir Teyrnasoedd y Ddaear o waith Lloyd, a wobrwywyd yn Eisteddfod Bethesda yn 1852, yn un o’r enghreifftiau mwyaf llwyddiannus o arddull y cyfnod. Edward Stephen (Tanymarian) sy’n cael y clod am lunio’r oratorio Gymraeg gyntaf i’w chyhoeddi, sef Ystorm Tiberias (1855). Amrwd oedd safon gweithiau felly o’u cymharu â gweithiau Ewropeaidd, a phan ddatblygodd canu corawl Cymru yn ail hanner y 19g. cafodd corau fwy o flas ar gyfanweithiau Handel a Mendelssohn nag ar waith cyfansoddwyr Cymreig, er i rai o blith cenhedlaeth iau na Thanymarian, megis Joseph Parry (1841–1903) a David Jenkins (1848–1915), arbrofi gyda ffurfiau’r oratorio a’r gantata gysgredig gyda rhyw fesur o lwyddiant, ond heb ennill derbyniad parhaol. Cadwodd y ffurfiau llai eu poblogrwydd ymhell i’r 20g.: er i lai o anthemau a chytganau cysegredig newydd gael eu cyfansoddi, daliai corau i ganu anthemau poblogaidd megis ‘Efe a ddaw’ gan Tom Price (1857–1925), Dyn a aned o wraig gan D. Christmas Williams (1871–1926) ac Yr Arglwydd yw fy mugail gan Caradog Roberts (1878–1935).

Yn yr 20g., er i ddylanwad sefydliadau Cristnogol edwino, gwelwyd llunio cyfanweithiau mwy uchelgeisiol a gorffenedig o natur grefyddol gan gyfansoddwyr proffesiynol a oedd yn deall gofynion cerddorfa yn ogystal â chôr. Nid fel cyfansoddwyr cerddoriaeth grefyddol y meddylir am y cyfansoddwyr hyn yn bennaf, ond dangosodd nifer ohonynt ddiddordeb mewn cerddoriaeth o’r fath. Cymerodd Arwel Hughes ran o destun yr offeren yn sail i’w waith corawl poblogaidd, Gweddi (1944); lluniodd oratorio, Dewi Sant, ar gyfer Gŵyl Prydain yn 1951 a pherfformiwyd ei waith corawl Pantycelyn, sy’n defnyddio emynau’r Pêr-ganiedydd, yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1964. Cyfansoddodd Mansel Thomas nifer o anthemau a gosodiad o’r Requiem (1978). Seiliodd Daniel Jones ei gantata The Country Beyond the Stars (1958) ar destunau o waith y bardd cyfriniol o’r 17g., Henry Vaughan, ac yn 1963 lluniodd oratorio, Saint Peter, yn seiliedig ar fywyd yr Apostol Pedr. Yn ei Missa Cambrensis uchelgeisiol, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 1971, aeth Grace Williams y tu hwnt i ffiniau arferol yr offeren i lunio gwaith eang ei amgyffrediad ysbrydol.

Parhâi cyfansoddwyr o genhedlaeth iau i lunio gweithiau crefyddol mewn arddull gyfoes: ysgrifennodd William Mathias lawer o fewn y traddodiad corawl Anglicanaidd, gan gynnwys ei gantata cynnar Sant Teilo (1963), ei Missa Brevis (1973), ei Missa Aedis Christi er cof am William Walton a fu farw yn 1983 a’i anthem adnabyddus Let the people praise Thee, O God (1981). Yn yr un modd ceir gan Alun Hoddinott oratorio, Job (1962), a gosodiad o’r Te Deum (1981), ond hefyd waith yn seiliedig ar eiriau’r Pêr-ganiedydd, Emynau Pantycelyn (1989).

Gallai themâu cysegredig fod yn sail i weithiau cerddorfaol: yr emyn-dôn draddodiadol Gymreig ‘Braint’ a ddewiswyd yn thema ganolog i’r Severn Bridge Variations, gwaith cerddorfaol amlsymudiad hollol seciwlar ei gyd-destun, a luniwyd gan chwech o gyfansoddwyr ar y cyd i nodi agor y Bont Hafren gyntaf yn 1966. Defnyddiodd Ian Parrott yntau batrymau cerddoriaeth werin yn ei Offeren yn arddull canu gwerin (1974), a gyfansoddwyd at ddefnydd eglwysig yn benodol. Ond nid mewn capeli ac eglwysi bob amser y byddai gweithiau fel hyn yn cael eu perfformio, ac nid oeddynt o anghenraid yn dilyn ffurfiau eglwysig rheolaidd.

Mae gweithiau fel hyn a’u tebyg, megis offeren Karl Jenkins The Armed Man: A Mass for Peace (1999) a’i Cantata Memoria (2016), er cof am drychineb Aberfan yn 1966, yn perthyn i’r neuadd gyngerdd lawn cymaint ag i’r cysegr, ac yn adlewyrchu newid nid yn unig ym mhatrwm cerddoriaeth grefyddol ond hefyd yn y ddealltwriaeth o gyd-destun y gerddoriaeth honno, nad yw’n dibynnu ar ffurfiau nac adeiladau eglwysig i brofi ei dilysrwydd.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.