Ellis, Annie (Cwrt Mawr) (1873-1942)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un a wnaeth gyfraniad pwysig i fyd canu gwerin yng Nghymru fel casglwraig ac fel un a ysbrydolodd eraill i ymddiddori yn y maes. Perthynai Annie Ellis (Annie Davies cyn iddi briodi), fferm Cwrt Mawr, Llangeitho, i linach Fethodistaidd David Charles (Caerfyrddin) ar ochr ei thad a llinach y Parch Peter Williams, y diwinydd a’r esboniwr, ar ochr ei mam. Fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond ar brydiau ymwelai â Llundain lle cafodd flas ar fywyd cymdeithasol lliwgar Cymry’r ddinas. Am gyfnod, ymgartrefodd yng nghapel Charing Cross lle cynhaliwyd ymrysonau, eisteddfodau a chyngherddau dan arweiniad y gantores Mary Davies (Mair Mynorydd).

Ym mis Medi 1908 ymaelododd â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac o ganlyniad, daeth ymdrechion Y Canorion yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a’r arfer o gywain alawon traddodiadol yng nghefn gwlad yn fwy cyfarwydd iddi. Yn ogystal, bu dylanwad uniongyrchol ei brawd, John Humphreys Davies (1871–1926), a’i ddiddordeb ef ym myd casglu llawysgrifau, hanes llenyddiaeth Gymraeg a thraddodiad y baledi, yn gyfrwng i’w chyfeirio i faes canu gwerin y genedl. Fel un o gyfeillion a chymwynaswyr Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gwahoddwyd Annie Ellis i fynychu achlysuron Cymreig y myfyrwyr a hyn (ynghyd â darlith gyhoeddus Dr Mary Davies yn Ionawr 1910) a roes fod i’r datblygiadau yn hanes Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn y canolbarth ac a fu’n sbardun i weithgarwch ymarferol yn y maes ymysg trigolion Aberystwyth a’r cylch. Gwelwyd ôl ei dylanwad ac o ganlyniad tyfodd canu traddodiadol Cymru yn fwy amlwg a phoblogaidd yng nghyngherddau wythnosol ‘y Coleg ger y lli’.

Sefydlwyd triawdau a phedwarawdau ymhlith y myfyrwyr yn bennaf i berfformio trefniannau lleisiol o ganeuon brodorol yn seremonïau a chyfarfodydd cyhoeddus Aberystwyth, a daeth eisteddfod flynyddol y Brifysgol, ynghyd â chystadlaethau canu alaw werin a chreu casgliad o alawon traddodiadol anghyhoeddedig, yn arwydd o’r diddordeb cynyddol yn y maes. Dora Rowlands ( Dora Herbert Jones yn ddiweddarach) oedd cantores amlycaf Canorion y Brifysgol yn y cyfnod rhwng 1910 ac 1913, ymgorfforiad o’r adfywiad canu gwerin a oedd ar droed yng Nghymru’r adeg honno, gyda’i dehongliadau o alawon fel ‘Doli’, ‘Yr Hen Erddygan’ a ‘Gwcw Fach’ yn fodd i danio’r diddordeb ymhlith y myfyrwyr eraill. Ar gais Annie Ellis, perfformiwyd detholiad o’r chwaraegan Aelwyd Angharad gan J. Lloyd Williams yn y dref (1911) ond uchafbwynt gweithgaredd cerddorol Y Canorion oedd ymweliad pedwar o fyfyrwyr Aberystwyth â Pharis i berfformio alawon gwerin Cymreig dan gyfarwyddyd Madame Lucie Barbier (athrawes leisiol y Coleg).

Fel prif gynrychiolydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn y canolbarth a chaperone i’r diddanwyr ifanc, teithiodd Annie Ellis yn eu cwmni’n ogystal. Yn yr un modd, bu’n ysbrydoli’r gwaith o gasglu alawon brodorol ymysg trigolion tref Aberystwyth ac yn ardaloedd diarffordd Ceredigion (Tregaron, Llandysul, Pen-uwch a’r cyffiniau) a hithau’n ddolen gyswllt bwysig rhwng casglyddion profiadol y maes (fel y Fonesig Ruth Herbert Lewis) a’r gymdogaeth y gwyddai gymaint amdani. Enwogrwydd Annie Ellis, fel gwraig un o gyn-wleidyddion Rhyddfrydol amlycaf ei gyfnod, a’i chyfeillgarwch â rhai o weinidogion Anghydffurfiol blaenllaw’r genedl, fu’r dylanwad pennaf ar gymeriadau ardal Llandysul. Er na chyhoeddodd Annie Ellis gasgliad personol o ganeuon brodorol, mae ei llawysgrifau, sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn tystio iddi ymdrechu i gofnodi swp ohonynt (yn y Gymraeg ac yn Saesneg) mewn sol-ffa a hen nodiant.

Fel un o is-lywyddion y Gymdeithas Alawon Gwerin roedd yn ymwybodol o bwysigrwydd lledaenu enw da’r Gymdeithas, denu aelodau newydd a sicrhau mwy o gasglyddion ifanc brwdfrydig a fyddai’n barod i gywain alawon traddodiadol mewn gwahanol ardaloedd o Gymru a’u dwyn i sylw J. Lloyd Williams. Gobaith Annie Ellis oedd y deuai cynnyrch y casglyddion hynny yn ddeunydd i’w gyhoeddi ar dudalennau Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac y byddai’n gyfrwng i ymestyn repertoire ac ehangu gorwelion myfyrwyr ac aelodau staff y Coleg.

O safbwynt cerddorol, ymddangosodd droeon yng nghyfarfodydd y Gymdeithas i adrodd hanes ei phrofiad yn casglu yn y canolbarth a phwysleisio’r angen mawr am weithwyr pellach yn y maes. Cafodd gyfle droeon i werthfawrogi dawn Morfydd Llwyn Owen fel cantores, cyfeilyddes a chyfansoddwraig, a bu’n hael ei chefnogaeth i Leila Megàne cyn iddi adael Cymru i astudio ym Mharis. Un o gymwynaswyr y byd cerdd yng Nghymru’r 20g. oedd Annie Ellis – gweithiodd yn dawel a dirwgnach er budd y traddodiad a chyfoethogodd brofiadau cenedlaethau o fyfyrwyr a ddaeth dan ei gofal.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • T. I. Ellis, Thomas Edward Ellis – Cofiant (Lerpwl, 1948)
  • Gwenan Gibbard, Brenhines Powys – Dora Herbert Jones a byd yr alaw werin (Llanrwst, 2003)
  • Wyn Thomas, ‘Annie Ellis Cwrt Mawr, Canorion Aberystwyth a chanu traddodiadol Cymru’, Gwerddon, 2 (Hydref, 2007), 51–86 <www.gwerddon.org>



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.