Cytseinedd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfatebiaeth rhwng cytseiniaid mewn dau neu fwy o eiriau yw cytseinedd. Yn wahanol i gyflythreniad, gall y gyfatebiaeth hon fod mewn unrhyw safle yn y geiriau dan sylw; nid oes rhaid i’r geiriau cyfatebol fod ar ddechrau’r geiriau. Nid oes angen chwaith i’r seiniau ddilyn patrwm pendant fel yn achos y gynghanedd. Ni ddylid cymysgu rhwng cytseinedd a chyseinedd, sef cyfatebiaeth rhwng llafariaid. Mae’r llinell ‘Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt’ o ‘Cofio’ gan Waldo Williams yn cynnwys cytseinedd (‘Un funud fwyn’) a chyseinedd (‘Un funud’, ‘fwyn’ a ‘hwyr’). Gelwir y cynganeddion croes a thraws yn gynganeddion cytsain am fod cytseinedd yn elfen hanfodol ynddynt.

Llŷr Gwyn Lewis


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.pencerdd|