Edwards, Trefor (1928-2003)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Datgeinydd, hyfforddwr a beirniad yn y byd cerdd dant a llefaru; gŵr a oedd yn meddu ar lais eithriadol. Hanai o Lanuwchllyn, pentref cyfoethog ei ddiwylliant fel yr ardal yn gyffredinol, a bu’n weithgar yn negawdau cynnar Cymdeithas Cerdd Dant Cymru. Un o ‘deulu’r siop’ ydoedd: aeth ati gyda’i frawd Geraint, ei chwaer Heulwen (telynores) a’i ewythr Einion Edwards Tyddyn ’Ronnen, i sefydlu Côr Godre’r Aran yn niwedd yr 1940au.

Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn mynd yn athro i Ysgol Pen-y-gelli, Coed-poeth. Yn ddiweddarach bu’n bennaeth yr adran Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion ac yna yn Ysgol y Berwyn, Y Bala. Safodd fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru ym Maldwyn yn 1966 ac roedd yn gynghorydd sir dros ardal Penllyn yn yr 1980au.

Bu’n llywydd ar Gymdeithas Cerdd Dant Cymru yn yr 1960au a bu’n olygydd ei chylchgrawn, Allwedd y Tannau, ac yn aelod o’i phwyllgor gwaith am rai blynyddoedd. Enillodd sawl gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y cystadlaethau cerdd dant a llefaru. Adlewyrchiad o berthynas agos y ddwy grefft yn ei olwg ef oedd y record Cwlwm Cain (Gwerin, 1979): cyflwyniadau o farddoniaeth gynnar Cymru yn ogystal â goreuon beirdd y cyfnod diweddar. Un o’i gyflwyniadau mwyaf cofiadwy yw cerdd Cynan, ‘Yr Eira ar y Coed’, ar y gainc ‘Bro Derfel’ gan Menai Williams. Ei chwaer, Heulwen Roberts, a oedd yn cyfeilio iddo a byddai ei wraig, Mair, yn cydweithio ag ef ar y gosodiadau.

Bu’n hyfforddi sawl unigolyn a pharti cerdd dant. Ef a sefydlodd Barti Meibion Llafar yn ardal y Parc – parti llwyddiannus ym myd cerdd dant a chanu gwerin yn yr 1970au a’r 1980au. Fe’i derbyniwyd i’r Orsedd yn 1965 ac yna fe’i dyrchafwyd i’r Wisg Wen yn 1999 fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i’r diwylliant traddodiadol Cymreig ac i’r Eisteddfod yn arbennig.

Sioned Webb

Disgyddiaeth

  • Cwlwm Cain (Gwerin SYWD214, 1979)
  • Casgliad o Oreuon Trefor Edwards (Sain SCD2439, 2004)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.