Hogia'r Wyddfa

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Hogia’r Wyddfa oedd y grŵp canu harmoni clos mwyaf llwyddiannus yn hanes canu poblogaidd Cymraeg. Dechreuodd fel triawd yn yr 1960au cynnar gydag Elwyn Jones (bas), Arwel Jones (tenor) a Myrddin Owen (tenor). Yn ddiweddarach ymunodd Richard [Dic] Jones (piano) a Vivian Williams (gitâr). O’r 1990au ymlaen, bu’r pianydd amryddawn Annette Bryn Parri yn cyfeilio iddynt.

Er bod dylanwad Americanaidd grwpiau megis The Everly Brothers ar eu chwaeth gerddorol yn y dyddiau cynnar, cawsant hefyd eu hysbrydoli gan fandiau Cymraeg fel Hogia Llandegai, Hogia Bryngwran, Aled a Reg, ac, yn bennaf, Triawd y Coleg. Eu dawn amlycaf oedd gosod barddoniaeth gyfarwydd gan feirdd megis R. Williams Parry (‘Tylluanod’, ‘Eifionydd’), Cynan (‘Aberdaron’) a T. H. Parry Williams (‘Y Ferch ar y Cei yn Rio’) ar alawon newydd, neu ddefnyddio cerddi newydd beirdd lleol megis Rol Williams ar gyfer eu harmonïau swynol. Nid oedd eu harfer o osod cerddi enwog at ddant pawb a chawsant eu cyhuddo gan rai puryddion llenyddol o lastwreiddio clasuron barddoniaeth Gymraeg.

Yn eu dyddiau cynnar, ystyriai Hogia’r Wyddfa eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol i fyd canu pop Cymraeg. Llwyddasant i feithrin cynulleidfaoedd eang mewn neuaddau dirifedi yn y gogledd a’r de. Cynhwysai eu set elfennau o’r hen noson lawen, er nad oedd sgetsys a jôcs yn acen gref Llanberis yn llwyddo i daro deuddeg ymhob man. Daeth cyfle iddynt ymddangos ar y teledu ar raglenni megis Disg a Dawn a rhoddodd cyngherddau Pinaclau Pop gyfle iddynt berfformio o flaen cynulleidfaoedd o hyd at ddwy fil o bobl. Cryfhaodd apêl eu recordiau a’u caneuon ymhellach yn nyddiau cynnar Radio Cymru, yn enwedig drwy gyfrwng rhaglenni Hywel Gwynfryn.

Derbyniodd Myrddin gryn lwyddiant y tu hwnt i Hogia’r Wyddfa hefyd fel un rhan o’r ddeuawd boblogaidd Rosalind a Myrddin, gyda Rosalind yn aelod cyn hynny o’r Perlau. Rhyddhawyd pedair record hir gan y ddeuawd rhwng 1979 ac 1986.

Dros gyfnod maith eu bodolaeth, teithiodd Hogia’r Wyddfa dramor, mor bell ag Awstralia, yr Almaen, yr Unol Daleithiau, Canada a Nigeria, yn aml i berfformio o flaen Cymry alltud. Hogia’r Wyddfa hefyd yw’r grŵp a werthodd y nifer mwyaf erioed o recordiau ar label Sain.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • Hogia’r Wyddfa [EP] (Wren Records WRE1048, 1968)
  • Rhif 4 [EP] (Wren Records WRE1079, 1969)
  • Mr Pwy a Ŵyr [EP] (Wren Records WRE1105, 1971)
  • Hogia’r Wyddfa (Wren Records WRL538/S, 1972)

Casgliadau:

  • Goreuon Hogia’r Wyddfa (Sain SCD4094, 1991)
  • Pigion Disglair (Sain SCD2569, 2007)
  • Y Casgliad Llawn (Sain SCD2693, 2013)
  • [yn ymddangos ar] Y Bois a’r Hogia (Sain SCD2578, 2010)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.