Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822-77)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor a golygydd a ddylanwadodd yn fawr ar ddatblygiad y traddodiad cerddorol yn y 19g. Fe’i ganed yn Nhanrhiwfelen, Capel Seion ger Aberystwyth ar 27 Rhagfyr 1822, ond cafodd ei fagu yn ardal Penllwyn ac wedyn ger Goginan yn nyffryn Melindwr; ei ffugenw gwreiddiol oedd ‘Ieuan Gwyllt Gelltydd Melindwr’. Bu’n gweithio yn nhref Aberystwyth am gyfnod a dod dan ddylanwad traddodiad cerddorol capel y Tabernacl, lle’r oedd Pencerdd Ceredigion (Edward Edwards; 1816–98) yn arweinydd. Cafodd hyfforddiant athro yn Llundain ond aflwyddiannus fu ei ymdrechion i gadw ysgol. Yn 1852 symudodd i Lerpwl yn is-olygydd papur newydd Yr Amserau, lle datblygodd ei sgiliau golygyddol a newyddiadurol. Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl byddai’n mynychu cyngherddau yn y Neuadd Ffilharmonig ac hefyd yn teithio i Lundain i glywed perfformiadau yno; sylwebai ar y rhain yn y wasg dan y ffugenw Arthur Llwyd. Yn 1858 symudodd i Aberdâr i olygu Y Gwladgarwr cyn cael ei sefydlu’n weinidog ym Mhant-tywyll ger Merthyr Tudful, a chael ei ordeinio yn 1861. Symudodd i Lanberis yn 1865 ac ymddeol yn 1869 i’r Fron ger Caernarfon, lle bu farw ar 14 Mai 1877.

Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl dechreuodd gasglu emyn-donau o amrywiol ffynonellau, gyda’r bwriad o ddarparu casgliad o emyn-donau safonol, ‘tonau gorau’r byd’, a fyddai’n fodd i godi safon canu cynulleidfaol. Ceisiai olrhain y tonau i’w tarddiad gwreiddiol, er mai fersiynau o ffynonellau diweddarach a gyhoeddodd yn aml. Ymddangosodd Llyfr Tonau Cynulleidfaol yn 1859 a chafodd dderbyniad brwd, nid yn unig oherwydd safon a newydd-deb y casgliad ond am ei fod ei ymddangosiad yn cyd-fynd â diwygiad crefyddol 1859 a arweiniodd at dwf yn niferoedd cynulleidfaoedd. Adargraffwyd y casgliad sawl gwaith; cyhoeddwyd Ychwanegiad yn 1870 a chafwyd argraffiad cyfansawdd yn cynnwys y casgliad gwreiddiol a’r ychwanegiad yn 1876.

Ym Mawrth 1861 sefydlodd Y Cerddor Cymreig, y cylchgrawn cerddorol Cymraeg cyntaf o bwys, a ymddangosodd yn fisol hyd ddiwedd 1873. Anelai Ieuan at adlewyrchu safonau’r Musical Times, a chynhwyswyd atodiad cerddorol gyda phob rhifyn, a roddai gyfle i gyfansoddwyr Cymreig gyhoeddi gweithiau corawl syml. Bu’r rhain yn fwyd maeth i’r traddodiad corawl a oedd yn datblygu yn y cyfnod hwn. Roedd Y Cerddor Cymreig hefyd yn cynnwys newyddion am ddatblygiadau a gweithgarwch cerddorol yng Nghymru a’r tu hwnt, a gwersi mewn cynghanedd a brofodd yn werthfawr i egin gyfansoddwyr amatur. Tua’r un adeg perswadiwyd Ieuan gan Eleazar Roberts o werth cyfundrefn y Tonic Sol-ffa, a bu’n ei hybu trwy gyfrwng Y Cerddor Cymreig a’r cylchgrawn Cerddor y Tonic Sol-ffa a olygodd o 1869 hyd 1874.

Er i Ieuan gyfansoddi rhai clasuron o emyn- donau, megis ‘Moab’, ‘Liverpool’ a ‘Rheidol’, a mân weithiau eraill, ei gyfraniad pennaf oedd fel golygydd ac addysgwr. Yn ei anterth cafodd Y Cerddor Cymreig ddylanwad mawr ar genhedlaeth gyfan o gerddorion a ddaeth i amlygrwydd yn ddiweddarach, megis D. Emlyn Evans (1843–1913) a David Jenkins (1848–1915). Yn yr un modd fe fu’r Llyfr Tonau Cynulleidfaol yn hwb i ddatblygiad canu cynulleidfaol pedwar llais ac yn sylfaen i draddodiad y gymanfa ganu a ddatblygodd wedi 1859 dan arweiniad Ieuan ac eraill.

Rhidian Griffiths

Llyfryddiaeth

  • J. Eiddon Jones, Ieuan Gwyllt: ei fywyd, ei lafur, ei athrylith… (Treffynnon, 1881)
  • T. J. Davies, Ieuan Gwyllt, 1822–1877 (Llandysul, 1977)
  • Rhidian Griffiths, ‘Y gymanfa ganu: ei gwreiddiau a’i natur’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, 2/9 (1986– 7), 273–83
  • ———, ‘”Y cyfansoddwr gorau”: Ieuan Gwyllt a’r alaw Gymreig’, yn Sally Harper a Wyn Thomas (goln.), Cynheiliaid y Gân: Ysgrifau i Anrhydeddu Phyllis Kinney a Meredydd Evans (Caerdydd, 2007), 93–105
  • ———, ‘Ieuan Gwyllt a’r “Llyfr Tonau Cynulleidfaol”, 1859’, Y Traethodydd, 167 (2012), 30–44



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.