Guest, George (1924–2002)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Organydd, athro ac un o arweinyddion corawl pwysicaf ei genhedlaeth, ganed George Howell Guest ym Mangor ar 9 Chwefror 1924.

Daeth ei brofiadau cynnar o berfformio cerddoriaeth eglwysig tra’n fachgen yn canu yng Nghadeirlan Bangor, ac yna yng Nghaer, lle bu’n organydd o dan Malcolm Boyle. Yn dilyn cyfnod gyda’r llu awyr fe dderbyniodd ysgoloriaeth ar gyfer chwarae’r organ yng ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt (1947–51) o dan Robin Orr, gan ddod yn organydd yno’n ddiweddarach. Roedd ei athrawon yng Nghaergrawnt yn cynnwys Boris Ord a Thurston Dart. Daeth Guest ei hun yn ddarlithydd yno rhwng 1956 ac 1982, ac yn organydd i’r brifysgol rhwng 1974 ac 1991. Derbyniodd MusD Lambeth yn 1977, CBE yn 1987, a bu’n llywydd Coleg Brenhinol yr Organyddion (1978–80).

Fe’i cofir yn bennaf am ei waith fel arweinydd côr Sant Ioan, lle bu’n cyfarwyddo’r côr am ddeugain mlynedd (1951–91). O dan ofal Guest fe ryddhaodd y côr dros 60 o recordiadau (gan gwmpasu ystod eang yn cynnwys Beethoven, Byrd, Duruflé, Fauré, Haydn, Langlais, Mozart, Palestrina, Taverner, Tye a Victoria). Roedd sain soniarus y côr i’w chlywed yn arbennig o effeithiol wrth ganu cerddoriaeth o gyfnod y Dadeni. Bu ei ymdrechion i hyrwyddo repertoire gyfoes wrth gomisiynu darnau newydd ar gyfer y côr gan gyfansoddwyr megis Michael Tippett, Herbert Howells a Lennox Berkeley yn fodd i fywiogi’r traddodiad lleisiol Anglicanaidd, ac roedd ei ddylanwad ar arddull berfformio, yn arbennig lleisiau’r bechgyn, yn hynod bwysig.

Roedd yn hoff o ganu cadarn, pwerus ac emosiynol, gan osod pwyslais ar arwyddocâd y testun a’i ystyr. Rhoddai bwyslais ar bwysigrwydd newid ansawdd y llais ynghyd â sicrhau defnydd eang o ddynameg, fibrato lleisiol, a sain fwy ‘cyfandirol’ ei naws. Hyfforddodd genedlaethau niferus o gantorion ac organyddion, ac fe ddaeth nifer o’r rhain yn eu tro yn gerddorion blaenllaw yn eu maes.

Yn seiliedig ar gofnod yn y New Grove Dictionary of Music and Musicians (2001)

Llyfryddiaeth

  • Stanley Webb, ‘The Sound of St John’s’, Gramophone, xlvii (1969–70), 1578–83



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.