Cynwal, Wiliam

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd proffesiynol o Ysbyty Ifan, sir Ddinbych, oedd Wiliam Cynwal (m.1587/8). Bu’n ddisgybl i Ruffudd Hiraethog, prif athro barddol ei oes, a graddiodd yn ddisgybl pencerddaidd yn ail eisteddfod Caerwys yn 1567 ac wedyn – yn unol â Statud Gruffudd ap Cynan a reolai alwedigaeth y beirdd – yn bencerdd mewn neithior. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn: canodd dros 300 o gywyddau ac awdlau – cerddi mawl a marwnad i noddwyr yng ngogledd Cymru yn bennaf – a thua 500 o englynion. Bardd ydoedd a rodiai’n gyfforddus geidwadol yn rhigol gyfarwydd y canu mawl.

Prif enwogrwydd Cynwal yw ei ran yn yr ymryson barddol hirfaith (c.1581–7) a fu rhyngddo â’r dyneiddiwr Edmwnd Prys, archddiacon Meirionnydd. Mae’r ymryson yn amlygu tueddiadau gwrthgyferbyniol yn niwylliant llenyddol Cymru yn y 16g. Cafwyd 54 o gywyddau yn yr ymryson i gyd, ond 18 cywydd yn unig a ganodd Cynwal. Dechreuodd yr ymryson gyda chywydd gan Brys i ofyn bwa’n rhodd gan Gynwal, ond buan y trôdd yr archddiacon at faterion ehangach eu diddordeb. Beirniadodd feirdd fel Cynwal am ganu celwydd yn eu cerddi mawl ac am lunio achau ffug i blesio eu noddwyr. Roedd gwreiddiau hynafol a rhyngwladol i feirniadaeth foesol o’r fath, a oroesodd hyd y Dadeni: fe’i cafwyd o’r blaen yng Nghymru gan Siôn Cent yn y 15g., bardd y cyfeiria Prys ato. Yn lle’r cerddi mawl celwyddog anogodd Prys y beirdd i ‘ganu dysg’ gan gyrchu’r prifysgolion i’r perwyl. Anogai hwy i lunio cerddi dwyfol wedi eu seilio ar y Beibl a cherddi yn seiliedig ar y celfyddydau a’r gwyddorau (roedd canu ar bynciau gwyddonol yn boblogaidd iawn yn Ewrop ac yn Lloegr ar y pryd). Cyfyng oedd ymateb Cynwal i sylwadau Prys (ond cofier iddo farw yn 1587 cyn cael cyfle i ymateb i rai o’i anogaethau Prys ynghylch lledu terfynau’r awen Gymraeg). Beirniadodd Brys am ganu dychan – canu israddol yn ôl gramadegau’r beirdd – a’i annog i ddychwelyd at ei briod waith o bregethu. Edliwiodd iddo na chawsai hyfforddiant gan athro o fardd ac nad oedd ganddo radd farddol, gan ddannod hefyd ei anwybodaeth o’r gynghanedd a’r mesurau. Roedd Cynwal – awdur gramadegau barddol a llawysgrifau achyddol a herodrol – yn hyddysg iawn yn y ddysg farddol Gymreig draddodiadol. Ond byd y tu hwnt i’w amgyffred oedd byd diwylliannol Prys, gŵr amlieithog – honnai ei fod yn gwybod wyth o ieithoedd – a dderbyniasai addysg mewn prifysgol ac a oedd yn gyfarwydd â llenyddiaeth mewn ieithoedd heblaw’r Gymraeg ac â ffasiynau llenyddol cyfoes y Dadeni. Roedd gagendor rhwng bydoedd y beirdd a’r dyneiddwyr a’i gwnâi’n anymarferol i wireddu rhaglen lenyddol fel un Prys.

Ymhlith cynhyrchion eraill mwyaf diddorol Cynwal yr oedd cerdd rydd hir yn amddiffyn merched yn erbyn ergydion ‘Araith Ddychan i’r Gwragedd’, cerdd gan fardd anhysbys. Dadleuodd Cynwal ei achos drwy gyfeirio at enghreifftiau o ferched rhinweddol o’r Beibl, o chwedloniaeth yr hen fyd ac o blith y santesau. O’i gymharu â rhai cyfoeswyr roedd Cynwal yn oleuedig yn ei bleidgarwch i ferched, ond honni gormod efallai fyddai ei alw’n ffeminydd cynamserol. Mae’n ddiddorol yn y cyswllt hwn – er na ellir mynnu dylanwad pendant – fod y Gymraes enwog Catrin o Ferain yn un o’i brif noddwyr.

Gruffydd Aled Williams

Llyfryddiaeth

Jones, B. (1967). ‘Pwnc Mawr Beirniadaeth Lenyddol Gymraeg’, yn Williams, J. E. C. (gol.), Ysgrifau Beirniadol III (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 253–88.

Jones, R. M. (2000), Mawl a’i Gyfeillion (Cyhoeddiadau Barddas).

Jones, G. P. a Jones, R. L. (1971), ‘Wiliam Cynwal’, Llên Cymru, 11, 176–204.

Parry-Williams, T. H. (1932), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Roberts, E. (1963), ‘Wiliam Cynwal’, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 12, 51–85.

Williams, G. A. (1974), ‘Golwg ar Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal’, yn Williams, J. E. C. (gol.), Ysgrifau Beirniadol VIII (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 70–109.

Williams, G. A. (1986), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Williams, G. A. (2005), ‘The poetic debate of Edmwnd Prys and Wiliam Cynwal’, yn Davies, C., a Law, J. E. (goln), The Renaissance and the Celtic Countries (Oxford: Blackwell Publishing), tt. 33–54.

Williams, G. (1960), In Defence of Woman by Wiliam Cynwal (London: Golden Cockerel Press).

Williams, Rh. (1965), ‘Wiliam Cynwal’, Llên Cymru, 8, 197–213.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.