Cyfle am lun

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Photo-op, talfyriad am photo-opportunity ac hefyd photo call

Mae hwn yn cyfeirio at drefniant lle y mae person neu grŵp o bobl yn cytuno i gael tynnu eu llun gan ffotonewyddiadurwyr mewn man arbennig ar amser penodol. Gall y rhain fod yn arweinwyr gwlad, gwleidyddion, pêl-droedwyr ar fin chwarae gêm bwysig neu actorion Hollywood ar y carped coch. Hefyd caiff ei ddisgrifio fel ‘photo calls’, ac mae’r cyfleoedd hyn yn arbennig o werthfawr i’r paparazzi a’r wasg tabloid, sy’n aml yn tynnu lluniau sy’n ymddangos yn rhai preifat (e.e. cyplau enwog yn cael eu ‘dal’ yn cerdded ar y traeth), er bod y rhain wedi eu trefnu o flaen llaw.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.