Cwndid

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Math o garol werinol boblogaidd yw’r cwndid, a geir yn bennaf ym Morgannwg a Gwent, ond hefyd yn Sir Gaerfyrddin, rhwng yr 16g. a’r 18g. Credir bod y gair yn tarddu o’r Saesneg condut ac o’r Lladin conductus, sef cân a genid gan yr offeiriad wrth orymdeithio at yr allor. Mae’n ymddangos mai tebyg oedd amcan y cwndid i amcan yr halsing (gw. Halsingod), sef dysgu gwersi crefyddol a moeswersi i’r werin bobl, yn aml trwy fydryddu damhegion a darnau ysgrythurol eraill. Mae nifer o gwndidau wedi goroesi y gellir eu tadogi ar feirdd penodol, megis Llywelyn Siôn (1540–1615?) o Drelales ac Edward Dafydd o Fargam (c.1600–78?), yr olaf o feirdd yr hen draddodiad barddol ym Morgannwg.

Ymhlith awduron cwndidau yn y 18g. y mae Edward Evan (1716/17–98) a Lewis Hopkin (c.1708–71). Ceir yn y penillion ddarlun o fyd caled, meddiannol a chystadleuol a gondemnir yn hallt, a sonnir am y bygythiad i fywyd y tlawd trwy newyn, afiechyd a marwolaeth. Maent yn adlewyrchu ceidwadaeth y meddwl poblogaidd yn enwedig mewn cyfnod o newid yn yr 16g. a’r 17g., ond adlewyrchir y traddodiad Protestannaidd newydd ynddynt hefyd, yn benodol yn y pwyslais ar fydryddu darnau o’r ysgrythur. Cyfansoddwyd llawer ohonynt fel carolau Nadolig ac ar gyfer gwyliau eglwysig eraill, ond ceir rhai cwndidau sy’n ganeuon serch.

Er ei bod yn amlwg mai ar gyfer eu datganu y bwriadwyd llawer o’r cwndidau, ni ellir dweud i sicrwydd pa alawon a ddefnyddid i’w canu. Nid oes dystiolaeth iddynt gael eu canu mewn eglwysi, ond gellir tybio iddynt gael eu gosod ar alawon baledi poblogaidd y cyfnod.

Rhidian Griffiths

Llyfryddiaeth

  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • Ceri W. Lewis, ‘The Literary History of Glamorgan from 1550 to 1770’, yn Glanmor Williams (gol.), Glamorgan County History [cyf. 4, Early modern Glamorgan] (Caerdydd, 1974), 535–639



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.