Is-olygydd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Subeditor/Sub

Swyddogaeth olygyddol o dan oruchwyliaeth golygydd papur newydd neu gylchgrawn, lle y mae’r is-olygydd yn cywiro a golygu’r copi cyn ei gyhoeddi. Gall tasgau’r is-olygydd gynnwys sicrhau cydymffurfiaeth ag arddull tŷ, sicrhau cywirdeb ffeithiol a gramadegol, addasu cystrawen ac ysgrifennu penawdau.

Fel rheol, bydd ‘prif is-olygydd’ yn goruchwylio gwaith yr is-olygyddion eraill. Pan fydd newyddiadurwyr yn ysgrifennu eu copi yn gywir, ac felly’n lleihau gwaith yr is-olygyddion, yna byddant yn cael enw da yn y sefydliad newyddion.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.