Jones, Aled (g.1970)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr a darlledwr, yn wreiddiol o Landegfan, Ynys Môn. Dechreuodd ar ei yrfa gerddorol yn naw oed pan ddaeth yn aelod o Gôr y Gadeirlan ym Mangor. Sylweddolwyd yn fuan fod llais arbennig ganddo a chafodd lwyddiant eisteddfodol yn gynnar iawn, gan gynnwys yr unawd cerdd dant dan ddeuddeg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Fe’i recordiwyd gan Gwmni Sain a daeth i enwogrwydd rhyngwladol ar ôl perfformio fersiwn cover o ‘Walking in the Air’ o ffilm animeiddiedig The Snowman (Channel 4, 1982). Cyrhaeddodd y record rif pump yn y siartiau Prydeinig yn 1985. Yr un flwyddyn cynhyrchwyd rhaglen am ei fywyd yng nghyfres ddogfen Omnibus y BBC dan y teitl The Treble ac enillodd hon Wobr Emmy. Cyhoeddwyd y cofiant cyntaf iddo yn y flwyddyn ddilynol pan nad oedd ond yn bymtheg oed.

Yn 1985 torrodd ei lais ond erbyn hynny roedd wedi recordio 16 albwm gyda gwerthiant o fwy na chwe miliwn. Canodd o flaen y Pab John Paul II, y Frenhines a’r Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana. Cymaint oedd ei lwyddiant fel bod dau albwm clasurol ganddo wedi ymddangos ar yr un pryd yn y siartiau cerddoriaeth boblogaidd. Parhaodd i ganu darnau clasurol ac un o’i berfformiadau clasurol mwyaf nodedig oedd yn Chichester Psalms dan arweiniad cyfansoddwr y gwaith, Leonard Bernstein (1918-90).

Cyn ailafael yn ei yrfa broffesiynol, y tro hwn fel oedolyn, astudiodd Aled Jones yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a’r Bristol Old Vic Theatre School. Cafwyd pwyslais ar ganeuon gyda naws grefyddol iddynt ond daeth y llwyfan theatrig hefyd yn bwysig iddo. Cymerodd ran Huw Morgan yn How Green was My Valley ac wedi hyn bu’n canu mewn gweithiau fel Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat (Andrew Lloyd Webber).

Oherwydd ei bersonoliaeth agored a chyfeillgar datblygodd ei sgiliau amlwg fel cyflwynydd yn y cyfryngau, ac nid bob amser mewn rhaglenni crefyddol, er i’w ymddangosiadau ar Songs of Praise ennill poblogrwydd mawr iddo. Yn 2012 bu’n llwyddiannus yn cyflwyno Daybreak ar ITV ac yn 2014 symudodd i gyflwyno Weekend gyda’r un sianel. Cyflwynodd Escape to the Country i’r BBC a Cash in the Attic, ac yn Awstralia bu’n cyflwyno Classical Destinations 3 ac Aled Jones’ Ultimate Travel Guide to Classical Music. Cyfrannodd yn gyson i amrywiol raglenni ar S4C.

Bu’n gyflwynydd ar Classic FM, ar Radio Cymru a Radio Wales. Fe’i clywir ar The Choir (Radio 3), Friday Night is Music Night (Radio 2) a llawer o raglenni radio eraill. Yn 2005 cyhoeddwyd ei hunangofiant, Aled: The Autobiography, ac yn 2013 cafwyd hunangofiant mwy swmpus dan y teitl Aled Jones: My Story. Yn 2014 daeth yn Gymrawd Anrhydeddus o’r Academi Gerdd Frenhinol, ac yn yr un flwyddyn derbyniodd yr MBE.

Richard Elfyn Jones

Disgyddiaeth

  • Diolch â Chân (Sain 1294D, 1983)
  • Ave Maria (Sain 1304D, 1984)
  • Aled Jones with the BBC Welsh Chorus (BBC Records VVIP105, 1985)
  • Voices from the Holy Land (BBC Records REC564, 1985)
  • All Through the Night (BBC Records REH569, 1985)
  • An Album of Hymns (Telstar STAR2272, 1986)
  • Pie Jesu (10 Records AJCD2, 1986)
  • Aled (Music from the TV Series) (10 Records AJCD3, 1987)
  • Sailing (10 Records AJCD4, 1987)
  • Aled (Universal 064479-2, 2002)
  • Higher (Universal 986557-9, 2003)
  • Hear My Prayer (Sain SCD2426, 2003)
  • The Christmas Album (Universal 986864-9, 2004)
  • New Horizons (Universal 4763062, 2005)
  • Reason to Believe (Universal 1747937, 2007)

Casgliadau:

  • The Best of Aled Jones (BBC Records BBCCD569, 1985)
  • Memory - The Best of Aled Jones (Victor VDC-1300, 1988)

Llyfryddiaeth ddethol

  • Aled: The Autobiography (Llundain, 2005)
  • Aled Jones: My Story (Llundain, 2013)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.