Jenkins, Cyril (1889-1978)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddodd Cyril Jenkins dros 600 o weithiau amrywiol, gan gynnwys ffurfiau offerynnol megis cerddoriaeth siambr, symffonïau, consierti, rhanganau a darnau sylweddol i fandiau pres ac i gôr a cherddorfa. Fe’i ganed yn Nynfant, Abertawe, cyn symud yn chwech oed i Gilfynydd, ger Pontypridd. Bu’n organydd capel Moriah yno am ddeng mlynedd, ac wedi hynny yn organydd ym Methania, Treorci, o 1908 hyd 1913. Yn y cyfnod hwn bu’n astudio gyda Harry Evans, yr organydd W. G. Alcock (1861-1947), y cyfansoddwr C. V. Stanford (1852–1924) ac, yn ôl ei dystiolaeth ei hun, Ravel. Daeth yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei feirniadaeth gyson a didrugaredd o Joseph Parry, a oedd yn dal i fod yn eilun yng Nghymru ganrif yn ôl. Ni faddeuodd ei gyd-genedl iddo.

Cafodd Jenkins yrfa liwgar: bu’n gyfarwyddwr cerdd Cyngor Sir Llundain (LCC) ac yn is-lywydd Cerddorfa Symffoni Llundain (LSO), yna’n arholi yn Awstralia lle’r aeth er lles ei iechyd. Am gyfnod wedyn bu’n gyfarwyddwr côr enwog Tabernacl y Mormoniaid, Salt Lake City yn Utah. Enillodd wobrau am gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pherfformiwyd llawer o’i weithiau yn y Brifwyl, mewn cyngherddau (e.e. Young Lochinvar i gerddorfa yng Nghaerfyrddin, 1911) ac fel darnau prawf (e.e. Ode to the West Wind ar gyfer corau cymysg, a Sea Fever i gorau meibion, yn Rhydaman, 1922). Bu deunaw o gorau meibion yn cystadlu ar ei Fallen Heroes ym Mhrifwyl y Fenni, 1913. Gosodwyd nifer o’i weithiau fel darnau prawf ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Prydain (e.e. Coriolanus, 1920; Life Divine, 1921; Victory, 1929) sydd yn tystio i’w feistrolaeth o’r cyfrwng hwnnw; a cheidw Life Divine ei boblogrwydd hyd heddiw.

Mynegodd yn ddi-flewyn-ar-dafod ei farn fod Cymru ymhell ar ei hôl hi’n gerddorol, a rhwng 1913 ac 1920 aeth ati i geisio gwella’r sefyllfa trwy hyrwyddo gwyliau cerddorfaol yn ne Cymru a denu pobl amlwg fel Henry Wood, Elgar a Vaughan Williams i’w harwain, er mai cynulleidfaoedd tila a gafwyd. Cymeriad cynhennus, dadleugar oedd Cyril Jenkins. Gwylltiodd ei gyd-Gymry trwy eu cyhuddo o fod yn hunanfodlon ac awgrymu bod ‘mwy o gyfansoddwyr i’r filltir sgwâr yng Nghymru nag oedd areithwyr yn Athen gynt’. Dygwyd sawl achos cyfreithiol yn ei erbyn am gerdd-ladrad honedig ond roedd yn gerddor dawnus gyda syniadau blaengar ar sut i ddyrchafu safonau beirniadaeth yng Nghymru. Cofir amdano’n bennaf fodd bynnag oherwydd ei ymosodiadau digyfaddawd ar ei gyd-gerddorion Cymreig, ac ar enw Joseph Parry yn arbennig:

Nid yw cerddoriaeth Parry ar ei gorau ond eilradd, ac ar ei gwaethaf is-law sylw. Ni wn am un tudalen a ddwg nodau athrylith. Ar y llaw arall gwn am ugeiniau, ie cannoedd o dudalennau sy’n druenus o wan, mor dlawd mewn syniadau, mor chwerthinllyd o ddiystyr, fel yr wyf wedi bod yn gwrido wrth eu chwarae, am eu bod wedi eu hysgrifennu gan Gymro ... a bod fy nghydwladwyr … yn parhau i’w cyfri yn waith ysbrydoledig athrylith. Ni feddai Parry athrylith.’ (Jenkins 1921, 239)

Gareth Williams

Llyfryddiaeth

  • G. Cumberland, ‘Cyril Jenkins: Musician and Composer’, Wales, v (1913), 34–8
  • Cyril Jenkins yn E. Keri Evans (gol.), Cofiant Dr Joseph Parry (Caerdydd, 1921)
  • A. J. Heward Rees, ‘Cyril Jenkins, 1889–1978’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 5/9 (1978), 80



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.