Diwinyddiaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Diwinyddiaeth yw’r wyddor ddeallusol sy’n ymwneud â Duw a’r datguddiad ohono. Yn tarddu o’r Groeg θεολογια (theologia) (theos = Duw, logia = gair), mae’n ymddangos yn gyntaf yn Gymraeg fel ‘difiniti’ (1567), fel ‘difinyddiaeth’ (1651) ac yna fel ‘diwinyddiaeth’ (1799). Er bod gwreiddiau’r ymadrodd Groeg ym myd y duwiau clasurol, erbyn y canrifoedd Cristnogol cynnar daethpwyd i’w hystyried yn uniongyrchol gysylltiedig â Duw’r Beibl. Gan yr Apolegwyr, sef y dosbarth o feddylwyr a aeth ati i gymeradwyo’r ffydd i fyd clasurol yr 2g., y cafwyd y defnydd cyntaf o’r gair yn y cyd-destun hwn, ac erbyn cyfnod Athanasius, esgob Alexandria (c. 297-373), roedd theologia yn cyfeirio at y wybodaeth o Dduw fel yr oedd ynddo’i hun o’i gymharu â’r wybodaeth o Dduw yn ei ymwneud â’r byd. Yn ystod cyfnod y Tadau Cynnar (o’r 2g. hyd at ddiwedd y 5g.), roedd diwinyddiaeth yn rhan o ddisgyblaeth ffydd ac ymarweddiad yr eglwysi Cristnogol ac yn gynsail i ddiffiniad athrawiaethau canolog megis duwdod Crist (y dyfarnwyd ei gywirdeb yng Nghyngor Nicea, 325), dwyfoldeb yr Ysbryd Glân a’r Drindod (Cyngor Gaergystennin, 381) a dwy natur person Crist (Cyngor Chalcedon, 425).

Nid tan yr Oesoedd Canol a gwaith Thomas Acwin (1225-74) yn bennaf y daethpwyd i gyfundrefnu diwinyddiaeth Gristnogol i gynnwys y ddealltwriaeth o bob gwedd ar Dduw yn ei berthynas â’r byd mewn creadigaeth, cadwedigaeth ac eschatoleg. Serch eu hadwaith yn erbyn yr Eglwys Gatholig, derbyniai’r Diwygwyr Protestannaidd y ddealltwriaeth hon ac adeiladant arni. Gyda Martin Luther (1483-1549) rhoddwyd sylw newydd i’r cysyniad o gyfiawnhad trwy ffydd, tra chanolai John Calvin (1509-64), a’r traddodiad sy’n gysylltiedig â’i enw, ar athrawiaeth sofraniaeth Duw. Erbyn yr 17g. daeth Calfiniaeth i fri neilltuol yng Nghymru, ac er gwaethaf adwaith yn dilyn yr Aroleuo a arweiniodd at Ariaeth (y syniad fod Crist heb fod yn gydradd â Duw) a Sosiniaeth neu Undodiaeth (a wrthododd â duwdod Crist yn llwyr), dyfarnwyd yn eang o blaid uniongrededd. Bu’r cysyniad o sofraniaeth Duw ym materion iachawdwriaeth, ac athrawiaeth yr Iawn, mewn bri trwy gydol yr 18g. hyd at ganol y 19g., ond erbyn Oes Victoria pwysleisiwyd mewnfodaeth Duw yn hytrach na’i drosgynnedd ac arweiniodd hyn erbyn dechrau’r 20g. at y Ddiwinyddiaeth Ryddfrydol. Cafwyd adwaith i hynny ar gyfandir Ewrop yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf yng ngwaith Karl Barth (1886-1962) yn bennaf, ac yng Nghymru gyda J. E. Daniel (1902-62) ac eraill.

Un o nodweddion trawiadol yr 21g. yw’r meddwl creadigol sy’n cael ei wneud o athrawiaeth y Drindod (Un Duw yn dri pherson) fel ymateb i her plwraliaeth grefyddol ac aml-ddiwylliannaeth y byd cyfoes.

D. Densil Morgan

Llyfryddiaeth

Edwards, L. (1889), Hanes Duwinyddiaeth (Wrecsam: Hughes a’i Fab).

Jenkins, J. G. (1929), Hanfod Duw a Pherson Crist: Athrawiaeth y Drindod a Duwdod Crist, yn bennaf yn ei pherthynas â Chymru (Lerpwl: Hugh Evans a’i Feibion, 1931).

Jones, J. M. (cyf.) (1926), Martin Luther; Traethodau’r Diwygiad 1520 (Wrecsam: Hughes a’i Fab).

Jones, R. T. (1979), Ffynonellau Hanes yr Eglwys: Y Cyfnod Cynnar (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Morgan, D. D. (1992), Karl Barth (Dinbych: Gwasg Gee).

Morgan, D. D. (1993), Torri’r Seiliau Sicr: Detholiad o Ysgrifau J.E.Daniel ynghyd â Rhagymadrodd (Llandysul: Gwasg Gomer).

Morgan, D. D. (2009), ‘Calfiniaeth yng Nghymru c. 1590-1909: o’r Bala i Genefa’, Cylchgrawn Hanes: Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 34, 37-58.

Morgan, D. D. (2011), ‘O’r Iawn i’r Ymgnawdoliad: cyfraniad diwinyddol Thomas Charles Edwards’, Diwinyddiaeth, 61, 6-27.

Williams, R. (2000), On Christian Theology (Oxford: Blackwell).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.