Emlyn, Endaf (g.1944)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr a chyfansoddwr pwysig a dylanwadol yn hanes canu pop Cymraeg, yn arbennig yn ystod yr 1970au a’r 1980au cynnar. Cafodd ei eni ym Mangor a’i fagu ym Mhwllheli. Cafodd flas cynnar ar ganu roc a rôl wrth wrando ar orsaf radio y Forces Network. Derbyniodd hyfforddiant clasurol, gan chwarae’r ffidil yng Ngherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn ystod yr 1960au cynnar ar yr un pryd â cherddorion megis John Cale a Karl Jenkins.

Ar ddiwedd yr 1960au daeth Endaf Emlyn yn gyflwynydd rhaglenni teledu gyda chwmni HTV gan barhau i ddatblygu ei yrfa fel canwr pop. Ymddangosodd ei dair record gyntaf yn Saesneg ar ôl iddo arwyddo cytundeb gyda label Tony Hatch yn Llundain, M&M. Aeth i stiwdio Abbey Road i recordio ‘Paper Chains’/‘Madryn’ (Parlophone, 1971), a ddilynwyd gan ‘All My Life’/‘Cherry Lill’ (Parlophone, 1972) a ‘Starshine’/‘Where Were You?’ (Parlophone, 1973).

Erbyn i’r olaf o’r senglau hyn ymddangos, fodd bynnag, roedd Endaf Emlyn eisoes wedi troi at ganu yn Gymraeg. Roedd ei record hir gyntaf, Hiraeth (Dryw, 1973), yn gyfuniad o’r traddodiadol a’r modern, o’r alaw werin ‘Lisa Lân’ ac arddull jazz ‘Glaw’ i roc gwladaidd ‘Hogia Ynys Môn’ a’r faled boblogaidd ‘Madryn’ sy’n arwydd o ddylanwad Elton John. Michael Parker oedd y cynhyrchydd, un a fu’n gysylltiedig â recordiau Endaf Emlyn ers y dechrau, a pharhaodd y ddau i gydweithio ar y record hir nesaf, Salem (Sain, 1974). Ystyrir Salem, sy’n seiliedig ar storïau cymeriadau a bortreadir yn llun enwog Curnow Vosper (1866–1942), megis Siân Owen Ty’n y Fawnog ac Ifan Edward Lloyd, yn garreg filltir yn hanes canu pop Cymraeg. Dyma’r albwm ‘cysyniad’ (concept album) cyntaf o’i fath yn Gymraeg, ac er mai technoleg ddigon sylfaenol a chyntefig a ddefnyddiwyd i’w recordio, perthynai crefft a chreadigrwydd amlwg i’r caneuon eu hunain.

Parhaodd Endaf Emlyn i ddatblygu’r record gysyniad gyda Syrffio Mewn Cariad (Sain, 1976), trwy gymryd cymeriad o lun Salem fel man cychwyn ar gyfer stori sy’n ei dywys i bedwar ban byd. Adlewyrchir hyn yn y dylanwadau Eingl-Americanaidd sydd i’w clywed, gan gynnwys arddulliau megis soul a ffync. Er gwaethaf poblogrwydd y gân ‘Macrall Wedi Ffrïo’, ni fu’r record yn gymaint o lwyddiant â Salem, ac aeth pum mlynedd heibio cyn i’r canwr ryddhau ei record hir nesaf.

Yn y cyfamser bu’n aelod o Injaroc, y ‘supergroup’ Cymraeg cyntaf a grëwyd pan ddaeth cyn-aelodau Edward H Dafis a Sidan ynghyd â’r canwr Geraint Griffiths at ei gilydd (fel Emlyn, aeth Griffiths ymlaen i ffurfio’i grŵp ei hun sef Eliffant, yn ogystal â rhyddhau nifer o recordiau hir ar ei liwt ei hun). Rhyddhaodd Injaroc un record hir, Halen y Ddaear (Sain, 1977), gydag Endaf Emlyn yn cyfrannu’r gân ‘Swllt a Naw’, ond byrhoedlog fu’r grŵp.

Aeth Endaf Emlyn ati i ffurfio’r grŵp ffync Jîp gyda’r gitarydd Myfyr Isaac (un o gyn-aelodau’r band roc trwm Budgie), John Gwyn ar y gitâr fas (cyn-aelod o Brân), ynghyd â dau a oedd yn aelodau o grŵp Geraint Jarman – Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Ymdriniai unig record hir Jîp, Genod Oer (Gwerin, 1980), â themâu dinesig, fel y gân ffync ‘Halfway’, ynghyd â thestunau tabŵ, megis y gân deitl.

Roedd clawr Genod Oer yn cyfeirio at record hir Can’t Buy a Thrill (1972) gan y band jazz-roc o America, Steely Dan, ac amlygwyd y dylanwadau hyn ar record unigol olaf Endaf Emlyn o’r cyfnod yma, sef Dawnsionara (Sain, 1981). Dan ofal y peiriannydd Simon Tassano a’r cynhyrchydd Myfyr Isaac, a oedd hefyd yn chwarae gitâr ar y record, gydag Ahmun ar y drymiau a’r amryddawn Pino Palladino ar y gitâr fas, roedd Dawnsionara yn torri tir newydd o ran safon y cynhyrchu, ynghyd â chrefft, cymhlethdod a soffistigeiddrwydd caneuon megis ‘Saff yn y Fro’ a ‘Rola’.

Fodd bynnag, digon llugoer fu ymateb rhai elfennau o’r cyfryngau Cymraeg i Dawnsionara, er i’r record dderbyn sylw y tu hwnt i Gymru, yn Sweden. Yn ystod y degawd nesaf trodd Endaf Emlyn ei sylw at waith cyfarwyddo ffilm a theledu, gan gynnwys y ffilmiau Un Nos Ola Leuad (1991), Gadael Lenin (1992) a’r Mapiwr (1995). Er na fu’n perfformio’n gyson ar lwyfannau Cymru ers dyddiau Jîp ar ddiwedd yr 1970au, gwnaeth ymddangosiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2008, gan ganu nifer o ganeuon oddi ar Salem, ac aeth yn ôl i’r stiwdio yn 2009 i recordio’r albwm Deuwedd (Sain, 2009). Yn 2014, darlledwyd rhaglen ddogfen ar S4C gan gwmni teledu Acme yn olrhain hanes Salem, ddeugain mlynedd ar ôl rhyddhau’r record.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Hiraeth (Dryw WRL537, 1973)
  • Salem (Sain 1012M, 1974)
  • Syrffio (Mewn Cariad) (Sain C551, 1976)
  • Dawnsionara (Sain 1206M, 1981)
  • Deuwedd (Sain SCD2603, 2009)

Casgliad:

  • [gyda Injaroc] Dilyn y Graen (Sain SCD2287, 2001)
  • [gyda Jîp] Halen y Ddaear (Sain C594, 1977)
  • Genod Oer (Gwerin SYWM220, 1980)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.