Iechyd a Lles, Cerddoriaeth mewn

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae tarddiad cerddoriaeth mewn iechyd a lles yn ei chyd-destun mwyaf sylfaenol yn dyddio yn ôl i gyfnod y Groegiaid cynnar (Savill 1958, Horden 2000). Deillia hyn o syniadau, damcaniaethau a chredoau a amlygir yn astudiaethau athronwyr Groegaidd megis Plato (Evans 1956) ac Aristoteles (Mark 2002) sy’n honni bod i gerddoriaeth bwerau eang, a’r gallu i ddylanwadu ar gorff ac enaid. Honna West (2000) i’r pwyslais a roddwyd ganddynt ar gerddoriaeth mewn bywyd a chymdeithas baratoi’r ffordd ar gyfer y defnydd o gerddoriaeth mewn cyd- destun therapiwtig.

Er hyn, cydnabyddir diwedd y 19g. fel y cyfnod a osododd y sail ar gyfer datblygu proffesiwn modern therapi cerdd (Tyler 2000). O’r cyfnod hwn y dyddia un o enghreifftiau cynharaf Prydain o ddigwyddiadau cerddorol mewn ysbytai. Yn 1891, sefydlodd y Canon Frederick Harford ensemble o’r enw ‘Guild of St. Cecilia’, a deithiai o amgylch nifer o ysbytai Llundain i berfformio i gleifion. Ceir cofnod o’r perfformiadau mewn cyfnodolion o’r cyfnod (e.e. Harford 1891) a pharhaodd yr arlwy hyd farwolaeth Harford yn 1906.

Gwelwyd y datblygiadau arwyddocaol nesaf yn y maes yn ystod y ddau ryfel byd, pan gafwyd defnydd helaeth o gerddoriaeth mewn ysbytai er mwyn codi morâl milwyr a chleifion. Yn dilyn effeithiolrwydd cerddoriaeth mewn ysbytai yn ystod y cyfnod hwn, dechreuwyd cydnabod Therapi Cerdd fel galwedigaeth broffesiynol ym Mhrydain, a defnyddiwyd cerddoriaeth mewn ysbytai meddwl gan arbenigwyr ym myd seicotherapi (Tyler 2000). Arweiniodd hyn at sefydlu’r Society for Music Therapy and Remedial Music yn 1958, a newidiwyd i’r British Society for Music Therapy yn 1967 (Darnley-Smith & Patey 2003), gan y cerddor Ffrengig, a’r arloeswraig ryngwladol ym maes therapi cerdd, Juliette Alvin (1897–1982). Hithau hefyd ddatblygodd y cwrs cyntaf mewn Therapi Cerdd ym Mhrydain yn 1968, a hwnnw’n gwrs ôl-radd yn y Guildhall yn Llundain (Darnley-Smith & Patey 2003). Yn y cyfnod hwn yn ogystal, sefydlwyd elusennau a ddarparai gerddoriaeth mewn lleoliadau gofal iechyd ar draws Prydain e.e. Music in Hospitals a ffurfiwyd yn 1948, ac yn ddiweddarach Live Music Now a ffurfiwyd yn 1977 gan y cerddor Yehudi Menuhin (1916–99), dwy elusen sy’n parhau yn weithgar yn y maes hyd heddiw.

Erbyn diwedd yr 20g., gwelwyd cynnydd yn y gydnabyddiaeth ryngwladol a roddwyd i broffesiwn Therapi Cerdd. Datblygwyd nifer o gyrsiau ôl-radd newydd yn y pwnc ar draws Prydain yn yr 1990au, ac yn 1996 derbyniodd Therapi Cerdd statws proffesiynol ym Mhrydain wrth i therapyddion cerdd gael cofrestru’n wladol am y tro cyntaf (Tyler 2000). Ar hyn o bryd ceir saith o gyrsiau Ôl-radd Therapi Cerdd ym Mhrydain (British Association of Music Therapy: https://www.bamt.org/training-in-music-therapy.html) gydag un o’r rhain wedi eu lleoli ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd. Ceir rhwydweithiau Therapi Cerdd cenedlaethol a rhyngwladol niferus, a cheir cyfleoedd eang i rannu ymchwil yn y maes drwy gyfrwng cynadleddau a chyfnodolion rhyngwladol (World Federation of Music Therapy: http://www.musictherapyworld.net).

Mae Therapi Cerdd yn un gangen gydnabyddedig amlwg o faes cerddoriaeth mewn iechyd a lles, ond ers troad yr 21g., rhoddwyd mwy o bwyslais ar bwysigrwydd ymchwil i gydnabod rôl cerddoriaeth ym maes iechyd yn gyffredinol. Un o’r gweithiau allweddol cyntaf sy’n croniclo ac yn cydnabod yr ymchwil ymarferol yn y maes o safbwynt meddygol yw gwaith Rosalia Staricoff o Ysbyty Chelsea a Westminster, ar gyfer Cyngor Celfyddydau Lloegr (Staricoff 2004). Yn yr ymchwiliad hwn, edrychir ar 385 o gyhoeddiadau meddygol rhyngwladol rhwng 1990 a 2004. Daw Staricoff i gasgliadau pwysig sy’n dangos effaith y celfyddydau ar wahanol agweddau o iechyd a lles. Nodir y gall y celfyddydau ddylanwadu’n ffafriol ar ganlyniadau clinigol, gan leihau pwysau gwaed, straen a gofid meddwl.

Nodir hefyd fod cerddoriaeth yn benodol yn effeithiol mewn amrywiol leoliadau arbenigol o fewn i’r Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys mewn unedau gofal dwys, unedau cardiofasgwlaidd, unedau babanod, unedau gofal canser ac mewn unedau llawdriniaethol amrywiol. Mae budd y celfyddydau ym maes iechyd meddwl yn un o’r prif ganfyddiadau a wneir, gyda cherddoriaeth yn benodol yn profi i fod yn llwyddiannus gyda chyflyrau megis Dementia ac Alzheimer. Yn ogystal, dengys ymchwil fod cerddoriaeth yn gallu dylanwadu’n ffafriol ar hyfforddiant, addysg a hapusrwydd staff yn eu gwaith bob dydd (Staricoff 2004).

Ers cyhoeddiad Staricoff gwelwyd toreth o adroddiadau llywodraethol, yn ogystal â chyfrolau ymchwil sy’n cydnabod pwysigrwydd cerddoriaeth wrth hybu iechyd a lles mewn bywyd bob dydd, ac fel modd o atal salwch a gwaeledd. Yn 2012, honna Macdonald et al. (2012) yn un o’r cyfrolau mwyaf allweddol sy’n cloriannu twf a datblygiad y maes mewn cyd-destun amlddisgyblaethol yn yr 21g., fod maes cerddoriaeth mewn iechyd a lles yn mynd ymhell y tu hwnt i therapi cerdd a cherddoriaeth mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae addysg gerddorol, y defnydd cyffredinol o gerddoriaeth yn y gymuned, a cherddoriaeth mewn bywyd bob dydd, oll yn cael eu hystyried yn berthnasol i iechyd a lles bellach.

Cafwyd datblygiad allweddol yn y maes yng Nghymru yn 2009, pan gyhoeddwyd Y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles: Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru (Cyngor Celfyddydau Cymru, 2009), cyhoeddiad a oedd yn benllanw cyfnod hir o ymchwilio a chywain gwybodaeth ar lefel genedlaethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru (Ifan, 2012a). Yn y cynllun gweithredu – y trydydd brif gyhoeddiad a wnaed gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n canolbwyntio ar y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles – amlinellwyd pwysigrwydd y maes yng Nghymru, a’r modd y dylid mynd ati i ddatblygu’r arlwy i’r dyfodol. Fodd bynnag, yn sgil y cyni economaidd a brofwyd ers cyhoeddi’r cynllun, ni wireddwyd nifer helaeth o’r camau a nodir yn y cynllun oedd yn angenrheidiol ar gyfer cryfhau a sefydlogi’r arlwy.

Er hyn, gellir honni iddo esgor ar gyfnod cyffrous iawn yn natblygiad y maes yng Nghymru. Ers cyhoeddi’r cynllun gweithredu, datblygwyd nifer o brosiectau cerddorol pwysig ar lawr gwlad. Rhoddir pwyslais cynyddol ar fuddion canu corawl a chyd-ganu yn benodol mewn cyd-destun iechyd (Ifan 2012b), ac o’r herwydd mae nifer o elusennau cydnabyddedig wedi buddsoddi mewn rhaglenni corawl a cherddorol er budd cleifion, megis grwpiau ‘Singing for the Brain’ y Gymdeithas Alzheimer, a chorau ‘Sing with Us’ elusen Tenovus. Mae’r ymchwil a wneir i effaith prosiectau o’r fath (gw. Williams 2012 a 2017) yn prysur ddwyn sylw a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd y maes. Bydd canlyniadau’r ymchwil yn gwbl allweddol wrth fraenaru’r tir ar gyfer datblygiad pellach cerddoriaeth mewn iechyd a lles yng Nghymru i’r dyfodol.

Gwawr Ifan

Gwefannau

Llyfryddiaeth

  • Frederick K. Harford, ‘Music in Illness’ [llythyr i’r golygydd], The Lancet (4 Gorffennaf 1891), 43
  • Agnes Savill, ‘Music and medicine’, Music and Letters, 4/3 (Gorffennaf, 1923), 282–89
  • Plato (cyf. D. Emrys Evans), Y Wladwriaeth (Caerdydd, 1956)
  • Helen Tyler, ‘Music Therapy in Modern Britain’ yn Horden (gol.), Music as Medicine: The History of Music Therapy since Antiquity (Aldershot, 2000), 375–94
  • Martin West, ‘Music Therapy in Antiquity’ yn Horden (gol.), Music as Medicine: The History of Music Therapy since Antiquity (Aldershot, 2000), 51–68
  • Michael L. Mark (gol.), Music Education: Source Readings from Ancient Greece to Today (Llundain, 2002)
  • Rachel Darnley-Smith & Helen M. Patey, Music Therapy (Llundain, 2003)
  • Rosalia Staricoff, Arts in Health: A Review of the Medical Literature (Llundain, 2004)
  • Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles: Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru (Caerdydd, 2009)
  • Gwawr Ifan (a), ‘Modd i fyw: Golwg ar gerddoriaeth mewn iechyd a lles yng Nghymru’ (traethawd PhD Prifysgol Bangor, 2012)
  • ——— (b), ‘“Un Llef Pedwar Llais”: Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru’, Gwerddon, 10/11 (2012), 15–39
  • Raymond Macdonald, Gunter Kreutz & Laura Mitchell, Music, Health, & Wellbeing (Rhydychen, 2012)
  • Nia Davies Williams, ‘“Y Golau a Ddychwel”: Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru’, Gwerddon, 10/11 (Awst, 2012), 113–131
  • ———, ‘Canu i’r Cof: Effeithiau prosiect “Singing for the Brain” ar gof ac ansawdd bywyd pobl sydd â dementia yng ngogledd Cymru’, Gwerddon, 23 (Mawrth 2017), 36–57



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.