Gardd-ddinas

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Tref a ddatblygir gyda dwysedd gymharol isel, gyda’r bwriad o gyfuno manteision bywyd trefol a chefn gwlad; mae’n hunangynhaliol o ran cyflogaeth, masnach, siopau ac amaeth ac yn un o sawl tref ddibynnol [satellite towns] sydd wedi eu grwpio o gwmpas y brif dref.

Fe fathwyd y term, ac yn wir y syniad, gan Ebenezer Howard ym 1898 ac fe wnaethpwyd yn weithredol yn Letchworth ym 1903. Gweler datblygiad Plasdŵr yng ngogledd Caerdydd.


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

Planning Law and Practice, James Cameron Blackhall, Cavendish Publishing, argraffiad 1998, tudalen 3



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.