Ffurfiau, Arferion a Dulliau Canu Gwerin

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mewn rhifyn o Canu Gwerin (cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru) yn 2007, mae gŵr o’r enw John Clough yn sôn am ei fam, Mrs Olwen Clough, a aned yn Nolgellau yn 1920. Clywodd hi amryw o ganeuon, meddai, gan ŵr o Arthog, pentref cyfagos. Un o’r pethau a wnaeth fwyaf o argraff arni oedd dull y gŵr hwn o ganu: ‘Dull arbennig a ddefnyddid bob amser gan Meredith Jones ac un sy’n perthyn i gyfnod llawer cynharach na dauddegau’r ugeinfed ganrif. Yr oedd yn ddull gwahanol iawn i leisiau Dolgellau a’r bobl hynny a gafodd eu hyfforddi i ganu yn y capel. Mae hi’n cofio gweision ffermydd yn canu hen ganeuon mewn arddull sydd bellach wedi diflannu i bob golwg … cenid harmonïau clos, a cheid rhyw fath o floedd neu fanllef (‘whoop’).’ Ar yr un trywydd, mewn erthygl gan Enid P. Roberts ar ‘Hen Garolau Plygain’, ceir y sylw hwn: ‘Adroddir am barti o Fawddwy yn myned i Lanfihangel [-yng-Ngwynfa] ac yn canu mewn dull mor anarferol nes y taerai pawb mai adrodd yr oeddynt’ (Roberts 1954, 54).

Mae’r ddau ddyfyniad yn codi cwr y llen ar fathau o berfformio sy’n ddieithr iawn i oes ddiweddarach, a hefyd ar amrywiaeth y perfformiadau hynny, a oedd yn digwydd ar adeg lle nad oedd fawr ddim dylanwadau allanol. Mae’r dyfyniadau hefyd yn amlygu sut y gall dulliau o ganu newid a datblygu – a cholli llawer o’u natur unigryw yn yr oes fodern wrth i ddylanwadau o’r tu allan ddod yn hollbresennol.

Yn yr awyr agored y byddai llawer o ganu yn digwydd cyn dyfodiad y neuaddau tref a phentref, a chyn bod sôn am ganolfannau celfyddydol. Mewn cyfnod difeicroffon byddai hynny’n sicr o gael effaith ar natur y canu. Yr enghraifft fwyaf amlwg yw’r canu baledi – lle byddai’n rhaid i lais unigol ddenu a dal sylw cynulleidfa ar gornel stryd mewn ffair neu farchnad. Yn yr awyr agored, yn amlwg, y byddai canu gyrru’r ychen yn digwydd, ynghyd ag arferion ac achlysuron fel canu Calennig, hela’r dryw bach, y daplas, y canu haf, canu gŵyl Fair a’r gwyliau Mabsant, heb sôn am y canu Gwasael (y Fari Lwyd – er y gellid dadlau, yn yr achos hwn, fod hanner y parti canu yn y tŷ, yn ‘ateb’ y parti y tu allan), a hefyd lawer o’r canu carolau o gwmpas gwyliau’r Nadolig.

Gyda’r rhan fwyaf o’r achlysuron a nodwyd uchod, yr arferiad oedd crwydro’r wlad o dŷ i dŷ yn cyfarch y trigolion ar gân. Dyna pam mae termau fel ‘canu dan y pared’ a ‘canu yn y drws’ mor gyffredin. Hyd heddiw, mae crwydro’r strydoedd i gnocio drysau a chanu carolau yn dal yn beth cyffredin o gwmpas gwyliau’r Nadolig, ond yr arferiad ymhell i mewn i’r 20g. oedd crwydro’r wlad hyd doriad gwawr a deffro’r trigolion o’u trwmgwsg.

Mewn pentref gwledig fel Efenechtyd, tua’r 1830au, ceir cipolwg ar y diwylliant awyr agored hwn yn nisgrifiad Talhaearn: ‘Rwy’n cofio un tro fy mod wedi prynu pâr o esgidiau teneuon (pumps y’u gelwid y pryd hynny ond paham, nis gwn) i ddawnsio yng Ngŵyl Mabsant Efenechtyd. Erbyn y nos Fercher yr oeddwn wedi gwisgo’r pumps yn rags gwylltion. Nid oedd dim amdani wedyn ond canu gyda’r tannau drwy’r rhelyw o’r wythnos.’

Gellir tybio mai anffurfiol oedd natur y rhan fwyaf o’r perfformiadau cerddorol hyn – ffactor allweddol a oedd yn dylanwadu’n drwm ar arddull y canu. Os nad oedd y perfformiadau yn digwydd yn yr awyr agored, byddent yn digwydd un ai mewn tafarn, mewn llofft stabl, yng ngefail y gof neu mewn cartrefi. Mewn cartrefi y cynhelid y ‘neithior’ – parti priodas – ac weithiau y tu allan hefyd os oedd y tywydd yn caniatáu. Mewn ceginau fferm yn aml y cynhelid ‘noson lawen’, gyda’r pwyslais ar ganu ysgafn a hwyliog. Ar achlysuron o’r fath, hawdd yw dychmygu bod yr ‘hen benillion’ neu’r ‘penillion telyn’ (barddoniaeth syml y werin bobl) yn chwarel hwylus a hollbwysig o ddeunydd addas. Roedd nosweithiau o’r fath yn dal i gael eu cynnal mewn ffermdai fel Perthyfelin yng Nghwm Cywarch, Llanymawddwy, mor ddiweddar â’r 1970au.

Ochr yn ochr â’r perfformiadau anffurfiol hyn, roedd math mwy ffurfiol hefyd – yn neuaddau’r tywysogion ganrifoedd lawer yn ôl, ac yna yn neuaddau’r uchelwyr a’r boneddigion yn ddiweddarach, yn y capeli a’u festrïoedd o’r 19g. ymlaen, ac ar lwyfannau eisteddfodol. Tua diwedd y 19g., gwawriodd oes aur y côr. Ar yr un pryd, tyfodd y piano i fod yn brif offeryn cyfeiliant – anaddas i sefyllfaoedd awyr agored, ond pwrpasol iawn ar gyfer y neuaddau newydd a ymddangosodd ym mhob tref a phentref trwy gydol yr 20g.

Gellid dadlau bod y canu plygain yn gyfuniad unigryw o’r ffurfiol a’r anffurfiol. Mae’n wasanaeth mewn capel neu eglwys lle mae pob unigolyn neu barti yn cael gwrandawiad parchus gan gynulleidfa, ond bod naws anffurfiol hefyd oherwydd nad oes trefn bendant yn cael ei phennu ymlaen llaw a dim siarad o gwbl rhwng y perfformiadau, ac oherwydd natur ‘werinol’ y canu ei hun – heb unrhyw ymdrech amlwg i berffeithio fel yn y traddodiad eisteddfodol nac ôl unrhyw hyfforddiant lleisiol.

Yn ystod yr 20g. y bu’r ffrwydriad mawr mewn gwahanol arddulliau cerddorol, gyda cherddoriaeth gelfyddydol a chanu ‘ysgafn’ (a arweiniodd at arddulliau roc a phop, blues, jazz ac ati) yn disodli’r hen fath o ganu bron yn llwyr, a chyfuniadau o arddulliau a dylanwadau yn dod i’r amlwg nas gwelwyd ar yr un raddfa erioed cyn hynny.

Arfon Gwilym

Llyfryddiaeth

  • Enid P. Roberts, ‘Hen Garolau Plygain’, Trafodion y Cymmrodorion (1954), 51–70



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.