Ecofeirniadaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cangen o feirniadaeth lenyddol sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng llenyddiaeth a’r amgylchedd yw ecofeirniadaeth. Daeth i’r amlwg tua diwedd yr 20g. wrth i effaith ddinistriol y ddynoliaeth ar yr amgylchedd ddod yn gynyddol amlwg ac wrth i rai beirniaid llenyddol fynnu bod angen astudio’r modd y gall iaith a llenyddiaeth ffurfio gwerthoedd a chysyniadau sy’n arwain at greu niwed ecolegol.

Yn UDA yn y 1970au y bathwyd y term ecocriticism ond nid tan y 1990au y daeth y maes i amlygrwydd yn y wlad honno ac ym Mhrydain. Bu ystyried gweithiau awduron fel Ralph Waldo Emerson (1803–82), Margaret Fuller (1810–50) a Henry David Thoreau (1817–62) yn amlwg iawn mewn trafodaethau cynnar ar ecofeirniadaeth; ysgrifennai’r awduron hyn am natur a gwylltiroedd (‘wilderness’) yn America.

Yn Lloegr, daeth llawer o’r symbyliad cynnar drwy ystyried Rhamantiaeth y 1790au, a gellir nodi astudiaeth Jonathan Bate, Romantic Ecology: Wordsworth and the Environmental Tradition (1991), ymhlith y cyfraniadau cynnar pwysicaf. Ond cyhoeddwyd astudiaethau dylanwadol iawn cyn hynny, yn eu plith gyfrol arloesol y Cymro Raymond Williams (1921–88), The Country and the City (1973). Yn y Gymraeg, gellid dadlau mai wrth ystyried ‘canu natur’ yr Oesoedd Canol y daeth rhai elfennau ar ecofeirniadaeth i amlygrwydd yn gyntaf, er na ddaethpwyd i arddel y term ‘ecofeirniadaeth’ ei hun tan ddechrau’r 21g.

Yn ei chonsýrn am yr amgylchedd mae ecofeirniadaeth yn mynnu bod beirniaid yn ystyried yr hyn sydd y tu hwnt i’r testun. Yn hynny o beth mae’n rhoi ystyriaeth ddyledus i elfennau cyfeiriadol y testun yn arbennig pan fo’r rheini’n ymwneud â’r amgylchedd naturiol. Mae’r pwyslais hwnnw’n wahanol i brif ffrwd theori lenyddol yn y cyfnod diweddar, sydd yn aml yn bwrw amheuaeth ar y berthynas rhwng y testun a’r ‘byd go iawn’.

Fodd bynnag, ni ddylid meddwl am ecofeirniadaeth fel adwaith yn erbyn theori lenyddol ddiweddar. Yn hytrach, gellir meddwl amdani fel maes amlddisgyblaethol nad yw’n cynnig ei fethodoleg benodol ei hun ond sy’n tynnu ar ffeministiaeth, Marcsiaeth, ôl-drefedigaethedd, dadadeiladaeth, seicdreiddiaeth, a hanesyddiaeth newydd (i enwi dim ond rhai meysydd perthnasol). Gellid dadlau bod ecofeirniadaeth yn dibynnu ar ryw fath o gyfaddawd neu gydbwysedd: mae’n mynnu bod realiti’r amgylchedd yn cael ei gydnabod yn llawn, ond mae hefyd yn derbyn yn llwyr fod cysyniadau megis ‘natur’ ac ‘amgylchedd’ yn greadigaethau disgyrsiol.

Yn wir, un o ystyriaethau creiddiol ecofeirniadaeth yw cwestiynu’r cysyniad o ‘natur’. Yn ei gyfrol ddylanwadol Keywords (1983), disgrifiodd Raymond Williams y gair nature fel ‘perhaps the most complex word in the language’. Ar y naill law, gellir derbyn bod y ddynoliaeth — y mamal Homo sapiens — yn rhan o fyd natur, ond ar y llaw arall mae’n gyffredin i’r ddynoliaeth ei diffinio ei hun yn erbyn natur, gan sôn, er enghraifft, am ‘berthynas dyn a natur’. Yn sicr, gweithred ddynol yw diffinio ‘natur’ ac mae yn hynny o beth yn anorfod wleidyddol. Mae cwestiynu agweddau anthropoganolog ein diwylliant, sef y modd y rhagdybiwn mai safbwyntiau a blaenoriaethau’r ddynoliaeth yw’r rhai pwysicaf, yn un o nodweddion ecofeirniadaeth.

Mae ystyried perthynas ‘diwylliant’ a ‘natur’ yn rhywbeth arall sy’n allweddol i’r maes hwn. Gellid cychwyn o safbwynt y Gymraeg drwy nodi bod y gair diwylliant yn tarddu o diwyllio, sy’n golygu aredig neu amaethu. Mae’r gair diwyllio yn ei dro’n cynnwys yr elfennau di– (y rhagddodiad negyddol) a gwyll(t), ac felly’n cyfleu’r syniad mai dileu’r ‘gwyllt’ yw hanfod ‘diwylliant’. Yn yr un modd, gellir archwilio ystyron termau megis ‘cefn gwlad’, cysyniad sy’n cyfuno’r ecolegol/naturiol a’r dynol/diwylliannol mewn modd sy’n bur greiddiol i’r ‘diwylliant’ Cymraeg.

Er mai un o lwyddiannau ecofeirniadaeth fu cynyddu statws ‘ysgrifennu natur’ o bob math (gan gynnwys ysgrifennu taith, ysgrifau a chofiannau), nid yw’r maes wedi ei gyfyngu i destunau o’r fath. Yn wir, gellir dadlau bod gorbwyslais ar y cyswllt rhwng barddoniaeth y Cymry (neu’r Celtiaid) a byd natur yn nodwedd o ddisgwrs trefedigaethol. Yn y 19g., dadleuai beirniaid dylanwadol megis y Sais Matthew Arnold (1822–88) fod perthynas hynod agos gan y bobloedd Geltaidd â byd natur, gan awgrymu bod hynny’n arwydd o’u teimladrwydd a hefyd o’u cyntefigrwydd. Gellir olrhain hadau’r syniad hwn yn ôl cyn belled â’r 12g., pan fu awduron o Loegr (a Gerallt Gymro yntau) wrthi’n cysylltu’r Cymry â chyntefigrwydd a byd natur (mewn gwrthgyferbyniad honedig â diwylliant mwy soffistigedig a threfol y Saeson a’r Ffrancwyr).

Wrth ddadlennu rhagdybiaethau Rhamantaidd a Seisnig Arnold, mae Patrick Sims-Williams ac eraill wedi tanseilio cysyniadau megis ‘Celtic nature poetry’ a fu gynt mor boblogaidd. Yn wir, gan fod Arnold ac eraill tebyg iddo yn grediniol nad oedd lle i’r Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill yn y byd modern, fe welir mor agos oedd y berthynas rhwng gwrth-Gymreictod a’r cysyniad o ‘ganu natur’ a oedd rywsut yn nodweddiadol o’r Celtiaid. (Dyma un elfen o’r hyn y gellid ei alw’n ‘Geltigiaeth’ ormesol.) Roedd gweld y Cymry fel pobl fwy ‘benywaidd’ na’r Saeson yn rhan o’r un clwm o syniadau, ac nid oedd ymagweddu o’r fath yn gyfyngedig i achos Cymru, rhywbeth y gellid ei ystyried drwy gyfrwng beirniadaeth ecoffeminyddol.

Daw’n amlwg, felly, y gall fod perthynas agos rhwng ecofeirniadaeth ac ôl-drefedigaethedd. Mae trefedigaethedd a chyfalafiaeth yn sicr wedi cael effaith andwyol (at ei gilydd) ar yr amgylchedd, a gellid dadlau bod yr un grymoedd wedi tanseilio’r Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw. Yn sicr, mae llenorion Cymraeg yn cyplysu’r ddau beth yn aml, yn arbennig wrth lunio gorffennol a oedd yn gyfoethocach yn ecolegol a hefyd yn Gymreiciach yn ieithyddol. Gall dadansoddiad ecofeirniadol fynd i’r afael ag addasrwydd ymddangosiadol y cyfochri hwnnw. Thema gysylltiedig a welir mewn barddoniaeth Gymraeg yw effaith newidiadau ecolegol ar adnoddau geirfaol yr iaith ei hun. Wrth i rywogaethau brinhau a natur eu perthynas â’r ddynoliaeth newid, daw termau a fu unwaith yn gwbl gyfarwydd i fod yn gynyddol ddieithr.

O safbwynt y Gymraeg, mae ecofeirniadaeth yn faes newydd o hyd ac anodd mesur ei heffaith. Ond mae ganddi’r potensial i fynd i’r afael â thestunau cyfarwydd o’r canon a’u trafod mewn dull newydd. Er enghraifft, gellir yn rhwydd gynnig dadansoddiad ecofeirniadol o gwestiwn yr hen fugail yn nhelyneg enwog Eifion Wyn: ‘Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws?’ Y man cychwyn fyddai nodi’r modd y cyflwynir y dirwedd dan sylw fel petai’n greadigaeth hynafol a digyfnewid. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, buasai moelni eithafol y cwm yn bur ddieithr i’w drigolion lai na chanrif ynghynt. Sut a pham y mae’r gerdd hon yn cuddio’r gweddnewid mawr hwnnw? Yn yr un modd, efallai y gwelwn maes o law destunau a ymylwyd wrth lunio canon ein llenyddiaeth yn derbyn sylw newydd ar sail eu darllen â llygaid ecofeirniadol.

Dylan Foster Evans

Llyfryddiaeth

Clark, T. (2011), Cambridge Introduction to Literature and the Environment (Cambridge: Cambridge University Press).

Foster Evans, D. (2006), ‘Ecoleg a llenyddiaeth Gymraeg’, Llenyddiaeth mewn Theori, 1, 41–79.

Garrard, G. (2011), Ecocriticism, New Critical Idiom, ail argraffiad (London: Routledge).

Garrard, G. (gol.) (2014), The Oxford Handbook of Ecocriticism (Oxford: Oxford University Press).

Jarvis, M. (2008), Welsh Environments in Contemporary Poetry (Cardiff: University of Wales Press).

Lewis, B. J. (2005), ‘Golwg y Beirdd Canoloesol ar Harddwch Natur’, Dwned, 11, 35–63.

Sims-Williams, P. (1996), ‘The Invention of Celtic Nature Poetry’, yn Brown, T. (gol.), Celticism (Amsterdam: Rodopi), tt. 97–124.

Williams, H. (2008), ‘Ecofeirniadaeth i’r Celtiaid’, Llenyddiaeth mewn Theori, 3, 1–28.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.