Davies, Henry Walford

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(1869–1941)

Arweinydd, cyfansoddwr, organydd, gweinyddwr cerddorol ac addysgwr a fu’n dal llawer o swyddi cerddorol yng Nghymru ac yn Llundain. Fe’i ganed yng Nghroesoswallt, ond yng Nghapel Sant Siôr, Windsor, y dechreuodd ei addysg gerddorol o ddifrif, wedi iddo gael ei anfon yno yn gôr-fachgen yn ddeuddeg oed. Yno, daeth Walter Parratt, organydd a chôr-feistr ac un o gerddorion blaenllaw Llundain bryd hynny, yn gyfaill iddo.

Yn 1890 astudiodd gyfansoddi fel disgybl yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Hubert Parry (1848–1918) a Charles Stanford (1852–1924). Dyfarnwyd iddo MusB Caergrawnt yn 1891, ar ôl methu y flwyddyn flaenorol. Yn 1895, penodwyd Walford Davies, drwy ddylanwad Parratt (a oedd yn Athro’r Organ yn y Coleg Brenhinol) mae’n debyg, yn athro gwrthbwynt yno. Ymddiswyddodd yn 1903 oherwydd ei fod wedi crynhoi cymaint o waith arall, gan gynnwys bod yn organydd a chôr-feistr yn Eglwys Sant Siôr, Kensington, ac yn y Temple Church (swydd y bu ynddi am ugain mlynedd). Bu hefyd yn arwain Côr Bach ac yn 1917 fe’i gwnaed yn Gyfarwyddwr Cerdd cyntaf y Llu Awyr Brenhinol, a oedd newydd ei sefydlu. Yr ymdeithgan a gyfansoddodd i fand y llu, The March Past of the Royal Air Force (y sgôr gan Dyson), yw’r gwaith o’i eiddo sydd wedi parhau’n boblogaidd hiraf.

Yn 1919, daeth yr un pryd yn Gyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Cymru (yr unig un i ddal y swydd honno) ac yn Athro Cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Fel Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Cymru roedd ei gylch gwaith yn eang, sef hyrwyddo cerddoriaeth ym mhob un o’r colegau, ac ef oedd prif hyrwyddwr sefydlu’r adran ym Mangor. Bu hefyd yn goruchwylio Cyngor Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, a oedd yn gyfrifol am ymestyn a chydlynu’r gwaith o ddatblygu cerddoriaeth Cymru drwy gyfuno ymdrechion y Brifysgol â gwaith Bwrdd Canol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol. Fe’i gwnaed yn farchog yn 1922.

Cafodd personoliaeth garismataidd Walford Davies, ei egni a oedd i bob golwg yn ddi-ball, a’i allu rhyfeddol i gyfathrebu, ddylanwad enfawr yng Nghymru ac yn enwedig yn Aberystwyth, lle bathodd ei ddywediad enwog, ‘Mae Cymru’n wlad dairieithog: mae hi’n siarad Cymraeg, Saesneg a Cherddoriaeth, ond y fwyaf o’r rhai hyn yw Cerddoriaeth.’ Roedd ei gyngherddau a’i wyliau cerdd yn ddigwyddiadau rhyfeddol, llawn i’r ymylon o bobl y dref a myfyrwyr.

Yn 1924 fe’i penodwyd yn Athro Gresham Cerddoriaeth yn Llundain, ac yn sgil hynny gadawodd Gymru yn 1926. Yn 1927 fe’i gwnaed yn organydd a chôr-feistr yng Nghapel Sant Siôr, Windsor. Roedd yn gynghorydd i’r BBC yn ei ddyddiau cynnar, ac yn 1934 olynodd Elgar fel Meistr Cerddoriaeth y Brenin. Erbyn hynny, am ei ddarllediadau rheolaidd ar werthfawrogi a dadansoddi cerddoriaeth yr oedd yn fwyaf adnabyddus. Roedd ei raglenni’n cynnwys Music and the Ordinary Listener (1926–9), cyfres o ddarllediadau i blant yn ystod y rhyfel (1939–41) ac Everyman’s Music (1940–41). Ef oedd y cyntaf ac un o’r rhai mwyaf effeithiol i ddefnyddio darlledu at y diben hwn. Mae ei lyfr, The Pursuit of Music (1935), yn rhoi cipolwg inni ar yr agwedd hon ar ei waith.

Mae ei weithiau wedi eu catalogio gan H. C. Colles, un o’i ddisgyblion a golygydd y trydydd a’r pedwerydd argraffiad o Grove’s Dictionary of Music and Musicians. Mae’n rhestr sylweddol, ond ar wahân i The March Past of the Royal Air Force a gosodiad o ‘O Little Town of Bethlehem’, y mwyaf hirhoedlog o gyfansoddiadau Walford Davies yw ei anthemau Anglicanaidd gan gynnwys gosodiad o Let us Now Praise Famous Men, a nifer o finiaturau fel Solemn Melody (1908). Y tri gwaith o’i eiddo sydd wedi eu canmol fwyaf yw’r cantatas Three Jovial Huntsmen (1902) a Song of St Francis (1912), a’r oratorio Everyman (1904). Mae’r rhan fwyaf o’r gweithiau eraill wedi mynd yn lled angof, ond mae rhai ysgolheigion wedi nodi bod ei gylchoedd o ganeuon yn teilyngu llawer mwy o sylw. Bu Hubert Parry, ei brif athro yn y Coleg Brenhinol, a Brahms, a edmygai’n fawr ac a gyfarfu yn Ischl yn 1896, yn ddylanwadau mawr ar ei arddull cyfansoddi.

Roedd yn anorfod y byddai personoliaeth garismataidd Walford Davies a’i boblogrwydd mawr yn peri bod rhai yn barod iawn i’w ddifrïo. Roedd llawer yng Nghymru yn meddwl ei fod yn troi’r dŵr i’w felin ei hun ac mai uchelgais personol a oedd yn ei gymell yn bennaf. Yn ddiau roedd yn gorfod rhannu ei amser rhwng nifer o ddiddordebau a chyfrifoldebau ac i raddau roedd hynny’n golygu dewis a dethol y dyletswyddau a ddeuai â mwyaf o sylw a chyhoeddusrwydd iddo.

Roedd yn hysbys fod ei ddarlithydd (cynorthwy- ydd) yn Aberystwyth, y David de Lloyd dawnus a chydwybodol, yn ysgwyddo llawer o’r baich y dylai Walford Davies fod wedi’i rannu: bu croeso cynnes i benodi de Lloyd i olynu Davies yn Aberystwyth. Roedd llawer yn teimlo hefyd fod ei benodi i swydd genedlaethol ym Mhrifysgol Cymru a’r cyfan a ddeuai yn sgil hynny, ac yntau yr un pryd yn Athro yn un o golegau’r Brifysgol, yn creu gwrthdaro rhwng buddiannau. Ar y llaw arall, roedd yn sicr yn ŵr o statws cerddorol aruthrol a chanddo yrfa ddisglair a oedd wedi’i neilltuo’n rhannol i gerddoriaeth Cymru. Nid oes fawr o amheuaeth na roddodd ei bresenoldeb ym Mhrifysgol Cymru am y saith mlynedd wedi diwedd y Rhyfel Mawr hwb pwysig i fywyd cerddorol y genedl. Cadwodd ei le ar Gyngor Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru hyd ei farwolaeth (yn Wrington, Bryste) ac roedd yn adnabyddus am ei gysylltiad â’r wlad.

Trevor Herbert

Llyfryddiaeth

H. C. Colles, Walford Davies: a Biography (Llundain, 1942)
D. I. Allsobrook, Music for Wales: Walford Davies and the National Council of Music 1918–1941 (Caerdydd, 1992)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.