Hergest

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp roc acwstig o’r 1970au oedd Hergest. Yr aelodau gwreiddiol oedd Delwyn Siôn [Davies] (llais, gitâr a phiano), Geraint Davies, Derec Brown ac Elgan Ffylip (lleisiau a gitarau). Bu eraill yn perfformio gyda’r band ar wahanol adegau, gan gynnwys aelodau’r grŵp roc Edward H Dafis (Hefin Elis, John Griffiths a Charlie Britton) ynghyd â cherddorion megis Arfon Wyn (gitâr, llais), Geraint Griffiths (gitâr a llais), Alun Thomas (llais), Rhys Ifans (llais a gitâr fas) a Gareth Thomas (drymiau).

Cyfarfu aelodau gwreiddiol Hergest â’i gilydd yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, yn 1971. Roedd y pedwar ohonynt wedi bod mewn grwpiau cerddorol eraill, Derec Brown gyda Galwad y Mynydd o Gaerfyrddin, Geraint Davies gyda Gwenwyn o Abertawe, Elgan Ffylip yn canu’n achlysurol yn Aberystwyth a Delwyn Siôn yn canu’n unigol yn ardal y cymoedd wedi iddo ennill cystadleuaeth bop yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe, yn 1971. Yng Nglan-llyn dechreusant ganu fel pedwarawd gan berfformio caneuon gwreiddiol yn ogystal â rhai Cymraeg cyfoes gan artistiaid eraill. Er fod y pedwar yn byw mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru ac yn dilyn amrywiol lwybrau addysgol a gyrfaol, parhaodd y grŵp am dros wyth mlynedd gan ddod yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd yr 1970au.

O’r cychwyn roedd sŵn Hergest yn seiliedig ar harmonïau agos grwpiau Americanaidd cyfoes fel Crosby, Stills, Nash & Young, ac roedd artistiaid a grwpiau pop Americanaidd eraill megis Simon and Garfunkel, Lovin’ Spoonful a Buffalo Springfield hefyd yn ddylanwad arnynt. Roedd y syniad o grŵp ‘democrataidd’ (cysyniad a oedd yn eu cysylltu ymhellach â Crosby, Stills, Nash & Young) yn bwysig, gyda’r pedwar aelod yn cyfrannu caneuon a chanu rhannau’r prif leisiau fel ei gilydd. Cafodd Hergest y cyfle i berfformio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Hwlffordd yn 1972, yn sesiynau’r cylchgrawn Sŵn ac ar lwyfannau ledled Cymru mewn cyngherddau gyda Dafydd Iwan ac Ac Eraill er budd Cymdeithas yr Iaith.

Rhyddhawyd eu EP Aros Pryd yn 1974, a oedd yn cynnwys eu hymateb i weithgareddau Mudiad Adfer ar y pryd yn y gân ‘Adferwch y Cymoedd’, ac yna flwyddyn yn ddiweddarach, eu record hir gyntaf Glanceri (Sain, 1975). Roedd eu hail record hir, Ffrindiau Bore Oes (Sain 1976) yn adlewyrchu diddordeb y grŵp mewn defnyddio lleoliadau penodol fel catalydd ar gyfer llunio caneuon hiraethus, hunangofiannol, megis ‘Cwm Cynon’ a ‘Dinas Dinlle’. Roedd yr arddull delynegol, roc-werin yn gweddu i’r testunau hyn, a llwyddwyd mewn caneuon megis ‘Ugain Mlynedd yn Ôl’, ‘Hirddydd Haf’, o’u trydedd record hir o’r un enw (Sain, 1977) a’u cân ffarwél ‘Dyddiau Da’ o’u record olaf, Amser Cau (Sain, 1978), i greu delweddau effeithiol iawn o ieuenctid wedi ei liwio mewn sepia cerddorol hiraethus.

Arwydd o’r ymdeimlad cymunedol ym myd roc Cymraeg yr 1970au oedd y ffaith fod aelodau Hergest hefyd yn gysylltiedig, ar wahanol adegau, gyda grwpiau eraill y cyfnod. Wrth iddynt gyrraedd eu hanterth, yn haf 1974 cymerodd Delwyn, Geraint Davies ac Elgan Ffylip ran yn y sioe Nia Ben Aur, yr ‘opera roc’ gyntaf yn y Gymraeg, a hynny gyda rhai o sêr eraill y cyfnod megis Heather Jones, Edward H. Dafis, Ac Eraill a Sidan.

Yn wahanol i nifer o grwpiau’r cyfnod, a dueddai i atgynhyrchu sain fyw ar record, Hergest oedd un o’r grwpiau cyntaf i gyfansoddi gydag adnoddau’r stiwdio mewn golwg. Roedd eu harddull werin-roc yn pwysleisio harmonïau lleisiol clos a haenau o gitarau acwstig, ynghyd â sain piano Delwyn Siôn ar adegau, ac o ganlyniad roedd sain eu recordiau yn anodd i’w hatgynhyrchu ar lwyfan. Bu cryn hyblygrwydd yn aelodaeth y grŵp dros y blynyddoedd a byrhoedlog fu ei barhad. Bu anghydweld o fewn yr aelodaeth ynglŷn â chyfeiriad y band ac fe ymadawodd Derec Brown am gyfnod i ymuno â Cwrwgl Sam am nad oedd y band yn symud i gyfeiriad mwy trydanol. Aeth ymlaen i ffurfio Derec Brown a’r Racaracwyr gan ryddhau’r record hir Cerdded Rownd y Dre (Sain, 1983).

Er mai pedwarawd oedd Hergest yn ei hanfod, ar brydiau roedd yn driawd, weithiau’n cynnwys drymiau a bas, a phiano dro arall; perfformiai ambell waith gyda Derec Brown, dro arall hebddo; ar adegau roedd yn acwstig, ac ar adegau eraill yn drydanol. Ond, er hynny, yr un oedd y sail: cerddoriaeth heulog, dde-Galiffornaidd gyda thinc o hiraeth hafaidd Cymraeg.

Sarah Hill a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Hergest [EP] (Sain 31, 1973)
  • Aros Pryd [EP] (Sain 42, 1974)
  • Glanceri (Sain 1028M, 1975)
  • Ffrindiau Bore Oes (Sain 1054M, 1976)
  • Hirddydd Haf (Sain 1102M, 1977)
  • Amser Cau (Sain 1127M, 1978)
  • Hergest – Casgliad o Ganeuon 1975–1978 (Sain SCD4066, 1991)
  • Hergest – Y Llyfr Coch (Casgliad) (Sain SCD2630, 2010)

[yn ymddangos ar]

  • Tafodau Tân! (Sain H1007, 1973)
  • Lleisiau (Adfer 1, 1975)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.