Ifan, Tecwyn (g.1952)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Bu’r proffwyd Amos a’r bardd Waldo Williams yn ddylanwadau yr un mor bwysig ar y gweinidog-ganwr Tecwyn Ifan ag y bu cenedlaetholdeb yr 1960au a hynt brodorion cyntaf gogledd America. Fe’i ganed yn fab y mans yn 1952 pan oedd ei dad, y Parch Vincent Evans, yn weinidog yn Ystalyfera. Symudodd y teulu o Gwm Tawe i Ddyffryn Taf a mynychodd Tecwyn Ifan (‘Tecs’ i’w gyfoedion) Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ynghyd â’i frawd Euros Rhys a thair o ferched ardal Login, roedd yn aelod o’r grŵp Perlau Tâf a ffurfiwyd gan un o athrawon mathemateg yr ysgol, John Arfon Jones.

Wedi cyfnod byr yn gweithio mewn banc aeth Tecwyn Ifan i Goleg y Bedyddwyr, Bangor, gyda golwg ar fynd i’r weinidogaeth. Tra oedd yno ffurfiodd y grŵp gwerin Ac Eraill ar y cyd â Cleif Prendelyn (llais), Iestyn Garlick (llais) a Phil ‘Bach’ Edwards (gitâr). Adleisiai nifer o’i ganeuon, megis ‘Tua’r Gorllewin’ a ‘Cwm Nant Gwrtheyrn’, anogaeth Mudiad Adfer i ieuenctid grynhoi ym mroydd Cymraeg arfordir y gorllewin (am ddadansoddiad pellach o’r gân hon a dylanwad Adfer ar ganu pop y cyfnod, gw. ap Siôn 2002, 168–69). Yn ogystal, cyfansoddodd Tecwyn Ifan nifer o’r caneuon ar gyfer yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin yn 1974.

Erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ddilynol ym Mro Dwyfor, a gyda chwalu Ac Eraill, roedd Tecwyn Ifan yn canu ar ei ben ei hun. Gyda chefnogaeth Emyr Llewelyn, sefydlydd Mudiad Adfer, cyfansoddodd ganeuon ar gyfer y sioe gerdd Heledd y flwyddyn honno a’r sioe gerdd Yr Anwariaid a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhawyd ei record hir gyntaf, Y Dref Wen (Sain, 1977). Roedd yn cynnwys nifer o ganeuon o’r sioeau hyn ac yn ddatganiad clir o’i weledigaeth o’r perygl o ddifodiant broydd a cholli tir fel a ddigwyddodd yn hanes Cymry’r gororau a llwythau megis y Navaho. Daeth gwersyll Bosque Redondo yr un mor adnabyddus â Chatraeth. Fe ddaeth cân deitl y record, gyda’i hapêl at y Cymry i ‘ail-adfer bro’, yn anthem answyddogol y mudiad.

Yr un flwyddyn cafodd ei ordeinio’n weinidog yn ardal San Clêr, ac roedd y caneuon ar ei albwm nesaf Dof yn Ôl (Sain, 1978) yn cyfeirio at Amos trwy ei ddisgrifio fel bugail bro a welodd drallod bywyd dinesig gan annog ei bobl i ddychwelyd i burdeb y wlad. Rhyddhaodd Sain chwe albwm arall gan y canwr ar y themâu cyfarwydd a chan gyfeirio at dlodi ac anghyfiawnder yn Ne America a gwledydd y Trydydd Byd: Goleuni yn yr Hwyr (1979), Edrych i’r Gorwel (1981), Herio’r Oriau Du (1983), Stesion Strata (1990), Sarita (1997) ac Y Wybren Las (2004), yn ogystal â Y Goreuon (1995) a’r casgliad cyflawn Llwybrau Gwyn (2012).

Dyfarnwyd Tecwyn Ifan yn Brif Ganwr Unigol Gwobrau Sgrech yn 1979 ac 1980. Bu ei fab, Gruffudd, yn aelod o’r Texas Radio Band a’i wraig, Rhiannon, yn arweinydd y côr cerdd dant Parti’r Gromlech. Treuliodd gyfnod yn weinidog yn ardal Pontrhydfendigaid cyn dychwelyd i hen ofalaeth ei dad yn 1988 ac yna ymuno â Menter Iaith Sir Benfro cyn symud i ardal Llanrwst i fod yn Ysgogydd Crefyddol. Profodd y jîns a’r trawswch trwchus yn gymaint o her i saint ei ofalaethau ag oedd negeseuon ei bregethau. Mynnai fod ei ganeuon yn estyniad o’i waith yn y pulpud am eu bod bob amser yn ceisio cyfleu neges.

Hefin Wyn

Disgyddiaeth

[gydag Ac Eraill]

  • Tua’r Gorllewin [EP] (Sain S34, 1973)
  • Addewid [EP] (Sain S43, 1974)
  • ‘Nia Ben Aur’ [sengl] (Sain S45, 1974)
  • Diwedd y Gân (Sain 1046, 1976)

[recordiau unigol]

  • Y Dref Wen (Sain 1071M, 1977)
  • Dof yn Ôl (Sain 1119M, 1978)
  • Goleuni yn yr Hwyr (Sain 1156M, 1979)
  • Edrych i’r Gorwel (Sain 1221M, 1981)
  • Herio’r Oriau Du (Sain 1272M, 1983)
  • Stesion Strata (Sain C447, 1990)
  • Sarita (Sain SCD2170, 1997)
  • Y Wybren Las (Sain SCD2453, 2004)

Casgliadau:

  • Goreuon Tecwyn Ifan (Sain SCD2096, 1995)
  • Llwybrau Gwyn – y casgliad llawn (Sain 2672, 2012)

Llyfryddiaeth

  • Tecwyn Ifan, Caneuon Tecwyn Ifan (Talybont, 2013)
  • Pwyll ap Siôn, ‘“Yn y Fro”: Mudiad Adfer a’r Canu Pop Cymraeg yn ystod y 1970au’, Hanes Cerddoriaeth Cymru 5 (2002), 162–89



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.