Harper, John (g.1947)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ysgolhaig, arweinydd corawl a chyfansoddwr. Astudiodd John Martin Harper yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt cyn cwblhau PhD ar gerddoriaeth y cyfansoddwr Eidalaidd Girolamo Frescobaldi (1583–1643) ym Mhrifysgol Birmingham yn 1975. Bu’n ddarlithydd ac informator choristarum yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, rhwng 1981 ac 1990, lle bu’n arwain côr y coleg, cyn ei benodi’n Athro a Phennaeth Adran Cerddoriaeth Prifysgol Bangor rhwng 1991 ac 1998.

Tra ym Mangor, gwnaeth lawer i hyrwyddo a datblygu ysgolheictod ym maes cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig, gan sefydlu ar y cyd gyda’i wraig, y cerddoregydd Sally Harper, Ganolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru. Trefnwyd nifer o gynadleddau a chyhoeddiadau o dan enw’r ganolfan rhwng 1995 a 2005, gan gynnwys y cyfnodolyn Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History (Gwasg Prifysgol Cymru). Gan ymddiddori’n bennaf ym maes cerddoriaeth gynnar, cyhoeddodd lyfr The Forms and Orders of the Western Liturgy (Gwasg Clarendon, 1991), ynghyd â chyfres o recordiadau o gerddoriaeth gorawl Saesneg gyda chôr Coleg Magdalen.

Disgyddiaeth

  • The English Carol (Alpha Collection ACA527, 1984)
  • The English Anthem (c.1830–1900) (Alpha Collection ACA538, 1984)
  • The English Anthem, Volume Two: The Seventeenth and Eighteenth Centuries (Alpha Collection CDCA912, 1990)
  • Christmas Carols from Oxford (Regis Records RRC1190, 1990)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.