Cymorth:Cymorth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cymorth i gyfranogwyr

Mae’r Esboniadur yn wefan ar ffurf wici sy’n caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig ei olygu. Rhaid cael cymeradwyaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cyn fedrwch olygu'r Esboniadur. Er mwyn fformatio eich testun rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cystrawen wici, yn dilyn y canllawiau ar y dudalen hon.

Creu cofnod

Gellid creu cofnod o’r newydd naill ai trwy deipio enw’r erthygl hoffech ei greu yn y blwch chwilio, er enghraifft ‘Teitl enghreifftiol’. Ar y dudalen wag sy’n llwytho o ganlyniad fe welwch y neges ‘Creu’r dudalen “Teitl enghreifftiol” ar y wici hwn!’ Cliciwch ar y ddolen goch lle mae enw'r cofnod er mwyn ei greu.

Gellid hefyd creu cofnod newydd drwy glicio ar ddolennu coch mewn cofnod.

Golygu cofnod

  1. Cliciwch ar y tab ‘Golygu’ ar ben y dudalen.
  2. Newidiwch y testun yn y blwch golygu.
  3. Cliciwch y botwm 'Dangos rhagolwg' i weld rhagolwg o'ch newidiadau.
  4. Cliciwch y botwm 'Cadw'r dudalen' pan rydych yn barod i gadw'r gwaith.

I olygu pennawd unigol, cliciwch ar y ddolen ‘golygu’ i’r dde o’r pennawd priodol a dilynwch gamau 2 i 4.

Fformatio testun

Disgrifiad Teipiwch hyn ...a dyma sydd i'w weld
Testun italig ''italig'' italig
Testun bras '''bras''' bras
Testun bras ac italig '''''bras ac italig''''' bras ac italig
Dolen mewnol [[afon syth]] afon syth
y [[cerlan|gerlan]] y gerlan
[[llen iâ|llenni iâ]] llenni iâ
Dolen allanol [http://www.google.com Google] Google
Pennawd ==Pennawd== Pennawd
Is-bennawd ===Is-bennawd=== Is-bennawd
Rhestr â phwyntiau bwled * Eitem 1
* Eitem 2
  • Eitem 1
  • Eitem 2
Llun [[Delwedd:Sianeleiddio Afon Alun.JPG|bawd|Testun enghreifftiol]]
Testun enghreifftiol

Ychwanegu categori

Er mwyn cynnwys eich cofnod mewn casgliad rhaid ychwanegu’r casgliad ato ar ffurf categori. Er enghraifft, os yw’r cofnod yn rhan o’r casgliad Ffilm a Theledu Cymru ychwanegwch [[Categori:Ffilm a Theledu Cymru]] at waelod y cofnod.

Caiff cofnodion eu trefnu mewn categorïau yn ôl trefn llythyren gyntaf eu teitl yn yr Wyddor. Os ydych am i gofnod gael ei gategoreiddio yn ôl llythyren arall, er enghraifft enw cyntaf cyfenw person, ychwanegwch {{DEFAULTSORT:Lewis, Saunders}} (er enghraifft) uwchben y categori.

Ychwanegu nodyn hawlfraint

Er mwyn dynodi trwydded hawlfraint eich cynnwys, ychwanegwch y nodyn {{CC BY-SA}}, ar gyfer (Creative Commons Attribution ShareAlike 4.0) neu {{CC BY}} (ar gyfer Creative Commons Attribution 4.0) fel bo'n briodol, at waelod y cofnod.

Uwchlwytho llun

Cliciwch y ddolen ‘Uwchlwytho ffeil’ sydd yn y Blwch offer i’r chwith ar bob tudalen. Gallwch wedyn uwchlwytho ffeil o’ch cyfrifiadur.