Force Majeure

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Grym na ellir ei wrthsefyll.

Hynny yw rhywbeth sy’n digwydd na ellir amddiffyn rhagddo gan bartïon i gytundeb. Gweithred a grëwyd gan Dduw [dilyw, mellt ac ati, daeargryn] a hefyd a achosir gan ddynolryw [terfysg, gweithredu diwydiannol a llosgi bwriadol].

Yn aml mewn polisïau yswiriant, cytundebau adeiladu mae cyfeiriad penodol i ddifrod/colledion all deillio o ddigwyddiadau force majeure. Gall cymalau o’r fath liniaru neu eithrio cyfrifoldebau contractwyr adeiladau.


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

Construction Contract Law, John Adriaanse, Palgrave Macmillan, trydydd argraffiad, tudalennau 156,185,189,198,201 a 353



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.