Epig

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gair diweddar yn y Gymraeg yw 'epig', wedi'i fenthyg o'r Saesneg 'epic' a ddaw yn ei dro drwy'r Ladin o'r gair Groeg 'epos', 'gair, cân'. Golyga fel arfer gerdd hirfaith sy'n adrodd stori am hanes a champau arwyr o'r gorffennol, neu gymeriadau chwedlonol. Mae'r elfen storïol hon yn ei wneud yn derm addas i ddisgrifio canu naratif Ewropeaidd megis y cerddi Groeg cynnar a dadogwyd ar Homer (12-8g. C.C.), neu'r gerdd Hen Saesneg Beowulf (700-1000 O.C.), neu Paradise Lost John Milton (1667). Mwy anarferol yw'r defnydd o'r term i ddynodi gwaith rhyddiaith, megis Táin Bó Cúailgne (9g.) o Iwerddon. Ymhellach i ffwrdd y mae'r cerddi Sansgrit a gadwyd o India gynnar, y Ramayana a'r Mahabharata (8-9g. C.C.) a ddisgrifiwyd gan feirniad Cymraeg yn 1866 fel 'dwy arwrgerdd fawreddog' - y defnydd cyntaf o'r gair hwnnw. Ni ddefnyddir epig i ddisgrifio barddoniaeth gynnar Gymraeg fel Y Gododdin, a hynny yn niffyg yr elfen storïol, naratif sy'n nodweddu'r gweithiau a enwyd uchod. Daethpwyd i arfer y term 'arwrgerdd' fwyfwy wrth i gerddi maith storïol ar destunau Beiblaidd neu destunau hanes (e.e. 'Llywelyn ein Llyw Olaf' gan Elfed 1889) gael eu hybu gan bwyllgorau eisteddfodol.

Erbyn heddiw, mae 'epig', fel enw, wedi dod i olygu gwaith creadigol hir, llawn digwyddiadau sy'n hanesyddol (neu'n lled-hanesyddol) neu'n ffrwyth ffantasi. Enghreifftiau enwog fyddai War and Peace gan Tolstoy, a Petrograd a Paris gan Wiliam Owen Roberts, neu The Lord of the Rings gan J. R. R. Tolkien ac (efallai) Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llywelyn. O fyd ffilm, daw Lawrence of Arabia neu Ben-Hur neu Braveheart i'r meddwl, a chyfresi fel Star Wars a Game of Thrones. Daeth yr ansoddair 'epig' yn gyffredin ar lafar gwlad mewn ymadroddion fel 'taith epig', ac 'epic fail'.

Marged Haycock

Llyfryddiaeth

Foley, J. M. (2011), A Companion to Ancient Epic (Wiley-Blackwell).

Millward, E. G. (1998), Yr Arwrgerdd Gymraeg: ei Thwf a'i Thranc (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.