Genod Droog

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Band hip-hop o Borthmadog oedd y Genod Droog. Fe’i ffurfiwyd yn 2005 gan Dylan Meirion Roberts (Dyl Mei) ac Ed Holden (gynt o Pep Le Pew), y DJ Carwyn Jones, y drymiwr Gethin Evans (gynt o Kentucky AFC) a’r bardd Aneirin Karadog, a oedd wedi perfformio gyda Holden yn Y Diwygiad am gyfnod cyn ymuno â’r band newydd. Daeth yr ysbrydoliaeth am yr enw o gang anystywallt y ‘droogs’ yn ffilm enwog Stanley Kubrick, A Clockwork Orange (1971), a seiliwyd ar nofel dywyll Anthony Burgess o’r un enw a gyhoeddwyd yn 1962. Cyfeiriodd y Super Furry Animals hefyd at yr enw ar eu EP Moog Droog (Ankst, 1995).

O ganlyniad i’w perfformiadau egnïol, eu sain ffres a’u hagwedd hwyliog daeth llwyddiant sydyn i’r grŵp. Yn Hydref 2006 chwaraeodd Genod Droog gig yn Camden, Llundain, fel rhan o’r BBC Electric Proms; ac yng Ngorffennaf 2007 nhw oedd y prif fand yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Enillodd y band ddwy wobr yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru yn 2007 – Band Byw Gorau a Grŵp Mwyaf Poblogaidd Gwrandawyr Radio Cymru – a bu ymddangosiadau rheolaidd ganddynt ar raglen roc S4C, Bandit, yn ystod y cyfnod.

Prin fu’r gwaith a recordiwyd ganddynt, fodd bynnag. Cafodd eu hunig albwm, Ni Oedd y Genod Droog, ei ryddhau ar label Recordiau Slacyr yn Awst 2008 a chafodd adolygiadau ffafriol, ond yn ddiweddarach y flwyddyn honno cyhoeddodd y band eu bod wedi dod i ben ar ôl perfformio yng Ngŵyl Sŵn, Caerdydd. Aeth Gethin Evans ymlaen i chwarae gyda Yucatan; dilynodd Ed Holden yrfa unawdol fel beat boxer ac aeth Dyl Mei i gyfeiriad darlledu ar Radio Cymru.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • Ni Oedd y Genod Droog (Slacyr SLAC0010, 2008)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.