Homili

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Y gair Groeg ὸμιλία a rydd inni’r gair ‘homili’, a’i ystyr wreiddiol oedd ‘chwedleua’ neu ‘ymddiddan’: fe’i defnyddir i olygu hynny yn Luc 24.14, yn yr Actau 24.26, ac yn I Corinthiaid 15.33. Yna defnyddiwyd ef gan y Tadau Eglwysig i olygu traethiad, sef esboniad ar destun Beiblaidd, traethiad sydd, o ran ei adeiladwaith, yn llai ffurfiol na phregeth. Lle yr oedd i bregeth ragymadrodd, pennau, a chasgliad, truth seml oedd yr homili. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, pan oedd yr awdurdodau eglwysig yn Lloegr a Chymru yn ceisio sefydlu Protestaniaeth yr Eglwys Anglicanaidd, er lleshad y cynulleidfaoedd nad oedd gan eu hoffeiriaid plwyf drwyddedau i bregethu, cyhoeddwyd dwy gyfrol o gyfansoddiadau y gallai clerigwyr cymharol ddi-ddysg eu darllen o’u pulpudau, y naill yn 1547 a’r llall yn 1563, ac yn eu teitlau hwy ni wahaniaethir rhwng pregeth a homili: Certaine sermons or homilies appointed to be read in churches ..., ebe wyneb-ddalen y gyntaf. Pan gyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg Edward James ohonynt yn 1606, fe’i cyhoeddwyd o dan y teitl Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i’w darllein ymhob eglwys blwyf ... er adeiladaeth i’r bobl annyscedig. Pregethau, sylwer, heb y ‘neu homilïau’. Ond y mae’n arwyddocaol mai fel ‘Llyfr yr Homilïau’ yr adwaenid y gyfrol ar lawr gwlad am ganrifoedd, gan awgrymu bod pregeth a homili yn gyfystyr i’r rhan fwyaf o bobl.

Os gwahaniaethu, gellir maentumio bod pregeth yn gymhlethach na homili, yn fwy athrawiaethol ei chynnwys, tra bod homili yn symlach ac yn ‘araith foeswersol’, ys mynn Geiriadur Prifysgol Cymru. Yr homilïwr enwocaf a godidocaf yn llenyddiaeth y Cymry yw Emrys ap Iwan, y dywedodd ei olygydd ‘fod ei Homilïau [a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1906] yn llwythog o gyfarwyddiadau, cynghorion, rhybuddion, ïe a cheryddon hefyd’. Y maent yn ogystal yn llwythog o feirniadaeth foesol, o farn wleidyddol, o fawl ac o goegni, ond nid ydynt fymryn yn symlach na’i bregethau. Ef a ddewisodd y teitl Homilïau; golygyddion eraill, dipyn wedi’i farw, a ddewisodd y teitl Pregethau (nid oes ddyddiad i’r cyhoeddiad hwn) i gyfrol arall o’i gynnyrch pulpudaidd. Awgrym Saunders Lewis yw bod Emrys ap Iwan wedi dewis ei alw’i hun yn ‘homilïwr’ am ei fod yn cyfleu ystyr y gair Ffrangeg ‘moraliste’. A dyna ni’n ôl yn datgan unwaith eto fod a wnelo’r homili â moeswers.

Derec Llwyd Morgan

Llyfryddiaeth

Jones, R. A. (Emrys ap Iwan) (1906), Homilïau (Dinbych: John Morris, Trefnant a Henry Williams, Plas-y-Ward).

Jones, R. A. (Emrys ap Iwan) (1909), Homilïau. Ail gyfres. (Dinbych: Gee a’i Fab).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.