John ac Alun

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Deuawd canu gwlad o Ben Llŷn yw John ac Alun a ddaeth yn boblogaidd yn ystod degawd olaf yr 20g. Bu’r pâr – John Jones ac Alun Roberts - yn aelodau o fandiau lleol yn ystod yr 1970au a’r 1980au, gyda John yn amlwg yn y band roc, Y Melinwyr. Y tro cyntaf iddynt berfformio fel deuawd oedd ar ddiwedd noson gymdeithasol yn 1989 a hynny yn nhafarn y Lion, Tudweiliog (y pentref lle magwyd y ddau), wrth iddynt chwarae set fyrfyfyr gyda’i gilydd. Yn dilyn perfformiadau cyson yn ardal Llŷn, daethant i sylw’r cyhoedd yng Nghymru yn sgil ymddangosiad ar raglen deledu ar sianel HTV.

Apeliodd agwedd ddidwyll y ddau ynghyd â’u caneuon gwlad di-ffws at Gymry cefn gwlad a Chymry’r dosbarth gweithiol fel ei gilydd. Cafodd eu halbwm cyntaf, Yr Wylan Wen, ei ryddhau gan Gwmni Sain yn 1991 ac fe’i dilynwyd gan Chwarelwr yn 1992 (yn ddiweddarach, cyfunwyd y ddwy record ar un gryno-ddisg). Daeth ‘Chwarelwr’ - eu trefniant o gân Rita MacNeil ‘Working Man’ – yn hynod boblogaidd, ac yr oedd eu recordiau yn cyfuno caneuon gwreiddiol gydag addasiadau o ganeuon Eingl-Americanaidd a ffefrynnau Cymraeg megis ‘Bod yn Rhydd’ (trefniant o ‘Achy Breaky Heart’ gan Don Von Tress) a 'Calon Lân'. Bu’r ddau albwm yn llwyddiant ysgubol, gan werthu miloedd o gopïau o fewn misoedd, ac yn 1997 derbyniodd y ddeuawd ‘Record Aur’ gan Sain am werthu dros 25,000 o gopïau o’u recordiadau. Yn 1999, sefydlwyd Clwb Dilynwyr John ac Alun, ac roedd oddeutu 200 o aelodau wedi ymuno ag ef erbyn 2001.

Perfformiodd John ac Alun mewn cyngerdd arbennig yn y Pafiliwn, Pontrhydfendigaid, ym mis Medi 2009 i ddathlu ugain mlynedd ers eu sefydlu. Ers 1998, maent wedi bod yn cyd-gyflwyno rhaglen boblogaidd wythnosol ar BBC Radio Cymru. Er fod artistiaid megis Doreen Lewis, Dafydd Iwan a Traed Wadin wedi defnyddio arddulliau canu gwlad yn eu caneuon yn ystod yr 1970au a’r 80au, bu twf pellach ym mhoblogrwydd y ffurf yn ystod yr 1990au, gyda deuawdau fel Iona ac Andy, Dylan a Neil a Broc Môr yn profi cryn lwyddiant (gw. ap Siôn 1997, 42–3). Ond heb amheuaeth, John ac Alun fu’r mwyaf poblogaidd ym maes canu gwlad yng Nghymru yn ystod y cyfnod.

Craig Owen Jones a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Yr Wylan Wen/Chwarelwr (Sain SCD2077, 1994)
  • Os Na Ddaw Yfory (Sain SCD2112, 1995)
  • Y ’Dolig Gorau Un (EP) (Sain SCD2176, 1997)
  • Un Noson Arall (Sain SCD2172, 1997)
  • Unwaith Eto (Sain SCD2184, 1998)
  • Crwydro (Sain SCD2242, 2000)
  • Tiroedd Graslon (Sain SCD2370, 2002)
  • Hel Atgofion (Sain SCD2496, 2006)

Casgliadau:

  • Goreuon/Best Of (Sain SCD2456, 2004)
  • John ac Alun – Y Goreuon Eto (Sain SCD2706, 2013)

Llyfryddiaeth

  • Pwyll ap Siôn, ‘Canu Gwlad yng Nghefn Gwlad’, Barn, 413 (Mehefin 1997), 42–3
  • Caneuon John ac Alun (Talybont, 2003)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.