Gwawdodyn

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Un o fesurau Cerdd Dafod yw’r gwawdodyn, a cheir dau fath ohono, y gwawdodyn byr a’r gwawdodyn hir. Cyfuniad o ddwy linell o gyhydedd nawban a thoddaid yw gwawdodyn byr, a’r pennill yn unodl drwyddo, er enghraifft:

Henwi’r arglwyddi ar ei gwleddau,
Hanoedd o’r llysoedd a’r iarllesau,
Hi roesai win i hir eisiau – a wn,
Hir yw ei nasiwn, hirion oesau.

Gwawdodyn byr gyda dwy linell ychwanegol o gyhydedd nawban yw gwawdodyn hir.

Alan Llwyd


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.