Eaves, Steve (g.1952)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr-gyfansoddwr a bardd blaenllaw yn hanes canu pop Cymraeg o ganol yr 1980au ymlaen. Ganed Steve Eaves yn Stoke-on-Trent. Bu’n byw a gweithio ar hyd a lled gogledd Cymru am gyfnod cyn symud i gyffiniau Bangor ar ddiwedd yr 1960au. Yn ystod yr 1970au bu’n perfformio mewn clybiau gwerin yn ardal Caer, Wrecsam a Crewe tra’n gweithio fel labrwr. Mentrodd i fyd addysg uwch gan astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ac yna symudodd i Lydaw.

Fel yn hanes Geraint Jarman, daeth i amlygrwydd cynnar fel bardd yn hytrach na cherddor, gan gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth o’r enw Noethni (Gwasg Gwynedd, 1983). Bu’n olygydd ar gasgliad arwyddocaol o eiriau caneuon pop Cymraeg o’r cyfnod, Y Trên Olaf Adref (Y Lolfa, 1984), a gwelir pwyslais ar gyfuno geiriau meddylgar gydag arddulliau megis y blues a roc yn ei ganeuon o’r cychwyn cyntaf. Erbyn iddo gyhoeddi ei ail gyfrol, Jazz yn y Nos (Y Lolfa, 1986), roedd Steve Eaves eisoes wedi sefydlu ei grŵp Steve Eaves a’i Driawd, a oedd yn cynnwys dau o gyn-aelodau’r grŵp Doctor, Elwyn Williams (gitâr) a’r prifardd Iwan Llwyd (gitâr fas). Bu’r ddau yn aelodau parhaol am gyfnod o dros ugain mlynedd, gydag Elwyn Williams yn aml yn cyd-gynhyrchu a chyd-drefnu caneuon Steve Eaves. Richard Wyn Jones (drymiau) oedd aelod parhaol olaf y Triawd yn ystod cyfnod yr 1980au a’r 90au.

Roedd themâu caneuon cynnar Steve Eaves yn aml yn ymdrin â bywyd a chymeriadau o’r dosbarth gweithiol, er enghraifft ‘Hogiau Cyffredin’ a ‘Traws Cambria’ o’i ail record hir, Cyfalaf a Chyfaddawd (Sain, 1985). Yn ogystal, rhoddai rhai o’r caneuon cynnar bwyslais amlwg ar egwyddorion sosialaeth a chomiwnyddiaeth, gan eu plethu yn aml â sylwebaeth ddi-flewyn-ar-dafod ar destunau gwleidyddol yn ymwneud â Chymru a thu hwnt, megis ‘Ché Guevara’ o’r CD amlgyfrannog O’r Gad! (Ankst, 1991). Daeth caneuon megis ‘Nigger Boi John Boi Cymro’ o’r casét Sbectol Dywyll (1989) a ‘Gorllewin Béal Feirste’ o Tir Neb (Cymdeithas yr Iaith, 1990) i sylw’r cyhoedd oherwydd eu testunau dadleuol amlwg – yr olaf o ganlyniad i’r ffaith fod llais un o wleidyddion Sinn Féin, Máirtín Ó Muilleoir, i’w glywed ar y gân, a hynny er gwaethaf gwaharddiad gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan ar y pryd ar ddarlledu lleisiau aelodau’r blaid honno.

Awgryma Sarah Hill fod grym ac arwyddocâd caneuon Steve Eaves yn y ffaith ei fod wedi mabwysiadu elfennau o ideoleg y canu protest Cymraeg, er na chafodd ei fagu yn y Fro Gymraeg (Hill 2007, 90). Mae’n debyg mai cyd-ddigwyddiad oedd hyn, fodd bynnag: ers ei arddegau, roedd y canwr wedi mynychu cyfarfodydd y Blaid Gomiwnyddol a’r ymgyrch wrth-apartheid, ynghyd â phrotestiadau gwrth-niwclear, ac felly sefydlwyd ei ddaliadau gwleidyddol a chymdeithasol ymhell cyn iddo fod yn ymwybodol o’r canu protest Cymraeg. Gwelwyd newid pwyslais ar ddechrau’r 1990au gyda’i ganeuon yn ymdrin â themâu mwy personol, ysbrydol ac athronyddol, megis ‘Rhywbeth Amdani’ a ‘Grymoedd Anweledig’ o’r record hir Croendenau (Ankst, 1992). Ymwthiodd elfennau telynegol i’r arddull gerddorol, er fod yr elfennau hyn i’w clywed yn rhai o’r caneuon cynnar hefyd. Efallai fod y newid arddull yn rhannol o ganlyniad i gyfraniadau cerddorion dawnus megis Jackie Williams (llais) a Dafydd Dafis (llais a sacsoffon). (Mae llais Jackie Williams i’w glywed ar bob record ers Sbectol Dywyll.) Roedd llais merch Steve Eaves, Lleuwen Steffan, i’w glywed hefyd ar yr albwm.

Gwelir dylanwadau Taoaeth ar eiriau rhai o ganeuon Y Canol Llonydd Distaw (Ankst, 1996), ynghyd ag arddulliau jazz a gospel, ac ar ‘Garej Lôn Glan Môr’ clywir llais y bardd a gitarydd bas y grŵp, Iwan Llwyd, yn darllen yn dyner un o gerddi Steve Eaves i gyfeiliant hwylbrennau cychod yn siglo’n ysgafn yn y nos.

Rhwng 1989 ac 1996 recordiodd y canwr yn bennaf yn Stiwdio Les, Bethesda, gyda’r cerddor a’r cynhyrchydd amryddawn Les Morrison, ond recordiwyd yr albwm Iawn (Sain, 1999) ar beiriant recordio digidol symudol. Parhaodd Steve Eaves i gynhyrchu recordiau o safon uchel yn negawd cyntaf y ganrif newydd gyda Moelyci (Sain, 2007). Disgrifia Toni Schiavone Moelyci fel ‘record … sydd yn cyfleu teimladau, angerdd a chariad ac yn gwneud hynny mewn ffordd hollol ddidwyll a gonest’ (Schiavone 2011) – disgrifiad a fyddai’n gwbl addas ar gyfer holl ganeuon Steve Eaves ar hyd y blynyddoedd.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • ¡Viva la Revolución Galesa! (Stiwdio’r Felin, 1984)
  • Cyfalaf a Chyfaddawd (Sain 1341M/C941, 1985)
  • Sbectol Dywyll (SE01, 1989)
  • Plant Pobl Eraill (Ankst 014, 1990)
  • Tir Neb (Steve Eaves/Cymdeithas yr Iaith, 1990)
  • Croendenau (Ankst 028, 1992)
  • Y Canol Llonydd Distaw (Ankst 067, 1996)
  • Iawn (Sain SCD 2218, 1999)
  • Moelyci (Sain SCD2517, 2007)

Casgliad:

  • Ffoaduriaid (Sain SCD2633, 2011)

Llyfryddiaeth

  • Steve Eaves, Noethni (Caernarfon, 1983)
  • ——— (gol.), Y Trên Olaf Adref (Talybont, 1984)
  • ———, Jazz yn y Nos (Talybont, 1986)
  • Sarah Hill, ‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music (Aldershot, 2007)
  • Tony Schiavone, nodiadau clawr ar gyfer y CD Ffoaduriaid (Sain, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.