Cyd-gasglydd newyddion awtomatig

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Automated news aggregator

Meddalwedd a gynlluniwyd er mwyn casglu storïau newyddion ar draws y rhyngrwyd a’u cyflwyno ar wefan unigol, heb ddibynnu ar farn olygyddol person. Daeth y term i’r amlwg yn fuan ar ôl i fersiwn beta (neu brawf) Google News, y cyd-gasglydd newyddion awtomatig cyntaf, fynd yn fyw ym mis Medi 2002.

Er bod gwefan newyddion Google News yn anwybyddu’r ddibyniaeth ar ymdrechion miloedd o olygyddion a newyddiadurwyr i gynhyrchu cynnwys yn y lle cyntaf, mae’r wefan yn galluogi defnyddwyr i wneud chwiliadau ar unrhyw bwnc, a’u cysylltu â storïau newyddion o blith mwy na 10,000 o ffynonellau newyddion (rhyw 4,500 yn yr iaith Saesneg) o gwmpas y byd.

Mae’r brif dudalen yn trefnu’r straeon newyddion pwysicaf heb ymyrraeth ddynol, gan gyflwyno’r newyddion mwyaf perthnasol yn gyntaf, ac fe’i diweddarir bob 15 munud. Mae’r modd y gosodir cyfres o ddolenni gwe perthnasol yn nhestun y stori, neu wrthlaw iddo, yn ei gwneud yn haws i’r darllenydd ddod o hyd i adroddiadau cysylltiedig. Mae’r prif storïau yn amlwg, gyda’r dyddiad a’r amser i’w gweld yn glir. Cânt eu casglu gan gorynnod gwe (web spiders) a'u didoli wedyn gan feddalwedd arbennig i gategorïau genre, megis Y Byd, Busnes, Gwyddoniaeth / Technoleg, Chwaraeon, Adloniant ac Iechyd. Gellir hidlo’r tudalennau ar sail newyddion o wahanol ranbarthau ac ieithoedd, yn ogystal â diddordebau neu ddewisiadau’r defnyddiwr unigol. Nid yw Google yn datgelu sut y mae’n trefnu’r storïau, ond mae’n cydnabod bod geiriau chwiliadwy, pa mor gyfredol yw’r stori (amseroldeb) ac enw da’r cwmni newyddion yn ffactorau wrth i’r storïau gael eu trefnu.

I’r sefydliadau newyddion sy’n cael eu cynnwys ar y wefan, mae’n darparu cynulleidfa llawer mwy ( pairs of eyes mewn iaith hysbysebu) nag y gallent ei denu ar eu pennau eu hunain. Caiff cyfran o unrhyw refeniw hysbysebu a gynhyrchir ei rhannu rhyngddynt.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.