Glerorfa, Y

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Adlewyrchiad o’r diddordeb newydd yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru oedd ffurfio Y Glerorfa ar gyfer cyngerdd yn Galeri, Caernarfon, yn Nhachwedd 2006. Cyngerdd oedd hwn i nodi pen-blwydd Clera, y gymdeithas offerynnau traddodiadol, yn ddeg oed. Roedd Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn westeion arbennig.

Mae’r enw Clerorfa yn gyfuniad o’r gair ‘cerddorfa’ ac enw’r mudiad, Clera. Roedd pedwar o arweinwyr Clera yn gyd-gyfrifol am y gwahanol ‘setiau’ a gyflwynwyd y noson honno: Huw Roberts, Stephen Rees, Robin Huw Bowen a Jeff Hughes. Nifer yr aelodau y noson honno oedd 39, yn ffidlwyr, telynorion, ffliwtwyr a chwaraewyr pibgorn a phibau. Roedd y mwyafrif o’r aelodau yn gynnyrch y gweithdai undydd y bu Clera yn eu cynnal yn gyson mewn gwahanol rannau o’r wlad dros y blynyddoedd blaenorol. Nod y noson oedd cyflwyno gwahanol agweddau ar draddodiad gwerin Cymru – canu gwerin, dawnsio gwerin, ond yn bennaf cerddoriaeth offerynnol.

Nid oedd bwriad pendant ar y pryd i ddatblygu’r syniad o gerddorfa werin ymhellach. Ond roedd y brwdfrydedd a’r cyffro a grëwyd ar y noson yn golygu na ellid osgoi hynny. Penodwyd Stephen Rees a Robin Huw Bowen yn gyfarwyddwyr cerdd ac Arfon Gwilym a Sioned Webb yn swyddogion gweinyddol, ac aed ati o ddifri i drefnu ymarferion mewn canolfannau a oedd yn ganolog i aelodau o’r de a’r gogledd.

Perfformiodd Y Glerorfa yn agoriad swyddogol Canolfan Tŷ Siamas, Dolgellau, yn 2007, ond 2008 a 2009 oedd y ddwy flynedd brysuraf. Ar ôl perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau yng Ngorffennaf 2008, Y Glerorfa oedd un o’r prif enwau fis yn ddiweddarach yng ngŵyl werin ryng-Geltaidd Lorient, Llydaw. Yn 2009 bu cyngherddau yng Nghaerdydd (Canolfan y Mileniwm), Bangor, Caernarfon, Corwen, y Bala (cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol) a’r eilwaith ym Mangor (cyfeilio i Gôr Seiriol yng Nghyngerdd Cyhoeddi’r Ŵyl Cerdd Dant). Dyna’r flwyddyn hefyd y gwnaed recordiad byw o gyngerdd yn Galeri, Caernarfon, a’i ryddhau fel cryno-ddisg ar label Sain (Sain, 2009). ‘Dyma’r cam mwyaf ymlaen i gerddoriaeth draddodiadol ers can mlynedd,’ meddai un o swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd.

Y nifer mwyaf a berfformiodd mewn unrhyw gyngerdd oedd 60. Ond wrth i nifer yr aelodau gynyddu’n gyson bu’n rhaid wynebu problemau strategol ynghylch y modd o gynnal gweithgarwch o’r fath yn y tymor hir, sef dwyn ynghyd gerddorion amatur o bob rhan o Gymru ar y naill law, ac ar yr un pryd gynnal y gweithdai ymarferol a oedd yn sail i’r cyfan. Trafodwyd yr angen am gyllid i gynnal trefnydd rhan-amser, a thrafodwyd rhannu’r Glerorfa yn ddwy, de a gogledd, am gyfran o’r flwyddyn. Ni lwyddwyd i ganfod atebion boddhaol i’r cwestiynau hyn.

Yn 2011 ymddeolodd Stephen Rees fel cyfarwyddwr cerdd ac Arfon Gwilym fel trefnydd. Penodwyd Robin Huw Bowen a Gwenno Roberts yn gyfarwyddwyr cerdd a Siwan Evans yn drefnydd. Yn hytrach nag ymarferion un diwrnod fel cynt, datblygwyd penwythnosau preswyl, a hyd at 2016 bu perfformiadau ym Mhwllheli, Harlech, Bethesda, Rhuthun, yr Wyddgrug (Gŵyl Tegeingl), Dolgellau, Caergybi a’r Bermo.

Arfon Gwilym

Disgyddiaeth

  • Yn Fyw – Live (Sain SCD2607, 2009)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.